成人快手

Trosolwg UDA: Gwlad gwahaniaethauCrefydd a hil

Wynebodd America sawl her rhwng 1910 a 1929. Daeth mewnfudo鈥檔 broblem fawr i gymdeithas, arweiniodd problemau economaidd at y Dirwasgiad Mawr a datblygodd diwylliant America yn sylweddol.

Part of HanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Crefydd a hil

Yn 么l y Cyfansoddiad, mae rhyddid i Americanwyr gredu ym mha bynnag grefydd y maen nhw'n ei dewis. Daeth llawer o bobl i fyw i America am eu bod yn cael eu herlid oherwydd eu crefydd. Ar 么l y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygodd math newydd o Gristnogaeth, sef Ffwndamentaliaeth. Nid oeddent yn hoffi dylanwad y sinema, na jazz, na'r ffordd roedd menywod yn gwisgo ac yn ymddwyn. Roedd y Ffwndamentalwyr yn credu'n gryf ac yn llythrennol ym mhob gair yn y Beibl, ac yn roedden nhw'n ymosod ar unrhyw gred arall.

Pasiwyd deddf newydd mewn chwe thalaith, gan gynnwys Tennessee, yn gwahardd dysgu syniadau Charles Darwin mewn ysgolion, am fod y syniadau hynny'n gwrth-ddweud stori'r Creu yn y Beibl. Roedd John Scopes, athro Bioleg o Dayton, Tennessee, yn ddig iawn am y ddeddf newydd. Dysgodd Scopes ei ddisgyblion am Darwin ac esblygiad yn fwriadol er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol. Fe gafodd ei arestio am dorri'r gyfraith. Cafwyd John Scopes yn euog o ddysgu damcaniaeth esblygiad i'w ddisgyblion a chafodd ddirwy o $100. Yng ngolwg llawer o bobl oedd yn byw tu allan i Ardal y Beibl, roedd syniadau'r Ffwndamentalwyr yn ymddangos yn wirion.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd mwy o ragfarn hiliol a drwgdeimlad tuag at y rhai nad oedden nhw'n Americanwyr 'go iawn'. Roedd gwahaniaethu yn erbyn 12 miliwn o bobl dduon a oedd yn byw yn y UDA a dim ond rhai oedd 芒 hawl i bleidleisio. oedd yr enw ar y deddfau a gyflwynodd yn y de.

Cynnydd a chwymp yn nifer aelodaeth y KKK rhwng 1915 a 1928.
Figure caption,
Methiannau allweddol swyddogion y llywodraeth mewn perthynas 芒 gweithgaredd KKK

Gr诺p hiliol oedd y Ku Klux Klan yn cynnwys Protestaniaid Gwyn Eingl Sacsonaidd () a oedd am weld pobl dduon yn parhau i fod yn bobl gaeth. Erbyn canol y 1920au roedd gan y mudiad pum miliwn o aelodau. Roedd y KKK yn gwahaniaethu yn erbyn pobl dduon, Pabyddion, Iddewon a Mecsicanwyr, a bydden nhw'n aml yn lladd pobl dduon drwy eu crogi heb brawf (lynsio). Ni fyddai'r rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu dwyn gerbron llys yn aml iawn, a gwyddai aelodau'r Klan na fyddai eu ffrindiau yn y llysoedd yn eu cael yn euog.

Roedd aelodau'r Gymdeithas Genedlaethol er budd Hyrwyddo Pobl Dywyll eu Croen (NAACP) yn canolbwyntio ar wrthwynebu hiliaeth ac arwahanu drwy fynd i gyfraith a chynnal gweithgareddau di-drais, fel gorymdeithiau a phrotestiadau. Roedd Y Gymdeithas Fyd-eang er budd Dyrchafu Negroaid (UNIA) yn fwy milwriaethus. Roedden nhw'n annog pobl dduon i sefydlu eu busnesau eu hunain gan gyflogi gweithwyr duon yn unig. Roedden nhw hefyd yn eu hannog i ddychwelyd i Affrica, eu mamwlad. Black is beautiful oedd ei slogan enwocaf.