Proffilio genetig
Yn y genom dynol, mae ychydig bach o DNA sy鈥檔 unigryw i bob unigolyn. Trwy dorri sampl o DNA yn ddarnau a gwahanu鈥檙 darnau yn 么l eu maint, mae鈥檔 bosib gwneud proffil nodweddion o fandiau DNA ar gyfer unigolion.
Proffilio DNA yw鈥檙 enw ar y dechneg hon, a gellir ei defnyddio i bennu tadolaeth, neu i helpu datrys troseddau lle gall y drwgweithredwr fod wedi gadael sampl o feinwe corff yn lleoliad y drosedd.
Gellir defnyddio鈥檙 dechneg mewn organebau eraill hefyd i gymharu gwahanol rywogaethau i ddibenion dosbarthu.
Sut i gynhyrchu '么l bys' DNA
- Ynysu 鈥 gwahanu鈥檙 DNA oddi wrth feinweoedd eraill.
- Darnio 鈥 defnyddio ensym i dorri鈥檙 DNA yn ddarnau byr.
- Gwahanu 鈥 pasio cerrynt trydanol ar draws haen o gel sy鈥檔 cynnwys y darnau DNA yn un pen. Bydd y darnau鈥檔 symud gwahanol bellteroedd ar draws y gel. Electrofforesis gel yw鈥檙 term am hyn.
- Cymharu 鈥 cymharu patrwm y darnau ar y gel 芒 samplau eraill o DNA.
Defnyddio proffilio DNA wrth ddatrys troseddau
Yn aml bydd DNA wedi鈥檌 adael yn lleoliad trosedd. Mae i鈥檞 gael mewn gwaed, croen a hyd yn oed mewn gwallt. Unwaith y bydd y DNA wedi鈥檌 ynysu oddi wrth y dioddefwr, ac os oes pobl benodol dan amheuaeth, yna gall proffilio DNA fod yn ddefnyddiol o ran eu lleoli yn y fan lle digwyddodd y drosedd.
Question
Yn yr enghraifft uchod, pa berson dan amheuaeth sydd wedi gadael ei DNA yn lleoliad y drosedd?
Person dan amheuaeth A. Mae鈥檙 bandiau DNA yn ei broffil yn cydweddu 芒鈥檙 bandiau DNA yn y proffil a ganfuwyd yn lleoliad y drosedd.
Defnyddio proffiliau DNA i bennu tadolaeth
I ganfod pwy yw tad plentyn, rhaid i broffil DNA y plentyn a鈥檌 fam fod yn hysbys. Rhaid i unrhyw fand a ganfyddir ym mhroffil DNA y plentyn, ac na ellir ei briodoli i鈥檙 fam, fod yn bresennol ym mhroffil DNA y tad i gadarnhau tadolaeth.
Question
Yn yr enghraifft uchod, ai Tad A neu Dad B yw tad y plentyn?
Tad A. Nid yw band 4 proffil DNA y plentyn i鈥檞 gael ym mhroffil DNA y fam, a dim ond Tad A sydd 芒鈥檙 un band. Mae hyn yn wir hefyd am fand 8.
Gellir defnyddio proffiliau DNA hefyd i adnabod alelau sy鈥檔 gysylltiedig ag anhwylderau genetig penodol. Defnyddir y dechneg hon wrth brofi babanod newydd-anedig i chwilio am anhwylderau fel ffibrosis cystig. Wrth adnabod anhwylderau genetig o鈥檙 fath yn gynnar gellir rhoi triniaeth gynnar iddynt, ac mae hynny wedyn yn gallu lleihau effaith yr anhwylder ar fywyd y dioddefwr.
Gall proffilio genetig fod yn bwnc dadleuol. Mae鈥檙 tabl isod yn crynhoi rhai o fanteision ac anfanteision defnyddio鈥檙 dechneg hon.
Manteision | Anfanteision |
Mae tystiolaeth DNA yn ddibynadwy gan ei bod yn hynod o annhebygol y byddai dau berson yn rhannu鈥檙 un proffil, oni bai eu bod yn efeilliaid unfath | Gallai data DNA sydd mewn storfa fynd i ddwylo cwmn茂au benthyg arian neu yswiriant, neu gyflogwyr, a allai ddadansoddi eich DNA i ganfod unrhyw duedd tuag at afiechyd, a gwrthod eich busnes o achos hynny |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i bennu pwy yw tad plentyn | Gellir ystyried bod storio proffiliau DNA yn tresmasu ar breifatrwydd |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i adnabod anhwylderau genetig yn gynnar | Mae dwyn proffiliau DNA o fas data yn fygythiad gwirioneddol |
Gellir defnyddio proffiliau DNA i leoli pobl dan amheuaeth mewn man lle digwyddodd trosedd | Mae鈥檔 bosibl 鈥榩lannu鈥 DNA yn lleoliad trosedd gan greu tystiolaeth ffug, neu gallai DNA rhywun dieuog fod yn y lleoliad er nad oedd ganddo ddim i鈥檞 wneud 芒鈥檙 drosedd |
Manteision | Mae tystiolaeth DNA yn ddibynadwy gan ei bod yn hynod o annhebygol y byddai dau berson yn rhannu鈥檙 un proffil, oni bai eu bod yn efeilliaid unfath |
---|---|
Anfanteision | Gallai data DNA sydd mewn storfa fynd i ddwylo cwmn茂au benthyg arian neu yswiriant, neu gyflogwyr, a allai ddadansoddi eich DNA i ganfod unrhyw duedd tuag at afiechyd, a gwrthod eich busnes o achos hynny |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i bennu pwy yw tad plentyn |
---|---|
Anfanteision | Gellir ystyried bod storio proffiliau DNA yn tresmasu ar breifatrwydd |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i adnabod anhwylderau genetig yn gynnar |
---|---|
Anfanteision | Mae dwyn proffiliau DNA o fas data yn fygythiad gwirioneddol |
Manteision | Gellir defnyddio proffiliau DNA i leoli pobl dan amheuaeth mewn man lle digwyddodd trosedd |
---|---|
Anfanteision | Mae鈥檔 bosibl 鈥榩lannu鈥 DNA yn lleoliad trosedd gan greu tystiolaeth ffug, neu gallai DNA rhywun dieuog fod yn y lleoliad er nad oedd ganddo ddim i鈥檞 wneud 芒鈥檙 drosedd |