成人快手

Hafaliadau niwclear

Mae hafaliadau niwclear yn dangos dadfeiliad alffa a beta unigol.

Symbolau

Gallwn ni gynrychioli atom fel hyn.

\(_{Z}^{A}\textrm{X}\)

A yw'r rhif niwcleon (nifer y + ).

Z yw'r rhif atomig (nifer y protonau).

X yw'r symbol cemegol (fel sydd wedi'i ddangos yn y ).

Dadfeiliad alffa

Mae niwclews yn colli dau broton a dau niwtron wrth allyrru gronyn alffa. Mae hyn yn golygu:

  • mae'r rhif niwcleon yn lleihau o 4
  • mae'r rhif atomig yn lleihau o 2

Mae elfen newydd yn ffurfio, sydd ddau safle i'r chwith i'r elfen wreiddiol yn y tabl cyfnodol.

Er enghraifft, mae radon yn dadfeilio i ffurfio poloniwm wrth allyrru gronyn alffa. Dyma hafaliad y dadfeiliad ymbelydrol hwnnw.

\(_{86}^{219}\textrm{Rn}\rightarrow_{84}^{215}\textrm{Po}+_{2}^{4}\textrm{a}\)

Dadfeiliad beta

Mewn dadfeiliad beta, mae niwtron yn troi'n broton ac . Mae'r proton yn aros yn y niwclews. Mae'r electron yn gadael yr atom 芒 llawer o egni ar ffurf gronyn beta.

Mae gan y niwclews un proton yn fwy ac un niwtron yn llai ar 么l allyrru gronyn beta. Mae hyn yn golygu:

  • mae'r rhif niwcleon yn aros yr un fath
  • mae'r rhif atomig yn cynyddu o 1

Er enghraifft, mae Carbon-14 yn Carbon ymbelydrol. Dyma hafaliad dadfeiliad beta Carbon-14 i ffurfio Nitrogen.

\(_{6}^{14}\textrm{C}\rightarrow_{7}^{14}\textrm{N}+_{-1}^{0}{\beta}\)