Sut wnaeth y ffyniant hwn effeithio ar gymdeithas yn America?
Grwpiau a sectorau nad oeddent wedi ffynnu
Ffermwyr
Roedd ffermwyr yn cynhyrchu gormod o gnydau ac yn methu eu gwerthu. Felly, fe ostyngodd y prisiau a bu'n rhaid i ffermwyr fenthyg arian gan y banciau er mwyn gallu byw. Aeth mwy a mwy ohonyn nhw i ddyled nes iddyn nhw orfod gwerthu eu ffermydd a gadael. Aeth nifer i grwydro o gwmpas America yn chwilio am unrhyw fath o waith - roedd y crwydrwyr yma'n cael eu galw'n hoboGweithwyr oedd yn teithio'r wlad yn chwilio am waith..
Erbyn 1928 roedd hanner holl ffermwyr UDA yn byw mewn tlodi. Gan fod prisiau mor isel fe gollodd cymaint 芒 600,000 o ffermwyr eu ffermydd yn 1924 yn unig.
Pobl dduon
Dioddefodd y bobl dduon yn economaidd, yn enwedig yn nhaleithiau'r de, lle roedd y mwyafrif yn gweithio ar ffermydd bychain oedd yn eiddo i dirfeddianwyr (landlords) gwyn. Labrwyr neu cyfran-gnydwyrFfermwyr du oedd yn gorfod talu am ddefnyddio'r tir trwy roi rhan o'u cynnyrch i鈥檙 perchennog. oedd y bobl dduon gan amlaf ac roedden nhw'n byw mewn tlodi mawr.
Oherwydd deddfau Jim Crow a phresenoldeb y KKK yn nhaleithiau鈥檙 de, roedd arwahanu wedi gwneud bywyd hyd yn oed yn anoddach, ac ymfudodd llawer o bobl ddu i ddinasoedd gogleddol fel Efrog Newydd, Detroit a Chicago i ddod o hyd i waith yn y diwydiannau newydd. Roedd yr amodau'n parhau'n galed i'r rhan fwyaf o bobl a ymfudodd i'r gogledd gan eu bod yn byw mewn ghettos. Yn aml, nhw oedd "y rhai olaf i gael eu cyflogi a鈥檙 cyntaf i golli eu swyddi". Serch hynny, roedd rhai pobl ddu yn llwyddiannus a daeth sawl cerddor ac actor du yn enwog yn ystod y cyfnod hwn.
Mewnfudwyr
Parhaodd cyfradd diweithdra ymysg mewnfudwyr newydd yn uchel trwy gydol y 1920au. Roedd nifer o'r rhain heb gael addysg ac roedden nhw'n barod i weithio mewn unrhyw fath o swydd am gyflogau bach. Oherwydd hyn, byddai'n rhaid iddyn nhw ddioddef mwy a mwy o ragfarn (prejudice).
Hen ddiwydiannau traddodiadol
Methodd y diwydiannau traddodiadol ag ymateb i ddulliau newydd masgynhyrchu'r 1920au, yn wahanol i gwmni Ford a oedd yn gwneud elw da ac yn gallu talu cyflogau gwych. Hefyd, ers chwalu pwerau'r undebau llafurByddai gweithwyr yn ymuno ag undeb i amddiffyn eu hawliau yn y gwaith. nid oedd y gweithwyr mewn sefyllfa i fedru hawlio cyflogau ac amodau gwaith gwell yn yr hen ddiwydiannau.
- Glo - Syrthiodd prisiau glo a bu'n rhaid gwneud miloedd yn ddi-waith am fod y diwydiant yn cynhyrchu gormod o lo a bod dim digon o bobl a gwledydd yn barod i'w brynu.
- Adeiladu llongau - Diwydiant mawr arall a ddiswyddodd filoedd o weithwyr oherwydd llai o alw am longau newydd.
- Cotwm - Cafodd ffibrau synthetig newydd eu datblygu, fel reion a ddaeth yn boblogaidd iawn yn lle cotwm. Roedd hi'n bosib cynhyrchu reion mewn ffatr茂oedd lle'r oedd angen llai o weithwyr. Roedd yn rhaid i nifer o felinau tecstilau gau.
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd |
Perchnogion ffatr茂oedd nwyddau traul | Ffermwyr |
Gweithwyr ar y llinell gydosod | Cyfran-gnydwyr (sharecroppers) |
Pobl wyn yn y dinasoedd | Pobl dduon |
Hapfasnachwyr ar y farchnad stoc | Pobl yr ardaloedd gwledig |
Y mewnfudwyr cynnar | Glowyr |
Menywod dosbarth canol | Gweithwyr tecstilau |
Adeiladwyr | Mewnfudwyr newydd |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Perchnogion ffatr茂oedd nwyddau traul |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Ffermwyr |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Gweithwyr ar y llinell gydosod |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Cyfran-gnydwyr (sharecroppers) |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Pobl wyn yn y dinasoedd |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Pobl dduon |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Hapfasnachwyr ar y farchnad stoc |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Pobl yr ardaloedd gwledig |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Y mewnfudwyr cynnar |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Glowyr |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Menywod dosbarth canol |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Gweithwyr tecstilau |
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwydd | Adeiladwyr |
---|---|
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwydd | Mewnfudwyr newydd |