Mae gan dri gronyn isatomig wahanol wefrau a masau. Mae gronynnau ymbelydrol yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd alffa, beta a gama - ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol ac artiffisial.
Mae ymbelydredd cefndir o'n cwmpas ni ym mhob man. Mae rhywfaint ohono'n dod o ffynonellau naturiol a rhywfaint yn dod o ffynonellau artiffisial.
Ffynonellau naturiol
Mae ffynonellau ymbelydredd cefndir naturiol yn cynnwys:
pelydrau cosmig - ymbelydredd sy'n cyrraedd y Ddaear o'r gofod
creigiau a phridd - mae rhai creigiau yn ymbelydrol ac yn rhyddhau nwy radon ymbelydrol
pethau byw - mae planhigion yn amsugno defnyddiau ymbelydrol o'r pridd ac mae'r rhain yn symud i fyny'r gadwyn fwyd
I'r rhan fwyaf o bobl, ffynonellau naturiol sy'n gwneud y cyfrannu fwyaf at ymbelydredd cefndir.
Ffynonellau artiffisial
Allwn ni ddim gwneud llawer am ymbelydredd cefndir naturiol. Wedi'r cyfan, allwn ni ddim rhoi'r gorau i fwyta, yfed neu anadlu i'w osgoi.
Fodd bynnag, mae gweithgareddau bodau dynol wedi ychwanegu at ymbelydredd cefndir drwy greu a defnyddio ffynonellau artiffisial o ymbelydredd. Mae'r rhain yn cynnwys:
pelydrau-X meddygol
alldafliad ymbelydrol o brofi arfau niwclear
gwastraff ymbelydrol o atomfeydd
Ffynonellau artiffisial sy'n gyfrifol am tua 15 y cant o'r dos cyfartalog o ymbelydredd cefndir. Mae'r ymbelydredd cefndir artiffisial bron i gyd yn dod o weithdrefnau meddygol, fel derbyn pelydrau-X ar gyfer ffotograffau pelydr-X.