成人快手

Agwedd a pholis茂au Arlywyddion y Blaid Weriniaethol

Ffotograff o Warren Harding.
Figure caption,
Warren G Harding

Cafodd yr Unol Daleithiau eu harwain gan dri Arlywydd Gweriniaethol yn ystod y 1920au, sef Warren G Harding, Calvin Coolidge a Herbert Hoover.

Polis茂au'r Arlywyddion Gweriniaethol yma oedd peidio 芒 gadael i'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi - hynny yw, polisi . Golygai hyn fod gan fusnesau mawr y rhyddid i allu ehangu heb gael eu rhwystro gan y llywodraeth.

Warren Harding (1921-23)

Ei addewid oedd dychwelyd at normalrwydd. Gostyngodd drethi er mwyn rhoi mwy o arian i fusnesau dyfu ac er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi Americanwyr cyffredin. Yn 1922, cyflwynodd Harding oedd yn gosod treth ar nwyddau o wledydd tramor. Roedd hyn yn gwneud nwyddau tramor yn ddrutach na nwyddau cartref, ac felly'n hybu Americanwyr i brynu nwyddau Americanaidd yn unig. Yr enw ar y polisi yma oedd diffynnaeth (protectionism).

Calvin Coolidge (1923-29)

Ffotograff o Calvin Coolidge.
Figure caption,
Calvin Coolidge

Busnes yw busnes America meddai. Cadwodd Coolidge at yr un polisi 芒 Harding. Er nad oedd yn gwneud llawer, ei lysenw oedd Silent Cal, credai Americanwyr ei fod yn Arlywydd da gan fod yr economi mor gryf. Roedd ganddo barch mawr at ddynion busnes a glynai at y polisi laissez-faire. Rhoddodd ryddid i ddynion busnes wneud elw a chyfoeth.

Roedd hyd yn oed papur newydd y Wall Street Journal yn canmol y polisi yma: Nid oes unrhyw lywodraeth erioed o'r blaen, yma nag yn unrhyw wlad arall, wedi llwyddo i uno mor llwyr 芒 byd busnes.

Herbert Hoover (1929-32)

Ffotograff o Herbert Hoover gyda Marie Curie.
Figure caption,
Herbert Hoover (gyda Marie Curie)

Daeth yn Arlywydd yn 1929 yn dilyn ei addewid i roi cyw i芒r ym mhob crochan, a char ymhob garej. Credai Hoover mewn laissez-faire, ond hefyd mewn . Ystyr hyn oedd na ddylai pobl ddibynnu ar y llywodraeth am gymorth - fe ddylen nhw ateb eu problemau trwy weithio'n galetach. Byddai Hoover yn colli'r etholiad Arlywyddol nesaf yn 1932 oherwydd yr agwedd yma - roedd yn rhy llym - yn enwedig ar 么l Cwymp Wall Street a'r Dirwasgiad.

ArlywyddTermau allweddol
Warren Harding (1921-23)"Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth
Calvin Coolidge (1923-29)"Busnes yw busnes America", laissez-faire
Herbert Hoover (1929-32)Unigolyddiaeth grymus
ArlywyddWarren Harding (1921-23)
Termau allweddol"Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth
ArlywyddCalvin Coolidge (1923-29)
Termau allweddol"Busnes yw busnes America", laissez-faire
ArlywyddHerbert Hoover (1929-32)
Termau allweddolUnigolyddiaeth grymus