成人快手

Strwythur DNA

DNA

Mae moleciwlau DNA yn fawr a chymhleth. Maent yn cario鈥檙 cod genetig sy鈥檔 pennu nodweddion organeb fyw.

Genynnau

Darn o DNA sy鈥檔 codio ar gyfer protein penodol yw genyn. Dyma uned , a gellir ei gop茂o a鈥檌 basio ymlaen i鈥檙 genhedlaeth nesaf.

Cromosomau

Mae y gell yn cynnwys . Edafedd hir o DNA yw鈥檙 rhain, pob un wedi鈥檌 ffurfio o lawer o enynnau.

Mae鈥檙 diagram yn dangos y berthynas rhwng y gell, ei chnewyllyn, y cromosomau yn y cnewyllyn, a鈥檙 genynnau.

Diagram o gnewyllyn gyda darlun agosach o enyn sy鈥檔 dangos y cromosom

Fe wnaeth James Watson a Francis Crick ganfod beth oedd strwythur yn 1953. Trwy ddefnyddio data gan wyddonwyr eraill, fe lwyddon nhw i adeiladu model o DNA. Dangosodd y data pelydr X a ddefnyddiwyd ganddynt fod DNA wedi鈥檌 ffurfio o ddau edefyn wedi鈥檜 torchi鈥檔 .

Ffotograff diffreithiant pelydr X o DNA
Image caption,
Ffotograff diffreithiant pelydr X o DNA
Moleciwl DNA synthetig wedi ei ffurfio o ddau edefyn wedi troelli i greu torch helics dwbl.
Image caption,
Moleciwl DNA synthetig

Parau basau

Mae 鈥榓sgwrn cefn鈥 pob edefyn DNA wedi鈥檌 wneud o foleciwlau siwgr a ffosffad am yn ail gyda chemegau p芒r rhwng pob edefyn, a elwir yn fasau. Sylwer bod y rhain yn wahanol i鈥檙 basau cysylltiedig ag asidau ac alcal茂au mewn cemeg. Mae pedwar bas gwahanol mewn DNA:

  • thymin, T
  • adenin, A
  • gwanin, G
  • cytosin, C

Ceir bondio cemegol rhwng y ddau edefyn mewn DNA, a鈥檙 rheiny wedi鈥檜 ffurfio gan barau o fasau. Maent bob amser yn paru mewn ffordd arbennig, sef paru basau cyflenwol:

  • mae thymin yn paru gydag adenin (T鈥揂)
  • mae gwanin yn paru gyda cytosin (G鈥揅)
Diagram o DNA yn dangos parau basau

Trefn y basau hyn yn y genynnau sy鈥檔 pennu trefn yr asidau amino y maent yn codio iddynt. Mae gan bob genyn drefn benodol o fasau yn y DNA, ac mae hyn yn arwain at drefn benodol o asidau amino sy鈥檔 creu protein penodol.

Er bod llawer o nodweddion wedi鈥檜 rheoli gan enynnau lluosog, rheolir rhai nodweddion gan un genyn, ee blew anifeiliaid, a lliwddallineb coch-gwyrdd mewn bodau dynol. Gall fod gan bob genyn wahanol ffurfiau, a gelwir y rhain yn alelau.

Enghraifft

Mae gan y genyn lliw llygaid alel ar gyfer llygaid glas ac alel ar gyfer llygaid brown. Yn achos unrhyw enyn, gall rhywun fod 芒 dau alel yr un fath neu ddau alel gwahanol.

Unigolyn A; un alel enciliol ac un trechol. Unigolyn B; dau alel trechol. Unigolyn C; dau alel enciliol.

Cod tripled - Haen uwch yn unig

Caiff trefn pob un o'r asidau amino mewn protein eu pennu gan god o dri bas, sef y cod tripled. Felly bydd gan pob asid amino penodol, god tripled o fasau gwahanol.