成人快手

Darganfod cyffuriau newydd

Mae newydd yn cael eu datblygu o hyd. Yn hanesyddol, deuai cyffuriau o ffynonellau naturiol gan echdynnu rhannau o blanhigion a micro-organebau.

Echdynnu o blanhigion

Mae rhai cyffuriau y gellir eu hechdynnu o ffynonellau naturiol yn hysbys ers amser maith. Er enghraifft, defnyddid rhisgl helyg gan yr hen Roegiaid i helpu gwella twymyn a phoenau. Canfuwyd yn ddiweddarach mai asid salisylig oedd y cynhwysyn gweithredol. Addaswyd hwn gan gemegwyr i鈥檙 sylwedd a alwn ni yn asbirin, sy鈥檔 llai llidus i鈥檙 stumog nag asid salisylig.

Digitalis purpurea (planhigion bysedd y c诺n).
Image caption,
Enghraifft arall yw digitalis, a echdynnir o blanhigyn bysedd y c诺n ac a ddefnyddir i drin cyflyrau ar y galon

Mae planhigion yn dal yn bwysig heddiw, ond caiff y rhan fwyaf o gyffuriau planhigion eu creu bellach mewn labordy gan wyddonwyr mewn cwmn茂au . Erbyn hyn mae gan y cwmn茂au hyn fersiynau o鈥檙 echdyniadau o blanhigion, a defnyddiant y rhain fel y man cychwyn i ddatblygu cyffuriau newydd.

Mae鈥檔 rhaid profi cyffuriau meddygol newydd i sicrhau eu bod yn gweithio, a鈥檜 bod yn ddiogel, cyn y gellir eu rhagnodi.

Camau profi cyffuriau

Camau cyn-glinigol a chlinigol yw prif gamau profi cyffuriau.

Profion cyn-glinigol

Profir y cyffuriau gan ddefnyddio modelau cyfrifiadur a chelloedd dynol wedi鈥檜 tyfu mewn labordy. Bydd llawer o sylweddau鈥檔 methu鈥檙 prawf hwn am eu bod yn niweidio celloedd neu ddim yn gweithio.

Caiff cyffuriau sy鈥檔 pasio鈥檙 cam cyntaf eu profi ar anifeiliaid. Ym Mhrydain, mae鈥檔 rhaid i feddyginiaethau newydd fynd drwy鈥檙 profion hyn. Ond mae鈥檔 anghyfreithlon profi cynhyrchion cosmetig a thybaco ar anifeiliaid. Mewn prawf nodweddiadol, rhoir swm penodol o鈥檙 sylwedd i鈥檙 anifeiliaid, a鈥檜 monitro鈥檔 ofalus wedyn am unrhyw sgil-effeithiau.

Profion clinigol

Caiff cyffuriau sydd wedi pasio profion ar anifeiliaid eu defnyddio mewn treialon clinigol. C芒nt eu profi ar wirfoddolwyr iach i sicrhau eu bod yn ddiogel. Os ydynt yn ddiogel, caiff y sylweddau eu profi wedyn ar bobl sy鈥檔 dioddef o鈥檙 salwch i sicrhau eu bod yn gweithio.

Yn ystod profion clinigol mae angen penderfynu a yw鈥檙 cyffur yn fwy effeithiol na鈥檙 triniaethau cyfredol. Gall hyn olygu gofyn i鈥檙 claf a yw鈥檔 teimlo鈥檔 well ai peidio. I osgoi tuedd defnyddir sawl strategaeth.

  • Plasebo/Cymharu 鈥 Yn aml mewn treialon clinigol rhoddir y cyffur sy鈥檔 cael ei brofi i un gr诺p o bobl, a phlasebo i gr诺p cymharu. Tabled sydd heb gynnwys y cynhwysyn gweithredol yw plasebo, ac felly ni ddylai gael unrhyw effaith o gwbl ar y claf.
  • Profion dall 鈥 Ni ddywedir wrth y cleifion ai yn y gr诺p prawf ynteu鈥檙 gr诺p plasebo/cymharu y maen nhw.
  • Profion dall dwbl 鈥 Nid yw鈥檙 claf na鈥檙 meddyg sy鈥檔 rhoi鈥檙 cyffur yn gwybod ai鈥檙 cyffur ynteu鈥檙 plasebo sy鈥檔 cael ei roi, mewn ymgais i ddileu tuedd yn gyfan gwbl.