成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y fuwch o gar Hen fuwch o gar - a chyfaill da
Bu Sarah Marion Jones sy'n wreiddiol o Lanbedrog ger Pwllheli yn teithio yn Awstralia efo Lisa Charles o Lanuwchllyn a Sian Jones o'r Frongoch ger Y Bala.

Dominic a Cape Tribulation
"Hwn ydi'r union ddyn ichi," meddai'r gyrrwr lori, "Fo ydi'r mecanic lleol!".

Fues i erioed mor falch o glywed y geiriau.

Ar y lôn droellog rhwng Cairns a Cape Tribulation oeddem ni ac o'r funud yr ynganwyd hyn newidiodd trefniadau ein penwythnos yn gyfangwbl.

Prynu car
Daethom i ddinas ddi-gymeriad Cairns ddechrau Mawrth efo'r bwriad o brynu car gan mai dyma'r ffordd orau a rhataf o deithio gyda'r rhyddid i fynd lle rydym eisiau pan yw'n gyfleus i ni.

Roedd y syniad o osgoi cario'n bagiau trwm yn apelio hefyd!

Mae gan y backpackers eu marchnad geir eu hunain: pan fo un criw yn gorffen eu taith gwerthir y car yghyd a'r offer gwersylla ac ati i griw arall. Roeddwn wedi clywed am ail-gylchu poteli, ond nid ail-gylchu ceir!

Wedi wythnos o chwilio dyfal dyma benderfynu ar Ford Falcon mawr, wedi ei beintio'n ddu a gwyn fel buwch friesian ar olwynion.

Rhaid dweud ein bod yn tynnu sylw wrth yrru'r moo-mobile - pobl a phlant yn chwerthin a phwyntio pan oeddem yn pasio.

Fforestydd glaw
Am test drive penderfynom fynd i Cape Tribulation am y penwythnos - pentref i'r gogledd o ddinas Cairns mewn ardal brydferth lle mae'r fforestydd glaw yn tyfu i lawr at y môr.

Nid yw mor boblogaidd a chanolfannau twristaidd eraill fel Airlie Beach felly dim prysurdeb i darfu ar ein mwynhad o'r ardal.

Wrth yrru allan o Cairns roedd dyn yn sefyll wrth ochr y lôn yn bodio lifft a chododd Sian fawd yn ôl arno achos roeddem wedi cael digon o rybuddion ynglyn â pheidio rhoi liffts i ddieithriaid - felly wnaethom ni ddim stopio.

Rhaid oedd croesi'r afon Daintree efo fferi fechan, taith o lai na phum munud. Buom yn sgwrsio efo gyrrwr lori ar y ffordd.

Pesychu, ysgwyd a methu
Wedi dod oddi ar y cwch roedd coblyn o allt fawr o'n blaenau a hanner ffordd i fyny dechreuodd yr hen gar besychu a chrynu drosto cyn methu'n yn gyfangwbl.

Beth wnawn ni? Rydw i ddigon sâl am yrru car heb son am drio ei drwsio!

Diolch byth daeth y gyrrwr lori clên oddi ar y fferi i'r adwy. Peth braf ydi cael car mae pawb yn ei gofio!

Bob y Mecanic
Roedd y gwr bonheddig a'i ben o dan y bonet yn pwnio'r peth yma a'r peth arall pan arafodd car arall a stopio o'n blaenau gan achosi i'r gyrrwr lori ddweud y geiriau bendigedig hynny a'n cyflwyno i Bob y mecanic.

Cynigiodd Bob ein tynu i'w weithdy ychydig gilometrau i ffwrdd.

"I'm sure Dominic will steer your car for you" meddai wrthym.
"Pwy ydi Dominic?" sibrydodd Lisa, Sian a minnau.

Ond doedd dim rhaid i neb ateb achos ar hynny agorodd drws car y mecanic a phwy oedd yna ond yr hitch-heicar oeddem ni wedi ei basio a chodi bawd arno ar ein ffordd!!

Daria'r car, mae pawb yn ei gofio!!

Chwarae teg i Dominic, roedd o'n goblyn o hogyn neis. Bu'n sgwrsio yr holl ffordd i weithdy Bob am yr amser iddo fodio ei ffordd rownd Awstralia a theithio Ewrop ar gefn moto-beic.

Tipyn o ferral yw Dominic.
Pobol go ryfedd yw'r ferrals sydd yn ymwrthod â chymdeithas, yn tyfu eu gwalltiau yn hir ac yn mynd i fyw yn y coed yng Ngogledd Queensland.

Trwsio'r fuwch
Petai rhywun wedi gofyn i mi ddyfalu enw'r pentref lle lleolwyd gweithdy Bob, fuaswn i byth wedi meddwl am yr enw Cow Bay. Eironig braidd o feddwl am liw ein car!!

Tra roedd Bob yn trwsio'r hen fuwch aeth Dominic a ni i'r dafarn leol a braf oedd bod mewn tafarn efo pobl leol yn hytrach na llond y lle o backpackers eraill fel arfer.

Mae i dafarndai gwledig Awstralia gymaint o gymeriad â chantîn - dim ond bar efo ambell i fwrdd a chadeiriau plastig. Dim addurn, carped na chyrtan ar gyfyl y lle!

Wrth y bar safai rhes o ddynion barfog efo gwallt steil mullet yn gwisgo siorts a foot-thongs (fflip-fflops i chi a fi).

Wedi rhyw dair rownd cyrhaeddodd Bob efo'r newyddion da fod y car wedi ei drwsio - baw yn y ffiltar mae'n debyg.

Y boen nesaf oedd faint fuasai ei wasanaeth yn gostio rhwng y gwaith a chael ein tynnu. "Just call it a crate of beer", oedd ateb syml Bob. Roeddem ar ben ein digon!

Erbyn hyn, a hithau'n dechrau nosi, roedd yn rhy hwyr i fynd ddim pellach tua'r gogledd felly dyma ofyn i berchnogion y dafarn am gael aros yno.

Cawsom ganiatâd i wersylla yn eu gardd gefn am $5 (rhyw buntan neu ddwy). Pobl glên ydyr Awstraliaid 'ma ynde!!

Ty anghyffredin
Y bore canlynol cyn parhau ar ein taith i Cape Tribulation aethom i draeth Cow Bay a galw yn nghartref Dominic.

Nid ty cyffredin mo ty Dominic. Wel i ddweud y gwir nid ty mohono o gwbl. Maen byw mewn dwy uned storio ar ben poncan efo toman o drugareddau y mae wedi y'u hel dros y misoedd yn addurno'r lle.

Dyn difyr; ac un o brofiadau difyra ein taith oedd ein hamser yn ei gwmni.






cysylltiadau




awstralasia

Awstralia
Tair Cymraes yn Awstralia

Myfyrwyr o Gymru ar fusnes yn Awstralia

Rhyfeddodau Awstralia

Gethin yn Awstralia

Taith Gethin - Adventure Bay, Ynys Bruny, Tasmania

Gethin yn Awstralia - enwau lleoedd

Y Cymro a chwch yr anialwch

Ffordd y carcharorion

Aur a'r Gair yn Awstralia

Beks yn Awstralia

Nadroedd, pryfed cop - a help dyn!

Dathlu a hel atgofion

Awstralia - a chip ar Bali - efo Gwenan Roberts

Hen fuwch o gar - a chyfaill da

Awstralia - gair o gyngor

Rhwng drain a defaid

Ysgoloriaeth i Awstralia a Seland Newydd




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy