成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gethin a Rachel ei wraig Aur a'r Gair yn Awstralia
Gethin Mathews yn olrhain hynt rhai o gapeli Cymraeg Awstralia

Fe gydiodd y dwymyn aur ar lawer o ddynion ifainc Cymru, wedi i'r metel hudol gael ei ddarganfod yn Awstralia ym 1851.

Capel ym Melbourne Roedd papurau Cymru'n llawn o adroddiadau ffafriol am gyfoeth newydd y drefedigaeth a hysbysebion y cwmnïau llongau, tra bo cyhoeddwyr y wlad yn rhuthro i ddod â llyfrau allan i fanteisio ar y diddordeb.

Ysgrifennodd Hugh Williams o Gaernarfon lyfr am ei anturiaethau ym meysydd aur Ballarat, gan ddatgan:
"Awstralia yw'r wlad orau a welais i erioed i ddynion gael cysur bywoliaeth ynddi, a dymunwn yn fawr i filoedd o ddynion ieuainc, iachus, sobr a gweithgar Cymru fyned yno."

Fe wireddwyd dymuniad Hugh Williams yn y blynyddoedd ar ôl hyn, wrth i filoedd o Gymry heidio i feysydd aur y wlad.

Capel Ross CreekUn ffordd seml i olrhain ble ymgartrefodd y Cymry yw gweld lle sefydlwyd achosion Cymreig: yn y 1860au roedd dros ugain o gapeli Cymraeg yn nhalaith Victoria.

Bellach mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau wedi diflannu neu'n cael eu defnyddio i ddibenion eraill - neu, fel capel Ross Creek yn y meysydd aur ger Ballarat, yn adfeilion.

Ond mae dau o gapeli'r Cymry'n llewyrchus hyd heddiw.

Oherwydd y rhuthrau aur, fe dyfodd Melbourne, prifddinas Victoria, i fod yn ganolfan o bwys.

Capel ym Melbourne O 1852 ymlaen roedd gan Gymry'r ddinas wasanaethau rheolaidd yn iaith y nefoedd - ac maen nhw'n parhau o hyd.

Sefydlwyd eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn 1854 yng nghanol y ddinas a oedd yn tyfu'n gyflym. Yn ôl y chwedl, cafodd yr eglwys newydd yr hawl i berchenogi dwy erw o dir pe gallai'r aelodau ei amgylchynu â ffens.

Fodd bynnag, gyda chymaint o ddynion i ffwrdd yn y meysydd aur, nid oedd y gwragedd a'r dynion oedd ar ôl yn gallu cyflawni'r dasg, a dim ond un erw gafodd ei ffensio, a dod yn eiddo i'r capel.

Er hynny, mae perchenogi un erw o dir mwyaf gwerthfawr Melbourne yn dal yn fuddiol iawn i'r capel.

Capel ym Melbourne Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1871, ac wrth gamu i mewn iddo mae'r teithiwr yn teimlo nad adawodd Gymru!

Mae'r cyfan yn cyd-fynd â'n syniad o'r hyn ddylai capel Cymraeg fod - o'r meinciau pren hardd i'r ffenestr o wydr lliw â'r neges "Yr Arglwydd yw fy Mugail".

Mae'r croeso yr un mor dwymgalon ag â fyddai rhywun yn gobeithio'i gael mewn capel yn yr hen wlad.

Yr hyn sy'n eich hatgoffa eich bod ym mhendraw'r byd yw bod baner Awstralia yn hongian gyferbyn â'r Ddraig Goch.

Mae'r capel Cymraeg arall sydd wedi goroesi yn agos at Ballarat, prif dref meysydd aur Victoria.

Capel CarmelAr un adeg roedd dros ddwy fil o Gymry yn byw yng nghyffiniau'r ddinas, gyda hanner dwsin o gapeli yn eu gwasanaethu.

Sebastopol, tair milltir tua'r de, oedd y faestref lle'r ymgasglodd y Cymry'n bennaf ac yn ôl cyfrifiad 1861, roedd 13% o boblogaeth y dref wedi'u geni yng Nghymru - ac mae'n briodol mai fan hon mae'r capel Cymraeg yn ffynnu o hyd.

"Carmel Welsh Presbyterian Chapel," meddai'r arwydd ar yr heol, ac er mai ond dwy o'r aelodau hynaf sy'n enedigol o'r hen wlad bellach, mae'r gwreiddiau yn cael eu parchu o hyd.

Ffenestr yng Nghapel Carmel"Golau yn y Tywyllwch," meddai'r ffenestr liw er cof am y cloddwyr aur o Gymru a ddaeth a'u ffydd gyda nhw.

Nodweddiadol hefyd yw bod y capel yn enwog am ei gerddoriaeth gyda'r acwsteg o fewn y capel yn arbennig.

Ar ein hymweliad, chwaraeodd y gweinidog Mor Fawr wyt Ti ar yr organ ac fe atseiniodd y sŵn cyfoethog o gwmpas yr adeilad gwag.

Capel CarmelDdwywaith y flwyddyn, mae'r capel yn cynnal "Cymanfa Ganu" - gan ddefnyddio'r hen enw o hyd.

Er nad oes fawr neb yn siarad Cymraeg, maent yn gallu canu'r emynau yn yr heniaith, ac felly'r arfer yw i ganu'r pennill cyntaf a'r olaf yn y Saesneg ond gyda phennill yn y Gymraeg yn y canol.




cysylltiadau
Erthyglau eraill Gethin

awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy