|
|
Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia
Rhodri Gravell, Mili Mererid, Lyndsey Jones, David Morris, Alex Jones a Ryan Weir o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau, yn sôn am eu camp yn dod yn drydydd yn y byd gyda chynllun busnes yn ymwneud ag arbed dŵr.
|
Fel myfyrwyr Astudiaetrhau Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor yr oeddem wrth ein boddau cael ein dewis i gynrychioli'r coleg yn ffeinal Gymreig y Global Enterprise Challenge yng Nghaerdydd ddiwedd Chwefror.
Clwb busnes
Fe'n dewiswyd oherwydd ein hymrwymiad i'r Clwb Busnes gwirfoddol sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos yn y coleg.
Fel aelodau gweithgar ohono, a'n gobeithion i fod â'n cwmnïau ein hunain rhyw ddiwrnod, yr oeddem yn benderfynol o wneud yn dda ac yn hyderus o gofio mai'n coleg ni fu'n fuddugol yng Nghaerdydd y llynedd. Ac fe dalodd ein dycnwch ninnau eleni!
Trefnir y gystadleuaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n golygu sy'n golygu gwaith tîm, llunio cynllun busnes a gwneud cyflwyniad - i gyd o fwewn pedair awr ar hugain.
Yr her benodol eleni oedd: Creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n llenwi bwlch penodol yn y farchnad o fewn eich ardal chi.
Gyrru gwell A'n syniad ni oedd creu busnes di-elw mewn lle cyfleus i wella sgiliau gyrru pobl ifainc ar ffyrdd culion cefn gwlad ac yn ystod tywydd garw gan ymgorffori gwybodaeth am eco-danwydd a cheir gwyrdd.
Doedd y dewis ddim yn un anodd o gofio inni golli dau gyfaill o'r coleg y llynedd a'n bod yn adnabod nifer o o rai eraill a fu mewn damweiniau.
Yn dilyn llwyddiant Caerdydd yr oeddem wedi gwirioni'n lân sylweddoli mai yn Sydney, Awstralia, yr oedd y rownd derfynol fydeang a chyda chymorth y Cynulliad ac Ymddiriedolaeth Peter Saunders o Dywyn, Meirionnydd yno yr aethom!
Pump y bore Wedi taith hir cyrhaeddom Sydney hanner awr wedi pump ar fore Sadwrn - gyda'r prawf 24 awr yn dechrau am 11 y bore Sul!
Ond aed a'r gwynt rywfaint o'n hwyliau pan gyhoeddwyd mai paratoi cynllun manwl ac arloesol i leihau'r pwysau ar adnoddau dŵr oedd y dasg.
Gan fod dŵr ymhell o fod yn brin yma yng Nghymru yr oedd meddwl am brinder yn anodd ond yn y diwedd cawsom y syniad o greu cwmni ymgynghori a fyddai'n darparu cyngor ymwybyddiaeth dŵr i ysgolion a busnesau er mwyn creu ymwybyddiaeth arhosol o'r camddefnydd sydd yna o un o adnoddau pwysicaf y byd.
Yn drydydd Y prif nod o fewn ein cynllun oedd sicrhau fod y Cynulliad yn cynnwys ar y cwricwlwm addysg bwysigrwydd bod yn ddarbodus gyda dwr fel bo dwr sy'n cael ei wastraffu ar gael ar gyfer lleoedd eraill lle mae ei fawr angen.
Yn dilyn ymchwil marchnad a dadansoddiad ariannol lluniwyd cynllun busnes a sylfaenu ein cyflwyniad ar ddigwyddiad yn ystafell ddyddiadur Big Brother!
Yr oeddem wrth ein boddau pan gyhoeddwyd am hanner nos ddydd Llun inni ddod yn drydydd drwy'r byd i gyd - gyda Seland Newydd ac Awstralia yn gyntaf ac yn ail!
Gellir gweld manylion ein cynlluniau a'n cyflwyniadau (Gwefan Saesneg)
|
|