|
|
Ffordd y carcharorion
Erthygl olaf Gethin Matthews yn dilyn ei ymweliad ag Awstralia
|
Mae creiriau hynod i'w gweld yn ardal afon Hawkesbury. Er nad yw ond awr a hanner o ganol Sydney, does dim llawer o ymwelwyr yn cael eu denu i weld y rhyfeddodau hyn.
Wedi eu cuddio yng nghanol y bush, ymhell i ffwrdd o briffyrdd modern prysur, gellir gweld olion un o'r prosiectau mawr sy'n mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y drefedigaeth.
Wedi'i gorchuddio gan ddegawdau o dyfiant, mae hen ffordd a adeiladwyd gan garcharorion yn y1820au a'r 1830au.
Tiroedd ffrwythlon Dyma'r heol a gysylltai yr ardaloedd i'r gorllewin o Sydney â'r tiroedd ffrwythlon yn nyffryn Hunter, ac ymlaen at borthladd Newcastle, 150 milltir i'r gogledd.
Torrodd y carcharorion y graig yn flociau, a'u gosod i wneud ffordd drwy'r tir gwyllt ac mae olion y picelli a ddefnyddiwyd yn amlwg ar y blociau hyd heddiw.
Fan hyn a fan draw yn y bush gwelir olion y gwersyll lle daliwyd y carcharorion wrth iddynt adeiladu'r heol.
Ymhellach i lawr y dyffryn, mae pentref bychan St Albans, a sefydlwyd nôl ym 1842.
Fan hyn mae bedd ag arno enw Price Morris, un o'r anffodusion a gafodd ei ddanfon i'r drefedigaeth mewn cadwyni.
Ac yntau ond o gwmpas ei ugain oed, cafwyd Morris yn euog yn y llys yn Nhrefaldwyn ym 1810 o ddwyn 11 o ddefaid oddi ar ffarmwr yng Ngharno.
Dedfryd y llys oedd iddo gael ei grogi, ond maes o law fe gafodd ei gosb ei newid i alltudiaeth am ei oes ac fe hwyliodd o Lundain ym Medi 1811 a chyrraedd De Cymru Newydd yr Ionawr canlynol.
Fel carcharor bu'n rhaid i Price ofyn caniatâd i briodi ym 1818.
Cafodd ei ryddhau yn amodol ym 1833.
Mae dros ugain mlynedd yn dipyn o gosb am ddwyn 11 o ddefaid.
Wedi iddo gael ei ryddid, cafodd rhywfaint o lwyddiant yn ei gartref newydd, gan ddod yn berchen ar fferm ger St Albans a magu teulu mawr, gydag o leiaf chwech o blant.
Lloegr fechan Ond, wrth gwrs, wrth i'r trefedigaethwyr newydd feddiannu'r tir collodd y brodorion gwreiddiol y mannau lle'r oeddent yn hela a chasglu ers cannoedd o genedlaethau.
Disodlwyd yr enwau cynhenid nes bod y wlad o gwmpas St Albans, Windsor a Richmond yn ymddangos fel Lloegr fechan.
Ond mae'n bosibl gweld o hyd y mannau lle gadawodd y brodorion eu hôl ar y wlad.
Fe gês i fy nhywys i le cyfrin hanner awr i o'r lle agosaf i barcio'r car.
Wedi'u darlunio ar waliau ogof mewn powdwr coch mae lluniau o echidna a dingo, a nifer o anifeiliaid eraill.
Mae'n anodd rhoi dyddiad pendant i'r gwaith ond mae'r sercol mewn tân gwersyll gerllaw wedi'i ddyddio i 1440 OC.
Ond gallai'r lluniau berthyn i gyfnod ganrifoedd ynghynt.
Pa hawl Am sawl rheswm mae ymwelydd o Gymru'n oedi cyn ysgrifennu am ddiwylliant brodorion Awstralia, yr Aborigines.
Pa hawl sydd gen i, sydd ond wedi cwrdd â llond dwrn o unigolion - pob un â chysylltiad â thwristiaeth - i ymhelaethu am bobl sydd mor amrywiol?
I droi'r sefyllfa ar ei phen am eiliad; sut y gallai unrhyw un ysgrifennu am ddiwylliant Cymru ac yntau ond wedi cwrdd â Chymry oedd yn rhedeg busnesau gwely-a-brecwast?
Agweddau yn newid Yr hyn sy'n ddiogel imi y'i ddweud yw bod agweddau'r Awstraliaid gwyn eu croen yn newid bellach.
Ar ôl cael eu diystyru a'u cau allan am genedlaethau, mae'r brodorion cynhenid, eu hawliau a'u traddodiadau yn dechrau cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Bob tro y bydd adeilad cyhoeddus yn cael ei godi, bydd y seremoni agoriadol yn cydnabod cyfraniad y llwythau lleol a fu'n geidwaid y tir am gynifer o genedlaethau.
Y tristwch mawr yw bod y gydnabyddiaeth yma'n dod yn rhy hwyr i achub y rhan fwyaf o'r ieithoedd a'r diwylliannau a oedd unwaith yn ffynnu ar hyd a lled y wlad enfawr hon, ond sydd bellach ond ar gael mewn llyfrau, i ddarllen amdanynt.
|
|