Beth yw DNA a sut mae strwythur y moleciwl etifeddol hwn yn gyfrifol am ei swyddogaeth? Mae gwyddonwyr yn defnyddio鈥檜 gwybodaeth am DNA i greu a defnyddio proffiliau genynnol.
Mae gan gelloedd corff dynol 23 p芒r o cromosomYr adeiledd sydd wedi ei wneud o DNA sy鈥檔 codio ar gyfer holl nodweddion organeb. yn y cnewyllyn. O鈥檙 rhain, mae 22 p芒r yn awtosomau, ac yn rheoli nodweddion, ond mae un p芒r yn cario genynnau sy鈥檔 pennu rhyw 鈥 sef a fydd yr epil yn wryw neu鈥檔 fenyw:
mae gan wrywod ddau gromosom rhyw gwahanol, sef XY
mae gan fenywod ddau gromosom X, sef XX
Caryoteipiau dynol yw鈥檙 enw ar y diagramau hyn, sy鈥檔 dangos y cromosomau wedi鈥檜 trefnu鈥檔 barau.
Cromosomau o gorff gwryw
Yn y blwch glas gwelir y ddau gromosom rhyw 鈥 mae鈥檙 rhain yn wahanol feintiau - cromosom X (yr un mawr) ac Y (y cromosom bach).
Cromosomau o gorff benyw
Yn y blwch pinc gwelir y ddau gromosom rhyw 鈥 mae鈥檙 rhain yr un maint, dau gromosom X mawr.
Diagram genetig
Mae diagram genetig, fel sgw芒r Punnett, yn dangos sut y gall alelau gyfuno mewn sygotWy wedi'i ffrwythloni, o ganlyniad i uno dau gamet.. Mae鈥檙 diagram isod yn dangos sut yr etifeddir rhyw biolegol.
Alelau鈥檙 fam/fenyw 鈥 XX
Alelau鈥檙 tad/gwryw 鈥 XY
Dyma鈥檙 ddau gyfuniad posibl:
cromosom X gan y fam a chromosom X gan y tad 鈥 yn cynhyrchu merch (ffenoteip benywaidd o鈥檙 genoteip XX)
cromosom X gan y fam a chromosom Y gan y tad 鈥 yn cynhyrchu mab (ffenoteip gwrywaidd o鈥檙 genoteip XY)
Mae cymhareb epil benywaidd yn erbyn gwrywaidd yn 1:1. Ar gyfartaledd, bydd hanner yr epil yn ferched a hanner yn fechgyn. Gellir trosi hyn hefyd yn debygolrwydd o 50% (XX) a 50% (XY).