成人快手

R么l menywod

Cyn y rhyfel roedd disgwyl i ferched ymddwyn yn wylaidd a gwisgo ffrogiau hir. Pan fydden nhw'n mynd allan byddai'n rhaid iddyn nhw gael cwmni menyw h欧n neu fenyw oedd wedi priodi. Roedd menywod yn cael eu cyflogi mewn swyddi traddodiadol, ee gweithio fel morwynion, gwn茂o, ysgrifenyddion, nyrsio. Yn ystod y rhyfel dechreuodd menywod gael eu cyflogi mewn swyddi eraill, ee gwaith ffatri, gan gymryd lle'r dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel yn Ewrop. O ganlyniad, daeth 19eg Gwelliant y Cyfansoddiad yn ddeddf ym 1920, gan roi'r hawl i fenywod bleidleisio.

Menywod yn gweithio yn First National Bank, Efrog Newydd
Figure caption,
Menywod yn gweithio yn First National Bank, Efrog Newydd

Bu cynnydd o 25 y cant yn nifer y menywod oedd yn gweithio yn ystod y 1920au. Erbyn 1929 roedd 10.6 miliwn o fenywod yn gweithio. Roedd gan fenywod annibynnol y dosbarthiadau canol ac uwch fwy o arian i'w wario. Oherwydd hyn, dechreuodd cwmn茂au hysbysebu dargedu menywod yn benodol i brynu eu nwyddau newydd.

Dechreuodd menywod ysmygu'n gyhoeddus. Daeth yn dderbyniol i fenywod yrru ceir a chymryd rhan mewn chwaraeon egn茂ol. Cafodd rhai o ferched ifanc y 1920au eu galw'n flappers. Yn 1919 roedd sgertiau merched tua chwe modfedd uwchben y llawr ond erbyn 1927 roedd gwaelod eu sgertiau wrth eu pengliniau. Gwrthryfelodd merched yn erbyn gwisgoedd hen ffasiwn cyfnod eu mamau. Daeth yn ffasiynol i ferched dorri ei gwallt ar ffurf bob a gwisgo llawer o golur a thlysau. Un flapper enwog o'r cyfnod oedd Joan Crawford. Roedd nifer fawr o ferched ifanc yn ei hedmygu a'i dynwared.

Byddai flappers yn ysmygu a dawnsio mewn clybiau jazz. Roedden nhw hefyd yn yfed alcohol anghyfreithlon yn y speakeasies. Cychwynnodd Petting Parties lle byddai'r flappers yn cusanu dynion yn gyhoeddus. Ond nid oedd pob merch yn mwynhau ffordd y flappers o fyw. Nid oedd menywod tlawd na menywod du yn gallu fforddio'r ffasiynau newydd ac nid oedd ganddyn nhw'r amser i fynd i fwynhau digwyddiadau cymdeithasol. Nid oedd menywod yn yn dilyn yr arferion newydd. Hefyd, roedd llawer o'r menywod h欧n yn ddig iawn ac aeth rhai ati i ffurfio'r Gynghrair yn Erbyn Fflyrtio.