|
|
Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania
Mae Gethin Matthews ar daith yn Awstralia - gan gychwyn o'r traeth lle glaniodd Cook a'r Cymro David Samwell
|
Fe gyrhaeddodd y llongau ger yr ynys ar fore braf yn Ionawr 1777 - er nad oedd y newydd-ddyfodiaid yn sylweddoli mai ynys gerllaw ynys Tasmania yw hon.
Credai'r morwyr fod y lle'n rhan o'r cyfandir mawr a archwiliwyd gan y capten, James Cook, saith mlynedd ynghynt.
Mwyaf galluog Un o ddynion mwyaf galluog y criw oedd David Samwell o Nantglyn, Sir Ddinbych, cynorthwy-ydd y llawfeddyg ar HMS Resolution; bardd talentog 25 oed â brwdfrydedd diderfyn ganddo am fywyd ac am ddarganfod hynodion y byd.
Nid ef oedd y Cymro cyntaf i lanio ar dir Awstralia - roedd morwyr o Gymru wedi hwylio gyda Cook ym 1770 - ond Samwell oedd y cyntaf i ysgrifennu am ei brofiadau.
Cafodd ei swyno gan gyfoeth naturiol y wlad: yr adar lliwgar; y llyn bas llawn pysgod blasus; y madfallod mawr a'r anifeiliaid hynod y cafodd gipolwg arnynt yn y coedwigoedd; walabïaid, mae'n siwr.
Ond ei brofiadau mwyaf cofiadwy oedd ei gyfarfyddiad cyntaf â rhai o drigolion Môr y De.
Oherwydd anhawster cyfathrebu â'r brodorion, fe ysgrifennodd rhai o'r morwyr amdanynt mewn modd nawddoglyd, neu hyd yn oed yn fychanol. Ond nid felly sylwadau Capten Cook na David Samwell.
Un peth a synnodd y morwyr oedd difaterwch y brodorion wrth i'r ddwy long hwylio i mewn i'r bae.
Mae'n sicr mai dyma'r peth rhyfeddaf a welsant yn eu bywydau, ond ni ddangosai'r trigolion fawr o ddiddordeb yn y digwyddiad.
Cynnig anrhegion Fe geisiodd y morwyr ennill ymddiriedaeth y brodorion trwy gynnig anrhegion, ac mae Samwell yn disgrifio ymateb un dyn, a oedd yn sioncach ei gam na'i gyfeillion, wrth iddo dderbyn anrheg o ddarn o ddefnydd i guddio'i noethni. Neidiodd y dyn yn llawen, gan floeddio'i chwerthin ac er na allai'r morwyr ddeall yr hyn oedd yn ei ddweud, roedd yn amlwg i Samwell mai ef oedd y callaf o'i gyfeillion.
Yn ogystal â chofnodi eu nodweddion corfforol, fe geisiodd y Cymro nodi ychydig o iaith y brodorion, a'i restr ef o eiriau yw'r cofnod ysgrifenedig cyntaf o iaith frodorol Tasmania.
Y bae heddiw Wrth grwydro o gwmpas Adventure Bay heddiw - ar ynys hardd sy'n dwyn yr enw Ynys Bruny ar ôl Ffrancwr a alwodd yma ym 1792 - mae prydferthwch y lle yr un mor amlwg heddiw ag oedd i'r morwyr hynny ym 1777.
Mae'r bae ei hun yn hafan ddelfrydol i longau, wedi'i gysgodi rhag y gwynt o bob cyfeiriad ac â chyflenwad cyfleus o ddŵr, coed a nwyddau eraill.
Ond dim ond am dridiau yr oedodd y ddwy long fan hyn: wedi llenwi â dŵr, roedd busnes yr archwilio yn galw yn y Môr Tawel - anturiaeth a ddaeth i ben i'r capten ddwy flynedd yn ddiweddarach gyda'i lofurddio ar draeth yn Hawaii.
Dychwelodd Samwell i Brydain yn ddiogel, gan ddod yn enwog yng nghylchoedd Cymry-Llundain am ei farddoniaeth a'i straeon am ei anturiaethau.
Cofnod gwerthfawr iawn yw sylwadau David Samwell am frodorion Adventure Bay. O fewn 80 mlynedd - oes dyn - roedd bron pob arwydd o frodorion Tasmania, eu cymdeithas a'u diwylliant wedi diflannu.
Delfrydol i garcharorion! Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe benderfynodd yr awdurdodau ymhell i ffwrdd ym Mhrydain y byddai'r ynys yn lle delfrydol i anfon carcharorion yno.
Nid oedd llywodraethwyr newydd Tasmania yn gallu cydfyw â'r brodorion ac yn y llanastr a ddilynodd, nid oedd gobaith gyda'r llwythau.
Er i ddiwylliant cynhenid Tasmania fod yn esblygu am 30,000 o flynyddoedd goroesodd am lai na chanrif pan wynebodd nerth diwylliant ymerodraethol Prydain.
Felly, dim ond yng nghofnodion David Samwell a'i debyg y mae modd darganfod sut fath o ddynion a gwragedd oedd trigolion brodorol yr ynys.
Y cyfan yn atgoffa rhywun mai rhywbeth bregus yw diwylliant gwlad.
|
|