成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhian a Mark Dathlu a hel atgofion
Taith Awstralia 2003
gan Rhian Taylor

Fe adawon ni orsaf bysiau Port Talbot hanner awr yn hwyr fore Hydref 7 wedi i'r bws National Express gael ei ddal mewn traffig.


Yna, wedi inni gyrraedd maes awyr Heathrow, nid oedd Visa gwyliau Mark, y sboner, wedi clirio camgymeriad Going Places! - felly bu'n rhaid inni ddisgwyl am hanner awr i bethau glirio a rhedeg wedyn drwy'r Terminal i'r gât gywir gydag ond munudau wrth gefn!
Dyna ddechrau i'r gwyliau!

Cawson ddau stop-over - y cyntaf yn Abu Dhabi a'r ail yn Brunei, gan ein bod yn hedfan gyda Royal Brunei ac er nad oedd alcohol ar gael ar yr awyren, dyma'r rhan orau a mwyaf cyfforddus o'n siwrnai.

Wrth inni agosáu at faes awyren Brisbane ar arfordir dwyreiniol Awstralia teimlwn y cyffro wrth gofio am y tro diwethaf imi fod yn teithio o amgylch y wlad ddwy flynedd yn ôl.

BrisbaneY tro hwn roeddwn yn blês nad oedd gennyf backpack i'w gario!

A ninnau wedi cyrraedd roeddem yn awchu am fwynhau pob eiliad o'n gwyliau - a goresgyn y jet-lag!

Y 'Syrpreis'
Prif reswm dewis y wlad hyfryd hon oedd rhoi "syrpreis" i wncwl Mark a'i deulu wrth i Fred ddathlu ei ben-blwydd yn 50... a hynny'n digwydd ar yr un diwrnod a fy mhen-blwydd innau! Pa well esgus dros ddathlu dramor!

Mae teulu Taylor eisoes wedi ymfudo i'r Gold Coast a thros y deng mlynedd ddiwethaf wedi galw Surfers Paradise yn gartref iddynt.

Felly, wedi pedair awr o gwsg, daliodd Mark a minnau fws arall o Brisbane i Surfers i gasglu'r Ford Capri a fyddai'n ein cario o le i le dros yr wythnosau nesaf ac wedi galwad sydyn â'r Bottle Shop (Off-licence i ni'r Cymry), fe gyrhaeddo ni ddrws Fred a'r teulu.

Yn ogystal â'r teulu Taylor (na chi enw da!) roedd mam a mam-gu Mark yno hefyd ar eu gwyliau, felly wrth inni gerdded i mewn roedd pawb yn ymlacio â chwrw VB wrth y pwll yn yr ardd gefn (na chi fywyd caled!), bu lwcus i neb ollwng unrhyw botel wrth gweld y ddau ohonom yn neidio mewn i'r ardd!

Am rhyw rheswm, ni all nifer ohonom gofio llawer am y noson - a beiwn y jet-lag am hynny dim byd i'w â chwrw cryf!

Trannoeth, roedd hi'n amser paratoi ar gyfer y parti ac wedi'r holl waith caled, cafodd pawb amser gwych, Ozzie Style ac yn ogystal â pharti Fred, cefais ddathliad grêt ar Hydref 13 wrth imi droi'n 26!

Aethom i ymlacio ar draeth preifat Sanctuary Cove a mwynhau cinio yng ngwesty pum seren newydd Versace.
Yn y nos aethom oll allan am bryd enfawr gyda golwyth 18 owns!

Gold Coast
Fel twristiaid traddodiadol, mi es i a Mark i'r mannau, ac ar y teithiau, poblogaidd: Adventure Duck; sef cerbyd sy'n eich tywys o amgylch y ddinas ac yna'n troi'n gwch wrth yrru'n syth i afon!

Aethom i Wet 'n Wild, parc dwr ar y Gold Coast ac hefyd i Movie Word, parc antur Warner Brothers ble cafodd ein 'nerfau' ychydig o shiglad ar yr holl reidiau.

Sydney
Wedi wythnos gyda theulu Mark roedd hi'n amser troi am Sydney y ddinas lle cwrddais i â Mark gyntaf dros ddwy flynedd yn ôl!

O gyrraedd y ddinas hyfryd hon nid oedd amser i ymlacio gan ein bod ar ein ffordd i aros gyda'n ffrindiau prifysgol.

Newydd gyrraedd Awstralia oedd Hannah a Matt a chan eu bod yn aros yno am flwyddyn roedd ganddynt fflat cyfleus yn Manly, sydd ond hanner awr o daith ar gwch o Circular Quay (Harbwr Sydney) taith syfrdanol gyda'i golygfa o'r Sydney Harbour Bridge a'r Ty Opera.

Yn ystod ein hamser yn Sydney cawsom gyfle i ddringo'r Bont yn ystod machlud haul. Ar y nos Sul, yr un noson a gêm Cymru a'r Eidal, fe wnaethom ni ddringo'r bont gyda grwp o bobl o wahanol wledydd. Roedd yr olygfa o dop y bont yn un na fyddaf yn ei anghofio byth - yn enwedig wrth i'r haul fachlud a goleuadau'r ddinas yn goleuo.

Gan fod y tymhorau yn wahanol down-under, cawsom dywydd hyfryd yno gyda'r tymheredd bob dydd o amgylch 30 celsiws Machlud trawiadol Byron Bayac wrth inni ddychwelyd i Surfers Paradise codi wnaeth y tymheredd - diolch byth am yr air-con ymhob adeilad!

Yn ystod y diwrnodau wedyn aethom i South Stradbrooke Island ble gwnaethom ni fwynhau sgïo jet, cychod rasio, padlers, tobogan tywod a bod yn ddigon ffodus i syrffio yr un adeg â'r Honda Indy 300a chael diwrnod gwych ymhlith y miloedd o gefnogwyr yn gwylio'r rasio yn yr haul.

Fe fuom ni'n syrffio yn Noosa a Byron Bay hefyd - Mecca'r byd syrffio y tu allan i Hawaii!

Byd ysbrydion
Wrth i'r penwythnos olaf agosáu aethom i ymweld â Chlwb Cabaret Draculas ar gyrion Surfers Paradise. A ninnau wedi clywed cymaint am hwn yr oeddem yn edrych ymlaen yn fawr at y noson.



Byd dychrynllyd DraculasCawson ein tywys i'r bar ar drên ysbryd. Roedd yr holl adeilad a'r bwyd wedi'u creu ar thema Noson Calan Gaeaf.

Trannoeth yr unig ffordd o ddilyn Draculas oedd i hala noson yng Nghasino Jupiters yng nghanol y dref a chan mai hon oedd ein noson olaf yn Awstralia, roedd yn esgus gwych i wario'n holl ddoleri ar y peiriannau gamblo!

Ond, yn rhyfedd iawn, roedd fy 'lwc i mewn' ac enillais ddwbl fy arian yn ôl!

Ac yna, roedd hi'n amser gadael un o wledydd prydferthaf y byd ac wedi bron i 24 awr ar awyren glanio yn Heathrow a thywydd oer a gwlyb Prydain.

Serch hynny, er cael amser gwych Down Under rhaid cyfaddef ei bod yn bleser cael bod yn ôl adref unwaith eto.

Tan y tro nesaf! Hwyl fawr Awstralia!

A ydych chi wedi bod ar daith ddiddorol?
Cliciwch i sôn amdani.





awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy