成人快手

Gwaredu gwastraff niwclear

Gallwn ni waredu gwastraff niwclear lefel isel, fel menig halogedig, mewn safleoedd tirlenwi. Mae hi'n anoddach gwaredu gwastraff lefel uwch - mae hwn yn gallu bod yn beryglus o ymbelydrol. Gallwn ni ei ailbrosesu i echdynnu tanwydd niwclear neu ei gau mewn gwydr a'i adael yn bell o dan y ddaear.

Lefelau gwastraff niwclear

LefelEnghreifftiauGwaredu
IselCyfarpar, defnyddiau a dillad amddiffynnol halogedig.Ei waredu mewn drymiau a'i amgylchynu 芒 choncrit, ac mewn safleoedd tirlenwi wedi'u leinio 芒 chlai.
CanoligCydrannau o adweithyddion niwclear, ffynonellau ymbelydrol wedi'u defnyddio ym maes meddygaeth neu ymchwil.Ei gymysgu 芒 choncrit a'i roi mewn drwm dur gwrthstaen mewn storfa bwrpasol.
UchelHen danwydd niwclear a chemegion o ailbrosesu tanwyddau.Ei storio dan ddaear mewn pyllau mawr am 20 mlynedd, yna ei roi mewn casgenni storio mewn storfeydd tanddaearol pwrpasol lle mae aer yn gallu cylchredeg i gael gwared ar y gwres sy'n cael ei gynhyrchu. Mae gwastraff lefel uchel yn dadfeilio i ffurfio gwastraff lefel ganolig dros filoedd o flynyddoedd.
LefelIsel
EnghreifftiauCyfarpar, defnyddiau a dillad amddiffynnol halogedig.
GwareduEi waredu mewn drymiau a'i amgylchynu 芒 choncrit, ac mewn safleoedd tirlenwi wedi'u leinio 芒 chlai.
LefelCanolig
EnghreifftiauCydrannau o adweithyddion niwclear, ffynonellau ymbelydrol wedi'u defnyddio ym maes meddygaeth neu ymchwil.
GwareduEi gymysgu 芒 choncrit a'i roi mewn drwm dur gwrthstaen mewn storfa bwrpasol.
LefelUchel
EnghreifftiauHen danwydd niwclear a chemegion o ailbrosesu tanwyddau.
GwareduEi storio dan ddaear mewn pyllau mawr am 20 mlynedd, yna ei roi mewn casgenni storio mewn storfeydd tanddaearol pwrpasol lle mae aer yn gallu cylchredeg i gael gwared ar y gwres sy'n cael ei gynhyrchu. Mae gwastraff lefel uchel yn dadfeilio i ffurfio gwastraff lefel ganolig dros filoedd o flynyddoedd.