成人快手

Mae dadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap

Mae yn ansefydlog. Maen nhw'n dadelfennu ac yn troi'n fath cwbl wahanol o atom. Dadfeiliad ymbelydrol yw hyn.

Er enghraifft, mae Carbon-14 yn dadfeilio i ffurfio Nitrogen-14 wrth allyrru ymbelydredd beta. Wrth i'r dadelfeniad hwn ddigwydd, mae actifedd unrhyw ffynhonnell ymbelydrol yn lleihau. Rydyn ni'n mesur yr actifedd hwn mewn becquerelau.

Dydy hi ddim yn bosibl rhagfynegi pryd mae atom unigol yn mynd i ddadfeilio. Ond mae hi鈥檔 bosibl mesur pa mor hir mae hi'n ei gymryd i hanner niwclysau darn o ddefnydd ymbelydrol ddadfeilio. Yr amser hwn yw yr isotop ymbelydrol.

Dau ddiffiniad

Mae dau ddiffiniad o hanner oes, ond maen nhw'n golygu yr un peth yn y b么n:

  • yr amser mae鈥檔 ei gymryd i nifer y niwclysau o'r isotop mewn sampl haneru
  • yr amser mae'n ei gymryd i sampl sy'n cynnwys yr isotop ostwng i hanner ei lefel wreiddiol

Mae gan wahanol isotopau ymbelydrol wahanol hanner oesau. Er enghraifft, mae hanner oes Carbon-14 yn 5,715 blwyddyn, ond dim ond 20 munud yw hanner oes Ffranciwm-223.

Graffiau

Gallwn ni ganfod hanner oes sylwedd ymbelydrol drwy edrych ar graff o'r gyfradd cyfrif yn erbyn amser. Mae鈥檙 graff yn dangos cromlin dadfeiliad sylwedd ymbelydrol.

Graff hanner oes sylwedd ymbelydrol sydd'n plotio cyfrifon y funud yn erbyn amser (dyddiau).
Figure caption,
Cromlin dadfeiliad sylwedd ymbelydrol

Mae'r gyfradd cyfrif yn gostwng o 80 i 40 cyfrif y munud mewn dau ddiwrnod, felly yr hanner oes yw dau ddiwrnod. Yn y ddau ddiwrnod nesaf, mae'n gostwng o 40 i 20 - mae'n haneru. Yn y ddau ddiwrnod ar 么l hynny, mae'n gostwng o 20 i 10 - mae'n haneru eto - ac yn y blaen.