成人快手

Micro-organebau

Mae micro-organebau ym mhobman. Nid yw鈥檙 rhan fwyaf yn achosi unrhyw niwed i ni, ac mae rhai hyd yn oed yn llesol. Maen nhw鈥檔 byw yn ein coluddion ac yn helpu treulio bwyd, neu ailgylchu maetholion trwy bydru organebau marw.

Ond mae yna rai micro-organebau sy鈥檔 gallu achosi niwed. yw鈥檙 enw ar y rhain.

Mae pedwar prif fath o bathogen.

PathogenEnghraifft
FirwsHIV, a allai arwain at AIDS
BacteriwmSalmonela
FfwngTarwden y traed
ProtistMalaria
PathogenFirws
EnghraifftHIV, a allai arwain at AIDS
PathogenBacteriwm
EnghraifftSalmonela
PathogenFfwng
EnghraifftTarwden y traed
PathogenProtist
EnghraifftMalaria

Cylch bywyd syml sydd gan bob math o bathogen. Maen nhw'n heintio , yn atgynhyrchu eu hunain (neu鈥檔 dyblygu, yn achos firws), yn ymledu o鈥檜 horganeb letyol, ac yn heintio eraill.

Mae ganddyn nhw strwythurol hefyd sy鈥檔 sicrhau eu bod yn cwblhau eu cylch bywyd yn llwyddiannus, sy鈥檔 eu galluogi i achosi clefyd pellach.

Gelwir clefydau a achosir gan bathogenau yn . Mae hyn yn golygu y gellir eu trosglwyddo o un person i un arall.

Celloedd bacteriol

Mae gan bob cell facteriol y nodweddion canlynol:

  • dim cnewyllyn
  • cellfur wedi鈥檌 wneud o fwrein, nid cellwlos fel yng nghelloedd planhigion
  • cellbilen a chytoplasm
  • cromosom sy鈥檔 rhydd yn y cytoplasm mewn dolen hir
  • gall gynnwys dolenni bach o DNA a elwir yn blasmidau
  • dim cloroplastau na mitocondria
  • bodoli fel celloedd unigol
  • weithiau mae capsiwl llysnafedd o gwmpas y cellfur i鈥檞 atal rhag sychu
  • rhannu trwy ymholltiad deuaidd, rhannu鈥檔 ddwy cyn tyfu i鈥檞 llawn faint ac ailadrodd y broses
  • gall fod pili ganddynt i lynu wrth arwynebau, neu fflagela i ganiat谩u iddynt symud
Diagram o gell bacteria: Blew, Ribosomau, DNA, Capsiwl, Plasmidau, Cytoplasm, Cellfur, Pilen blasmaidd, Flagellum bacteriol

Gronyn firws

Nid yw yn cael eu cyfrif yn bethau byw am nad ydynt yn cwblhau pob un o saith proses bywyd, sef symud, resbiradu, sensitifrwydd, maethiad, ysgarthu, atgenhedlu a thwf.

Cyfeiriwn at straeniau o firws, nid rhywogaethau. Maent wedi鈥檜 ffurfio o ddarn cymharol gwta o ddeunydd genynnol wedi鈥檌 amgylchynu 芒 ch么t protein.

Diagram o ronyn firws: Amlen pilen, C么t protein, Asid niwcl毛ig, Sbigynnau