成人快手

Trosolwg UDA: Gwlad gwahaniaethauFfyniant economaidd a diwedd y ffyniant

Wynebodd America sawl her rhwng 1910 a 1929. Daeth mewnfudo鈥檔 broblem fawr i gymdeithas, arweiniodd problemau economaidd at y Dirwasgiad Mawr a datblygodd diwylliant America yn sylweddol.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Ffyniant economaidd a diwedd y ffyniant

Roedd gan Unol Daleithiau America storfa angenrheidiol o adnoddau naturiol megis coed, haearn, glo, mwynau, olew a thir. Galluogodd hyn America i ddatblygu i fod yn bwer diwydiannol enfawr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd yr adnoddau yma'n sylfaen bwysig i'r economi.

Datblygwyd systemau er mwyn cynorthwyo Americanwyr i brynu'r nwyddau newydd oedd ar gael. O ganlyniad i hyn roedd mwyafrif yr Americanwyr yn medru fforddio nwyddau drud. Er mwyn annog Americanwyr i fanteisio ar y cynllun, cafodd eu gosod ar ochr ffyrdd, ar y radio, mewn papurau newydd ac yn y sinem芒u. Gwelodd y diwydiant trydan mawr yn ystod y 1920au. Erbyn 1929 roedd gan fwyafrif y tai yn America drydan ac roedd 70 y cant ohonyn nhw'n ei ddefnyddio i oleuo'r ty, ac ar gyfer nwyddau cartref newydd.

Henry Ford a'i fab Edsel mewn Model T Ford
Figure caption,
Henry Ford a'i fab yn eistedd mewn car, y model F Ford, yn 1905

Masgynhyrchodd Henry Ford geir fforddiadwy i bobl America drwy gyflwyno llinell gydosod yn ei ffatr茂oedd. Erbyn 1925 roedd ceir yn costio $290, oedd yn llawer rhatach na'u pris yn 1908, sef $850. Erbyn 1929 roedd Americanwyr yn berchen ar 23 miliwn o geir. Roedd y gweithwyr yn cael cyflogau da ($5 y dydd), cafodd miloedd o swyddi eu creu. Adeiladwyd ffyrdd a chodwyd gorsafoedd petrol, gwestai a thai bwyta.

Cafodd yr Unol Daleithiau ei harwain gan dri Arlywydd Gweriniaethol yn ystod y 1920au, sef Warren G Harding, Calvin Coolidge a Herbert Hoover. Polis茂au'r Arlywyddion Gweriniaethol yma oedd peidio 芒 gadael i'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi - hynny yw, polisi . Golygai hyn fod gan fusnesau mawr y rhyddid i allu ehangu heb gael eu rhwystro gan y llywodraeth.

Grwpiau o bobl ni wnaeth elwa o ffyniant y 1920au.
Figure caption,
Grwpiau o bobl ni wnaeth elwa o ffyniant y 1920au

Nid oedd pawb yn gyfoethog yn America yn ystod y 1920au. Fe wnaeth rhai pobl elwa o'r ffyniant ond nid pawb. Roedd ffermwyr yn cynhyrchu gormod o gnydau ac yn methu eu gwerthu. Dioddefodd y bobl dduon yn economaidd, yn enwedig yn nhaleithiau'r de, lle roedd yn digwydd. Roedd nifer o fewnfudwyr heb gael addysg ac roedden nhw'n barod i weithio mewn unrhyw fath o swydd am gyflogau bach. Methodd y diwydiannau traddodiadol ag ymateb i ddulliau newydd masgynhyrchu'r 1920au.

Rhesymau tymor hir

Roedd nifer o resymau tymor hir dros ddiwedd y ffyniant. Erbyn diwedd y 1920au roedd gormod o heb eu gwerthu yn UDA. Wrth i dechnegau ffermio wella roedd ffermwyr yn cynhyrchu gormod o fwyd. Fel ymateb i , gosododd gwledydd Ewrop doll ar nwyddau America. Ar 么l 1926, cwympodd prisiau tai gan adael nifer o Americanwyr yn berchen ar dai oedd yn werth llai o arian na'r hyn roedden nhw wedi ei dalu amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Nid oedd banciau mawr yn America. Nid oedd gan fanciau bach yr adnoddau ariannol i ymdopi 芒'r rhuthr am arian pan ddigwyddodd

Rhesymau tymor byr

Cyfrannodd ffactorau tymor byr at ddiwedd y ffyniant hefyd. Trwy gydol y 1920au roedd prisiau wedi codi i lefelau afrealistig. Parhaodd pobl i brynu cyfranddaliadau gan eu bod yn gwneud elw mawr arnyn nhw. Byddai rhai pobl yn prynu cyfranddaliadau , sef benthyg arian i brynu cyfranddaliadau. Dechreuodd nifer o bobl deimlo'n ansicr ac aeth buddsoddwyr i banig a gwerthu eu cyfranddaliadau ar frys. Ar 24 Hydref 1929, gwerthwyd 12.8 miliwn o gyfranddaliadau. Ar 29 Hydref 1929 gwerthwyd 16 miliwn o gyfranddaliadau am brisiau isel iawn. Roedd y yn Efrog Newydd wedi cwympo.

Daeth y Dauddegau Gwyllt (Roaring Twenties) i ben yn sydyn. Caeodd nifer o fanciau, collodd pobl gyffredin eu cynilion (savings) a chollodd pobl obaith ar gyfer y dyfodol. Bellach, ni allai pobl brynu nwyddau traul fel ceir a dillad. Felly cafodd gweithwyr eu diswyddo a chafodd cyflogau'r gweddill eu torri. Cododd lefelau diweithdra'n uchel iawn ac roedd 2.5 miliwn o Americanwyr yn ddi-waith erbyn diwedd 1929. Dyma ddechrau y 1930au.