成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Peintio tractor am ein lle Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!
Bu Sarah Marion Jones sy'n dod o Lanbedrog ger Pwllheli yn teithio yn Awstralia efo Lisa Charles o Lanuwchllyn a Sian Jones o'r Frongoch ger Y Bala. Dyma ail erthygl Sarah.

Nadroedd a phryf cop
Wrth gerdded allan o'r caban yn meddwl am fy mrecwast bu bron imi a rhoi fy nhroed ar glamp o neidr fawr hyll.

Red Belly Snake oedd hi - neidr ddu, folgoch - un o'r rhai mwyaf gwenwynig yn Awstralia.

Roeddem ein tair - Lisa, Sian a minnau - wedi hurtio'n lân ac yn sgrechian am i Glen ddod i'n helpu.

Rhedodd yntau atom yn ei byjamas efo rhaw yn ei law.

Wyddwn i ddim fod modd torri pen neidr i ffwrdd efo rhaw o'r blaen ond mae'n siwr fod Glen wedi cael digon o ymarfer gan inni weld dipyn mwy o'n cyfeillion bach newydd yn ystod y dyddiau canlynol!

Gweithio am ein lle
Roeddem ein tair yn aros yn Secluded Springs, fferm Glen a Sue ger Bundaberg.

Gweithio am ein llety oeddem ni - tair awr bob bore am le i aros mewn caban pwrpasol wrth ochr llyn ac yn cael helpu'n hunain i bopeth oedd yn tyfu yn yr ardd: melons, passionfruit, pinafal, chillies, pupur coch, pumpkins.

Mae dinas Bundaberg ar arfordir Queensland. Dyma bwynt mwyaf deheuol y Great Barrier Reef gyda miloedd o deithwyr prin o arian yn heidio yno yn y gobaith o gael gwaith ar y ffermydd ffrwythau a llysiau.

Siwgwr yw'r prif gnwd ac amser y cynhaeaf mae prysurdeb mawr gyda'r cane-train yn cludo cynnyrch y ffermwyr i'r gweithfeydd cyfagos i gael ei drin.

Rum & Coke ar dâp!
Cynhyrchir y rum enwog Bundy yma a dyma'r tro cyntaf i mi weld Rum a Coke ar dap mewn tafarn.

Roedd ein gwaith yn amrywio o warchod Sophia, merch ddwyflwydd, afresymol, Glen a Sue, i lanhau eu ty a helpu Glen beintio rhai o'i beiriannau yn barod ar gyfer eu gwerthu.

Nid nadroedd yw'r unig bethau peryg yn Secluded Springs. Un noson ymwelodd pry-cop Huntsman â ni.

"Hitia fo"
Mae'r creadur blewog, du, yma gymaint â fy llaw felly gallwch ddychmygu ofn a dychryn y tair merch yn ei gwmni!

Gafaelodd Sian mewn brwsh llawr a Lisa mewn chwistrell lladd pryfetach er mwyn cornelu'r bwystfil.

Fy nghyfraniad i oedd sefyll ar ben y gwely yn gweiddi pethau fel "Hitia fo!"
"Rwan!!".

Colbiwyd y copyn. A ninnau'n tair yn go falch inni fedru dygymod a'r sefyllfa heb help dyn.
Sarah Marion Jones





cysylltiadau




awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy