Main content

Rownd 2 Y Ffoaduriaid v Y Cwps

Rownd 2 Y Ffoaduriaid v Y Cwps

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Datganiad o Hyder

Mi f葪m yn chwarae tymor
dros y C 诺ps yn ugain oed.
Transffyrio at dîm arall
di'r peth calla nesh i ’rioed.

Gruffudd Owen - 8.5 pwynt

Ni’r rhai heirdd yw’r penceirddiaid – yn y Vale,
Fe falwn drueiniaid
Yn llwyr, a heno’n eu llaid
Daearwn Ffoaduriaid.

Iwan Bryn James - 8.5 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘traws’

Mae’n haws mynd ar draws y drin
wedi gwario gwaed gwerin.

Gruffudd Owen - 9 pwynt

Wrth basio Traws haws o hyd
anghofio’r angau hefyd.

Dafydd John Pritchard - 8.5 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Yn nhafarn fach glyd Dyffryn Aeron’

Yn Nhafarn fach glyd Dyffryn Aeron
mae’r heddlu yn chwilio am dystion –
’rôl deall bod gwenwyn
’di guddio mewn myffin
a’r Meuryn sydd nawr gyda’r meirwon.

Casia Wiliam - 8 pwynt

Yn nhafarn fach glyd Dyffryn Aeron
Ces bwdin mawr blasus o fafon
A riwbob a miwsli
A phriwns wrth y pwysi.
Ow... sgwn i pa ffordd mae’r lle Dynion?

Geraint Williams - 8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwibdaith

I Berlin

Roedd hi’n oer, a’r ddau ’nan ni’n
rhyfeddu mai’r haf oedd-hi:
dau rhy stressed o hyd ar ras,
dau unig dan law dinas,
dau a rynnai drwy’r hanes
a dau na wnâi dynnu’n nes.

Nes daeth rhan o’n hunan nôl
ger y ffin â’r gorffennol,
o furiau’r anghyfarwydd
i wres yr hen sgwrsio rhwydd,
a rhwystr y wal fu ers tro
rhyngom yn haws ei dringo.


Ll欧r Gwyn Lewis - 9.5 pwynt

Herc lachar. Sgrech. Rhaid dechrau’r
Wib o’r ward yn fforiwr brau.
Ar drên hir a di-droi’n-ôl
Anturiaf drwy fyd heriol,
Byd o liw’n un stribed lân
A’r cof yn hidlo’r cyfan.

Rhedeg ras â’r tir bras, braf,
Torri rhych drwy’r tir uchaf;
Nes gwelaf, wrth arafu,
Nid dyn yn y gwydr du,
Ond enaid. Ochenaid. Chwa’n
Pylu’n y nos. Stop ola.

Huw Meirion Edwards - 9.5 pwynt

Triban beddargraff gohebydd papur lleol

"DARGANFOD IÂR GOLLEDIG"
a “CHODIAD YM MHRIS SELSIG"
oedd ar y blân ac ar y bac
"MARWOLAETH HAC RHWYSTREDIG ".


Gwennan Evans - 8 pwynt

Hen deip oedd wedi gwaelu
Fu farw yn ei wely,
O'i gladdu’n ddwfwn mewn print mân
Caiff ddechrau tân yfory.

Arwel Jones - 8.5 pwynt

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Torri’r Lawnt

Ger troedffordd gul yng ngwaelod ‘rar’ mae shed fach drist i’w chael,
ac ynddi’n pwdu ers tro byd mae Ffleimo gwirion, gwael.

Ni fûm i ar ei gyfyl o ers cryn flynyddoedd maith
tydw i ddim yn ei drystio fo, na fynta finna chwaith.

Ond rhaid i’r ardd gael cneifiad, nis torrwyd ers sawl ha’
ers pan oedd Woolworths ym mhob tref a’r C诺ps yn dîm reit dda.

Fe geisiais fod yn dyner, a’i gyfarch yn boleit
ond mi aeth o’n syth amdanaf, roedd y Ffleimo isio ffeit.

Reslasom yn y brwgaij, fe’i taflodd fi i’r baw
ond y sglyfath ymdawelodd (ar ôl clustan efo rhaw).

Fe’i taniais, fe besychodd, a chwydu porfa las
ac esgus colli’i olwyn ffrynt, ac yna trodd yn gas.

Dechreuodd refio’n wirion a thasgu pridd a mwg;
nid torri ond aredig lawnt a wnaeth fy Ffleimo drwg.

Yn bwyllog o ddinistriol yr aeth o ar ei hynt,
yn swnllyd, fwdlyd megis tanc hyd gaeau Fflandrys gynt.

Fe’i waldiais gyda bwyell, ond doedd honno fawr o gop
yna llarpiodd fy lein ddillad ac fe ddaeth y diawl i stop.

Ac yna daeth Gwen adra… edrychodd arnai’n syn...
yng nghwmni’r Ffleimo yn y shed dwi’n cysgu erbyn hyn.


Gruffudd Owen - 9.5 pwynt

A minnau ar fy mhensiwn, fe euthum i ar gwrs
I ddysgu sut i dorri’r lawnt er mwyn cael llenwi ‘mhwrs.

Cynigiais fy ngwasanaeth i bobun yn ddi-nâg,
A CHEFAIS lu ceisiadau o Benfro’i Benarlâg.

Gwragedd oedd fy nghwsmeriaid a’u gwyr yn gweithio ‘mhell
Gwnai swn fy mheiriant yn yr ardd i’r merched deimlo’n well.

A gweddwon oedd y gweddill, wynepdrist, sarrug, sur,
Ond ceisiwn gyda f’injian leddfu eu hing a’u cur.

Roedd Doris, Gwen a Hilda, Gertrude a Mary Jane
Yn barod i’m croesawu a hynny gyda gwen.

Ond cawn y croeso mwyaf gan Neli fach Ty’n Coed,
‘Run llun a Brigitte Macron, yn dipyn iau na’i hoed.

Roedd croesi trothwy’i chartre fel mynd i seithfed ne’
A hithau’n sefyll yno mewn pwt o negligee.

Cawn fisged a chawn baned gan Neli yn ddi-ball,
Ac yna ar ôl bwyta, ychydig o hyn a’r llall.

A hyn, rhaid dweud, fu achos fy nghwymp i yn y bôn.
Mor felys oedd y titbits. Anghofiais dorri’r lôn.

Ei phriod ddaeth i wybod. (Dyn milain iawn oedd o)!
Fe’m cweiriodd. Dyna ddiwedd fy ngwaith fel gigolo.

Dafydd Morgan Lewis - 9 pwynt

Ateb llinell a y pryd.

A hogiau'n ddim ond briwgig

Llawr y gad yw lloriau'r gig.

Y Cwps - 0.5 pwynt

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Silff neu Silffoedd

Roedd y silff yn is
ac yn gulach nag y cofiwn hi,
y papur wal wedi pylu
a’r sêl rownd y ffrâm wedi llwydo.

Oddi yno gwyliais
y borderi’n gwywo
fy nhad yn bwydo’r da yn y glaw
a’r car yn gadael y clos.

Hoffwn sibrwd wrth y groten fach
sy’n pwyso’i thrwyn yn erbyn y gwydr
y bydd popeth yn iawn.

Ond y cyfan alla i wneud
yw plygu’n ofalus,
eistedd ar y silff,
ac edrych drwy’r ffrâm unwaith eto.


Gwennan Evans - 10 pwynt

Nid Dewey na rheolau
astrus, caeth Llyfrgell y Gyngres
a gadwai trefn ar gyfrolau

fy myw. Roedd y rheini yno
yn nhrefn atgof a lliw, neu oglau
ffrae yr ymweliad di-adrodd-amdano

hwnnw. Roedd cronoleg byw, patrwm amser,
yn ddigon i’w sodro’n gysurus gefn wrth gefn,
boch wrth foch rhwng cusan a phader.

A deuwn o hyd at yr union gyfrol
wrth anwesu meingefn, cyffwrdd â’r eiliad,
yn nhrefn barod taclusrwydd fy ngorffennol.

Ond ar ôl cinio ddoe, neu heddiw, fe’m dallwyd
gan liwiau. Ble aeth ystyr y drefn? Pam fynnai’r rhain
fy nrysu? A rhwygais feingefn arall yn fy mrys

a’m braw. Mor ddistaw oedd
yr hen atgofion hyn. Mor ddistaw.
Pam? Fy nrysu. Yr hen atgofion hyn…

Dafydd John Pritchard - 10 pwynt

Englyn: Cyfrinair

Eto triaf, gan grafu yn y cof,
ond mae’n ’cau datgelu
ei bryderon di-sôn, sy’
hwnt i eiriau’n pentyrru.


Ll欧r Gwyn Lewis - 10 pwynt

Gall un, o fwytho’r union – lythrennau
A’r rhifau bach cryfion,
Ryddhau rhag feirysau’r fron
Ddisg galed ddwys y galon.

Huw Meirion Edwards - 9.5 pwynt

Enillwyr: Y Ffoaduriaid.