成人快手

Pa ffactorau wnaeth arwain at ddiwedd y ffyniant yn 1929?

Rhesymau dros ddiwedd y ffyniant yn 1929

Rhesymau tymor hir

Gorgynhyrchu ym myd amaeth - wrth i dechnegau ffermio wella a'r galw o Ewrop yn gostwng, roedd ffermwyr yn cynhyrchu gormod o fwyd. Arweiniodd hyn at gwymp mewn prisiau, ac felly llai o elw, a bu'n rhaid i filoedd o ffermwyr werthu eu ffermydd.

Gorgynhyrchu ym myd diwydiant/llai o alw am nwyddau - erbyn diwedd y 1920au roedd gormod o heb eu gwerthu yn UDA. Nid oedd pawb yn gyfoethog yn America. Roedd y rhai a allai fforddio prynu ceir, oergelloedd ac ati eisoes wedi prynu un, ond ni allai tua 60 y cant o Americanwyr wneud hynny. Roedd y cyflenwad yn fwy na'r galw.

Prynu ar gredyd - roedd llawer o dlodion y wlad yn prynu nwyddau ar gredyd ac o ganlyniad, roedd nifer o bobl mewn dyled i siopau a chwmn茂au mawr, Aeth y cwmn茂au hyn i drafferthion ariannol wrth i'r tlodion fethu talu eu dyledion iddyn nhw.

Masnach - erbyn diwedd y 1920au ceisiodd America werthu nwyddau oedd ganddi dros ben i wledydd Ewrop. Ond, fel ymateb i , gosododd gwledydd Ewrop doll ar nwyddau America. Felly roedd nwyddau America yn rhy gostus i'w prynu yn Ewrop ac, o ganlyniad, nid oedd llawer o fasnachu rhwng America ac Ewrop.

Prisiau eiddo - cododd prisiau tai yn uchel yn y 1920au cynnar. Ond, ar 么l 1926, cwympodd prisiau tai gan adael nifer o Americanwyr yn berchen ar dai oedd yn werth llai o arian na'r hyn roedden nhw wedi ei dalu (a'i benthyg o'r banc) amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Gelwir hyn yn ecwiti negyddol (negative equity).

Gormod o fanciau bach - oherwydd polis茂au , nid oedd banciau'n cael eu rheoleiddio'n dynn a olygai mai dim ond ychydig o reolau oedd yna i redeg banc. Roedd llawer o fanciau bach heb yr adnoddau ariannol i ymdopi 芒'r rhuthr am arian pan ddigwyddodd . Bu鈥檔 rhaid i nifer o fanciau gau gan adael miloedd o gwsmeriaid heb arian ac heb hyder yn y system fancio.

Rhesymau tymor byr

Y Farchnad Stoc - trwy gydol y 1920au roedd prisiau wedi codi i lefelau afrealistig. Parhaodd pobl i brynu cyfranddaliadau gan eu bod yn gwneud elw mawr arnyn nhw. Erbyn 1929 roedd dros 20 miliwn o bobl 芒 chyfranddaliadau. Roedd gwerth y farchnad stoc wedi mwy na threblu o $27 biliwn yn 1925 i $87 biliwn yn 1929.

Hapfasnachu - gan ei bod hi'n hawdd benthyca arian, byddai llawer o bobl yn prynu cyfranddaliadau - roedd hyn yn golygu benthyg arian i brynu cyfranddaliadau ac yna eu cadw nes eu bod yn werth mwy na'r ddyled. Benthycwyd tua 75 y cant o bris prynu鈥檙 cyfranddaliadau yn 1929. Yna byddent yn gwerthu'r cyfranddaliadau, talu'r ddyled wreiddiol ac yn gwneud elw.

Colli hyder a phrisiau'n cwympo yn sydyn - Cwymp Wall Street.

Rhesymau tymor byr a thymor hir dros ddiwedd y ffyniant yn America.
Figure caption,
Rhesymau tymor byr a hir dros ddiwedd y ffyniant yn America