成人快手

Mewnfudo

Bwriad oedd gwneud mewnfudo mor hawdd 芒 phosibl. Roedd yna gymysgedd o bobl yn byw yn America yn ystod y cyfnod yma. Y term am hyn oedd y . Roedd cyfuniad o ffactorau gwthio a thynnu yn achosi i bobl ymfudo. Roedd y ffactorau gwthio yn gwneud i bobl fod eisiau gadael eu gwlad eu hunain, a'r ffactorau tynnu yn eu denu nhw i UDA.

Ffotograff o bobl Iddewig yn ciwio mewn swyddfa ar Ynys Ellis
Figure caption,
Iddewon yn aros i gael eu prosesu ar Ynys Ellis

Yn ystod 1907 cafodd 1.25 miliwn o bobl eu prosesu ar Ynys Ellis. Wrth i nifer y mewnfudwyr godi, dechreuodd rhai Americanwyr amau polisi Drws Agored y llywodraeth. Doedd y llywodraeth ddim yn credu bod y mewnfudwyr newydd yn cyfoethogi bywyd a diwylliant UDA. O ganlyniad, pasiodd Cyngres UDA deddfau i gyfyngu ar y mewnfudo, a phob deddf yn ei thro'n fwy llym na'r un flaenorol. Y rhain oedd Prawf Llythrennedd 1917, y Ddeddf Cwota Argyfwng 1921, Deddf Tarddiad Cenedlaethol 1924 a Deddf Mewnfudo 1929. Roedd y Drws Agored bellach ar gau i lawer.

O ganlyniad roedd mwy o ofn mewnfudwyr, senophobia ac erledigaeth hiliol. Cafodd yr Americanwyr eu dychryn gan y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn Hydref 1917. Sefydlwyd y Blaid Sosialaidd Americanaidd a'r Blaid Gomiwnyddol Americanaidd yn ystod y cyfnod yma. Roedd pobl yn credu bod chwyldro comiwnyddol yn mynd i ddigwydd yn America, a chafodd Americanwyr tramor eu hamau o fod, efallai, yn trefnu chwyldro. Y Braw Coch oedd hwn.

Roedd Nicola Sacco a Bartolomeo Vanzetti yn fewnfudwyr o'r Eidal. Roedd y ddau ddyn yn cydnabod eu bod yn radicaliaid a'u bod wedi osgoi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mis Mai 1920 cafodd Sacco a Vanzetti eu harestio a'u cyhuddo o ladrata o ffatri esgidiau lle bu farw dau berson. Ym mis Awst 1927 cafodd y ddau eu lladd gan drydan yng ngharchar Charlestown.