成人快手

Beth oedd achosion y ffyniant economaidd yn ystod y 1920au?

Asedau a datblygiad America

Roedd gan Unol Daleithiau America storfa angenrheidiol o adnoddau naturiol megis coed, haearn, glo, mwynau, olew a thir. Sicrhaodd fewnfudwyr weithlu mawr a rhad i ddefnyddio'r adnoddau hyn. Galluogodd hyn i America i ddatblygu i fod yn bwer diwydiannol enfawr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd yr adnoddau yma'n sylfaen bwysig i'r economi.

Er bod econom茂au Ewropeaidd yn dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd UDA yn profi twf sylweddol. Benthycodd banciau鈥檙 Unol Daleithiau arian i Ewrop ac roedd busnesau'n gwerthu nwyddau yr oedd galw mawr amdanyn nhw. Roedd y rhyfel hefyd yn sbardun ar gyfer dyfeisiadau mewn cynhyrchu, deunyddiau a hysbysebu. Yn syth ar 么l y rhyfel, cafwyd ychydig o gwymp, ond o 1922 ymlaen, profodd America ffyniant economaidd na welwyd mo鈥檌 debyg erioed.

Yn araf y datblygodd trydan cyn y rhyfel, ond yn ystod y 1920au gwelodd y diwydiant trydan mawr. Erbyn 1929 roedd gan fwyafrif y tai yn America drydan ac roedd 70 y cant ohonyn nhw'n ei ddefnyddio i oleuo'r ty. O ganlyniad i ddatblygiad y ffatr茂oedd i gynhyrchu nwyddau ar gyfer pobl America, dyblodd y galw am drydan. Cyflwynwyd pwer trydan mewn ffatr茂oedd i yrru'r peiriannau, ac felly daeth hi'n bosibl i gyflwyno mewn nifer o ddiwydiannau a ffatr茂oedd, ee cynhyrchu oergelloedd, peiriannau golchi, sugnwyr llwch a setiau radio.

Y diwydiant ceir yw'r enghraifft orau o fasgynhyrchu yn ystod y cyfnod. Roedd Henry Ford yn arloeswr gyda'i ddelfryd o gynhyrchu ceir fforddiadwy i bobl America. Aeth ati i wireddu ei freuddwyd trwy gynhyrchu ei geir cynnar mewn gweithdai bach. Roedd ganddo grwpiau o ddynion yn gweithio iddo ac yn raddol cafodd y ceir eu hadeiladu.

Henry Ford a'i fab Edsel mewn Model T Ford
Image caption,
Henry Ford a'i fab yn eistedd mewn car, y model F Ford, yn 1905

Fe wnaeth holl waith Henry Ford ddwyn ffrwyth. Wrth iddo gynhyrchu mwy a mwy o geir, roedd yn gallu gostwng eu prisiau. Erbyn 1925 roedd ceir yn costio $290, oedd yn llawer rhatach na'u pris yn 1908, sef $850. Barn Henry Ford oedd ei bod yn well gwerthu mwy o geir am elw bach, gan fod hynny'n cyflogi mwy o weithwyr.

Erbyn 1929 roedd Americanwyr yn berchen ar 23 miliwn o geir. Roedd y gweithwyr yn cael cyflogau da ($5 y dydd), cafodd miloedd o swyddi eu creu, adeiladwyd ffyrdd, a chodwyd gorsafoedd petrol, gwestai a thai bwyta. Felly, cafodd yr holl economi hwb sylweddol diolch i'r diwydiant ceir.

Er mwyn cynorthwyo'r Americanwyr i brynu'r nwyddau newydd oedd ar gael, fe ddatblygwyd systemau . Golygai hyn y gallai pobl brynu rhywbeth trwy dalu'n fisol amdano. O ganlyniad i hyn roedd mwyafrif yr Americanwyr yn medru fforddio nwyddau drud. Er mwyn annog Americanwyr i fanteisio ar y cynllun, cafodd eu gosod ar ochr ffyrdd, ar y radio, mewn papurau newydd ac yn y sinem芒u.

Yn yr un cyfnod, ymddangosodd siopau cadwyn am y tro cyntaf, ee J C Penney. Daeth siopa catalog yn ffasiynol am fod hyn yn ffordd gyfleus o brynu nwyddau.

Rhesymau dros ffyniant economaidd

Rhesymau dros ffyniant y 1920au yn America.