Gwrthfiotigau a gwrthsefyll gwrthfiotigau
Mae gwahanol fathau o feddyginiaeth ar gael i drin llawer o wahanol clefydCyflwr annormal sy鈥檔 effeithio ar y corff, ee malaria.. Dim ond trin y symptomau a wna rhai meddyginiaethau, tra bydd eraill yn gwella鈥檙 clefyd drwy ladd y pathogenMicro-organeb sy鈥檔 achosi clefyd..
Gwrthfiotigau
Sylweddau yw gwrthfiotigau sy鈥檔 arafu neu鈥檔 atal twf bacteriaMicro-organebau ungellog, gyda rhai yn bathogenaidd mewn pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Bacteriwm yw鈥檙 unigol.. Maent yn foddion a gaiff eu rhagnodi鈥檔 gyffredin, ac mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys penisilin ac amocsisilin. Gellir cymryd y rhain i wella鈥檙 clefyd drwy ladd y pathogen ond dim ond yn erbyn clefydau bacteriol, nid rhai firol, y maen nhw鈥檔 effeithiol.
Penisilin
Gwrthfiotig yw penisilin a ddarganfuwyd gan Syr Alexander Fleming yn 1928. Sylwodd fod bacteria yr oedd wedi鈥檜 gadael mewn dysgl PetriDysgl wydr neu blastig clir sy鈥檔 cael ei defnyddio i dyfu celloedd byw o organebau er mwyn gallu eu hastudio. wedi cael eu lladd gan y llwydniMath o ffwng. Penicillium oedd yn digwydd yn naturiol.
Sut mae gwrthfiotigau鈥檔 gweithio?
Mae gwrthfiotigau鈥檔 niweidio鈥檙 celloedd bacteriol heb niweidio鈥檙 celloedd lletyol. Mae ganddynt y gallu i wella rhai clefydau bacteriol a fuasai gynt wedi lladd llaweroedd o bobl. Ers eu cyflwyno, maent wedi chwarae rhan fawr yn gwella iechyd a lleihau cyfraddau marwolaeth dros y byd i gyd.
Mae gwahanol facteria yn achosi gwahanol glefydau. Hwyrach mai dim ond yn erbyn un neu ddau fath o facteria y bydd un gwrthfiotig penodol yn gweithio. Felly mae angen amrediad o wahanol wrthfiotigau i drin nifer o glefydau bacteriol.
Clefydau firol
Does dim modd gwella clefydau firol 芒 gwrthfiotigau, oherwydd maen nhw鈥檔 atgenhedlu y tu mewn i鈥檙 celloedd lletyol.
Gwrthsefyll gwrthfiotigau
Ers darganfod penisilin yn 1928, cynyddu fwyfwy wnaeth y defnydd o wrthfiotigau i drin clefydau. O ganlyniad, gorddefnyddir gwrthfiotigau mewn amryw o ffyrdd yn ein byd ni heddiw.
Problemau gyda gwrthfiotigau
Mae gwrthfiotigau a ragnodir yn gyffredin yn mynd yn llai effeithiol am nifer o resymau:
- gorddefnyddio gwrthfiotigau
- peidio cwblhau鈥檙 cwrs llawn a ragnodwyd gan feddyg
- defnyddio gwrthfiotigau wrth ffermio
Gall y rhain arwain at leihad yn effeithiolrwydd gwrthfiotigau, a chynnydd yn yr achosion o gwrthsefyll gwrthfitotigauGallu bacteria penodol i oroesi ac atgenhedlu pan fo gwrthfiotig yn bresennol.. Gelwir y bacteria hyn yn gyffredin yn arch-fygiau/superbugs.
Un o鈥檙 arch-fygiau hyn yw Staphylococcus aureus sy鈥檔 gwrthsefyll methisilin (MRSA). Mae鈥檔 bwysig sefydlu mesurau rheoli i atal lledaeniad y clefyd hwn. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- golchi dwylo
- glanhau wardiau ysbyty鈥檔 drwyadl
- defnyddio geliau alcohol
- sgrinio am MRSA