|
|
Rhyfeddodau Awstralia
Mae Lowri Roberts o Lanwddyn newydd ddychwelyd o Awstralia yn dilyn ymweliad go arbennig i'r teulu
|
Chwefror 2005 Pwy fedrai ddychmygu cael cinio Nadolig yng ngwres yr haul a gweld Santa yn cyfarch plant gan chwysu yng ngwres tanbaid ganol haf?
Dyma'r hyn a welais tra'n ymweld â Awstralia yn ddiweddar!
Cysylltiadau teuluol Mae fy mrawd Llewelyn wedi byw yn Melbourne ers chwe blynedd ar ôl ymfudo o Gymru gyda'i gariad a oedd yn dod o Awstralia.
Roedd hyn yn brofiad hiraethus yn enwedig i mam, ond eleni aeth fy nheulu a minnau drosodd i'w weld am y tro cyntaf erioed gan ei fod yn priodi.
Mae'n rhaid cyfaddef fod y daith i Awstralia yn un hynod o hir - rhyw ugain awr - ac nid oedd Mam druan wedi bod yn agos at awyren erioed o'r blaen heb sôn am hedfan i ben draw'r byd.
Ond wedi'r holl boeni am fisoedd cyn y daith fe fwynhaodd y daith ar y cyfan - diolch byth!
Er syndod mawr i mi Dad, nid Mam, oedd yr un a oedd yn gafael yn dynn yn ystod adeg o dyrbiwlans!!
Gwlad Enfawr! Mae Melbourne ar arfordir de-ddwyrain y wlad yn Victoria, talaith leiaf Awstralia.
Er ei bod yn anodd i'w gweld ar y map, wrth deithio o gwmpas mae'n anodd credu pa mor eang yw'r wlad a pha mor bell yw'r holl ddinasoedd oddi wrth ei gilydd.
I roi syniad i chi, pan laniodd ei hawyren ar ochr orllewinol y wlad tybiais ein bod bron wedi cyrraedd ond bu'n bum awr arall cyn inni lanio ym Melbourne ac y sylweddolais pba mor enfawr yw'r wlad o'i chymharu â'r Deyrnas Unedig.
Mae'n cymryd oes i gyrraedd, ond mae'n wlad anhygoel sy'n haeddu'r holl ymdrech o deithio.
Profiadau Bythgofiadwy! Buom yn Awstralia am dair wythnos ac yn yr amser hwnnw gwelsom lawer o bethau na welsom erioed o'r blaen.
Aethom i'r ddinas i weld CBD Melbourne ac roedd hyn yn brofiad anhygoel i mi! Yr haul yn ddisglair a'r awyr yn las a'r holl adeiladau'n edrych yn iach ac yn llewyrchus, nid fel y gwelwn adref ar ddiwrnod gwlyb yng nghanol gaeaf!
Yr adeilad uchaf yn Melbourne yw'r Rialto Tower ac mae'n bosib i chi ymweld â'r llawr uchaf er mwyn gweld yr olygfa drawiadol o'r ddinas oddi tanoch.
Mae'n cymryd rhyw 60 eiliad i gyrraedd y lle gwylio ac wrth fynd i fyny mae eich clustiau yn gwneud sŵn "pop" fel mewn awyren.
Gallwch weld y trac fformiwla un ac afon Yarra a'r holl adeiladau crand.
Ger yr afon a'r ardal a elwir yn South Gate mae'r Crown Casino, adeilad moethus o siopau drud fel Gucci.
Ond hyd yn oed os yw pethau felly braidd yn ddrud, mae'n werth mynd i mewn dim ond er mwyn cael cerdded drwy'r Casino a gweld yr holl oleuadau a'r holl bobl gyfoethog wrthi'n gamblo wrth y byrddau.
Efallai fe welwch un o sêr enwog y byd pêl-droed fel y gwnaeth fy mrawd wrth gyfarfod Phill Neville o dîm Manchester United!
Bywyd gwyllt Yn ogystal â gweld golygfeydd y ddinas, roeddwn yn awyddus iawn i weld bywyd gwyllt y wlad ac ychydig o gefn gwlad.
Gwelais y ddau yn Heallsville Sanctuary, rhyw awr a hanner o'r ddinas lle mae cangarŵs, nadroedd, koalas, dingos a phob math o greaduriaid.
Ond mae'n rhaid cyfaddef mai'r peth gorau i mi oedd cyffwrdd Walabi bach diniwed!
Dwi'n siwr y cytunwch nad oes posib anwybyddu traethau hardd a moroedd tryloyw y wlad, felly am dri diwrnod aethom i lawr i'r Great Ocean Road, ffordd sy'n dilyn yr arfordir gyda golygfeydd gwefreiddiol lle gwelsom Koalas bach gwylltion yn y coed!
Ond y peth gorau i mi wrth fynd at y môr oedd mynd ar y boogie board sydd yn debyg i surfboard bach - cefais gymaint o hwyl wrth wibio ar y tonnau cryfion!
Yn sicr, y peth gorau i Mam oedd mynd at y Twelve Apostles a gweld y cewri o gerrig yn sefyll yn urddasol yng nghanol y môr.
Mae digonedd o lefydd i'w weld ar hyd y Great Ocean Road ond os ewch chi yno buaswn yn eich hannog chi fynd i Lorne ac Anglesea gan fod traethau gwych yno a digonedd o lefydd i fwyta. Hefyd gallwch wylio digonedd o fechgyn yn syrffio!
Yn wir, mae Awstralia yn wlad werth chweil gyda phobl gyfeillgar a golygfeydd bythgofiadwy.
Yn y dyfodol agos bwriadaf fynd yno eto i weld fy mrawd a'i wraig ac i deithio o amgylch y wlad er mwyn darganfod mwy.
Heb amheuaeth buaswn yn annog pawb i fynd yno i ryfeddu at ysblander y wlad. Byddaf yn cofio'r daith hon am weddill fy oes.
|
|