Adloniant poblogaidd
Cafodd y sinema ddylanwad ar bobl mewn nifer o ffyrdd; o ran ffasiwn a'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd gan bob tref fechan sinema. Byddai nifer fawr o Americanwyr yn mynd yno sawl gwaith yr wythnos am ei fod yn rhad iawn ac yn ffordd o ddianc rhag problemau'r byd. Roedd y sinem芒u'n foethus ac yn lleoedd hyfryd i Americanwyr gymdeithasu ynddyn nhw, ac roedden nhw'n gallu eu cyrraedd yn hawdd yn eu ceir. Yn ystod y 1920au cynnar roedd pob ffilm yn ddi-sain. Arferai sinem芒u gyflogi cerddorion i ganu'r piano neu organ drydan yn ystod y ffilmiau.
Roedd y s锚r hefyd yn gyfrifol am y cynnydd ym mhoblogrwydd y sinema. Roedd Rudolph Valentino yn actor poblogaidd iawn am ei ap锚l rywiol yn The Sheikh (1921). Roedd Charlie Chaplin yn gymeriad dylanwadol iawn ac yn actor enwog, mewn ffilmiau di-sain fel The Tramp (1915) a The Kid (1921). Chwaraeodd Clara Bow, yr It Girl gwreiddiol, ran flapperMerched oedd yn gwisgo sgertiau byrrach, oedd wedi torri eu gwallt ac oedd yn mwynhau'r Oes Jazz. Merched oedd yn mynd yn erbyn yr hen drefn draddodiadol. mewn nifer o ffilmiau, gan ddylanwadu ar lawer o ferched ifanc i ymddwyn yn yr un ffordd. Hi oedd yr actores fwyaf poblogaidd yn 1928 a 1929.
Aeth 110 miliwn o Americanwyr i'r sinema bob wythnos yn 1929 yn rhannol oherwydd datblygiad y ffilmiau sain - talkies - gydag Al Jolson yn y ffilm The Jazz Singer (1927). Cafodd gwobrau'r Oscars eu sefydlu yn 1929. Ond nid oedd pob Americanwr yn hapus 芒'r sinem芒u newydd. Cafodd Cod Hays ei lunio yn 1930 gan Will H Hays. Yn unol 芒'r cod yma cafodd golygfeydd o bobl noeth a dawnsio rhywiol eu gwahardd. Roedd rhai, yn enwedig pobl grefyddol, yn poeni'n fawr am ddiffyg moesoldeb a dylanwad y ffilmiau ar y bobl ifanc.
Daeth jazz yn wreiddiol o gerddoriaeth blues a ragtime y bobl dduon. Daeth Louis Armstrong a Bessie Smith yn enwog. Roedd y bobl ifanc wedi cael digon o hen ddawnsiau eu rhieni, fel y waltz. Roedd jazz yn gerddoriaeth llawer mwy rhythmig a rhywiol, ac yn hawdd dawnsio iddi. Arweiniodd hyn at bobl ifanc yn ysmygu, yfed, ac ymddwyn yn anweddus yn 么l rhai. Daeth dawnsiau fel y Charleston a'r Black Bottom yn boblogaidd iawn. Cafodd jazz ei wahardd o nifer o ddinasoedd, er enghraifft Efrog Newydd. Symudodd y perfformiadau i'r clybiau yfed speakeasies, gan wneud i'r ifanc wrthryfela hyd yn oed yn fwy.