Amddiffynfeydd y corff
惭补别鈥檙 corff o hyd yn amddiffyn rhag ymosodiadau gan pathogenMicro-organeb sy鈥檔 achosi clefyd.. 惭补别鈥檙 amddiffynfeydd cyntaf yn erbyn heintiad yn atal y pathogenau rhag cael mynediad i dy gorff. Amddiffynfeydd cyffredinol yw鈥檙 rhai cyntaf hyn, heb fod yn benodol ar gyfer ymladd yn erbyn mathau arbennig o bathogen. Galwn y rhain yn rhwystrau amhenodol, a gallant fod naill ai鈥檔 gorfforol neu鈥檔 gemegol.
Y croen
惭补别鈥檙 croen yn gorchuddio bron bob rhan o dy gorff i atal heintiad gan bathogenau. Os caiff ei dorri neu ei sgriffio, mae鈥檔 dechrau ei iach谩u ei hun yn syth, yn aml drwy ffurfio crachen. Mae hyn yn atal haint wrth i鈥檙 croen weithredu fel rhwystr corfforol. Mae rhannau o鈥檙 corff sydd heb groen wedi datblygu ffyrdd eraill i atal haint. Er enghraifft, mae鈥檙 llygaid yn cynhyrchu dagrau sy鈥檔 cynnwys ensymProtein sy'n catalyddu neu'n cyflymu adwaith cemegol yn y corff.. Rhwystrau cemegol yw鈥檙 rhain.
Y trwyn
Mae gan y trwyn flew mewnol sy鈥檔 gweithredu fel rhwystr corfforol rhag haint. Mae celloedd yn y trwyn yn cynhyrchu mwcwsMwcws yw'r protein gwyn llysnafeddog sy'n leinio'r system resbiradol a'r llwybr ymborth. sy鈥檔 dal pathogenau cyn iddynt allu mynd i鈥檙 ysgyfaint. Wrth chwythu鈥檙 trwyn, taflir y mwcws allan, ynghyd ag unrhyw bathogenau sydd wedi鈥檜 dal ynddo.
Y tracea a鈥檙 bronci
惭补别鈥檙 traceaY prif lwybr anadlu yn y system resbiradu, neu鈥檙 corn gwynt/pibell wynt, sy鈥檔 cysylltu鈥檙 ffaryncs a鈥檙 laryncs 芒鈥檙 ysgyfaint. yn rhedeg o鈥檙 trwyn tuag at yr ysgyfaint. Ar y celloedd sy鈥檔 leinio鈥檙 tracea mae blew o鈥檙 enw ciliaYmestyniadau bach iawn tebyg i flew o gell sy鈥檔 ei galluogi fel arfer i symud sylwedd heibio鈥檙 gell (er enghraifft, yn y bronciolynnau yn yr ysgyfaint)., sy鈥檔 llawer llai na鈥檙 blew yn y trwyn. Celloedd ciliedig yw鈥檙 enw ar y rhain. 惭补别鈥檙 celloedd ciliedig yn chwifio鈥檜 blew ac yn symud mwcws a phathogenau i fyny tua鈥檙 corn gwddw lle c芒nt eu llyncu i dy stumogOrgan cyhyrol yn y system dreulio sy鈥檔 cynhyrchu asid hydroclorig ac ensymau proteas..
Mae celloedd eraill a elwir yn cell gobledCell sy鈥檔 cynhyrchu mwcws i iro pilenni mewnol y corff. yn creu鈥檙 mwcws er mwyn dal pathogenau. Rhwystr corfforol yw鈥檙 mwcws a gynhyrchir yn dy lwybr anadlu.
Y stumog
Nid yw asid y stumog yn dadelfennu bwyd. Mae鈥檔 rhan o amddiffynfa gyntaf amhenodol y corff. Mae鈥檔 cynnwys asid hydroclorig, ac er nad yw鈥檔 gwneud dim niwed i ni, mae鈥檔 ddigon cryf i ladd unrhyw bathogenau sydd wedi鈥檜 dal mewn mwcws yn y llwybr anadlu neu mewn bwyd neu dd诺r a yfwyd. Mae asid y stumog yn rhwystr cemegol rhag haint.