Main content

Tim Gynnau Mawr Deugain a Mwy v Tim Dan 40 oed - Talwrn Arbennig Dathlu penblwydd Radio Cymru yn 40 oed.

Talwrn Arbennig yn dathlu penblwydd Radio Cymru yn 40 oed

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb ar gyfer G诺yl Gwrw

Gwnewch Myrddin ap yn hapus a thynnwch o’i Seithenyn melys a’i Houdini daionus - cadw bardd yw codi bys.

Llion Jones - 9 pwynt

#hwyl #chwil #rwdlan
G诺yl Gwrw fel Chwyrligwgan
#blas #êl #mwydro
Byddwch yn si诺r o fynd adra rhywdro.

Anni Ll欧n - 8.5 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 銉籺欧

Mae diwedd Hedd, mae'r gwaed hallt

yn ei d欧'n dal i dywallt.

Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt

Dywylla ’di hi allan
ac oera’r t欧, gorau’r tân.

Iestyn Tyne - 9.5 pwynt

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i i’r ocsiwn nos Wener’

Mi es i i’r ocsiwn nos Wener

I geisio cael prynu odliadur

Ond aeth yn rhy ddrud

I ffarmwr fel fi.

O wel, fel’na ma’i.

Arwyn Groe - 9 pwynt

Mi es i i'r ocsiwn nos Wener

yn brydlon a balch, 'nol fy arfer.

Roedd yn ddigon di-nod,

neb fawr wedi dod.

Roedd yr ocsiwn ’di bod ers nos Fercher.

Anni Ll欧n - 8.5 pwynt

Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Heneiddio

Mae fy mab yn llym fy mod

yn hen, boring yn barod;

yr wyf yn femrwn bryfyn

canoloesol, a di-lun

eto fyth â'r Smart T.V.

(Rhy od i'w danio'r ydwi,

idiot rimôt, cloff fy modd –

sigais pan luosogodd

yr un go hawdd i'w drin gynt:

trannoeth roedd tri ohonynt!)

Wyf ap di-App (ond hapus),

testun chwerthin crin mewn crys

sgwariau a chroesau gwirion;

SatNav afleraf y lôn.

O ddyn sydd yn ddeinosôr

i'r oes ffislyd ei thrysor,

yr wyf yn dal i brofi

hen win hoff fy ngwinllan i.

Myrddin ap Dafydd - 9 pwynt

Dridiau cyn fy mhen-blwydd ar 1 Ebrill eleni, ganwyd Lwsi Iorwerth, fy nith

Trwy fywyd, dod rhy fuan
wnaeth diwedd Mawrth: dyddiau mân

bryder bod amser yn dwyn
gennyf dan gwmwl gwanwyn.

A llwydwyll Ebrill wedyn,

bloeddio wnâi hwn: “blwydd yn h欧n!”

Ond hen nid es eleni.

Dario ni wnes f’oedran i.

Os heneiddiais ni wyddwn;

yn y crud, yng ngwrido crwn

dy wyneb, y byd yno

a’r oesau i gyd aeth dros go’.

Yr haul wedi gwneud ei ran

yn hapus; tithau’n hepian

yn wawr dyner, a dyna

pam fydd inni dywydd da

yma mwy, a Mawrth i mi

bellach yn lasach, Lwsi.

Rhys Iorwerth - 9.5 pwynt

Triban beddargraff unrhyw gyflwynydd radio

Tommo

Mae’r byd yn ddistaw heno

Mae heddwch yma eto

Llonyddwch ddaeth i’n clustiau’n syth -

Am byth, tawelwyd Tommo.

Caryl Parry Jones - 8.5 pwynt

Fe’i trawyd, do, gan angau

wrth ddarllen y penawdau,

ond Dewi Llwyd aeth ’mlaen heb frys

na thorri chwys am oriau.

Gwyneth Glyn - 9 pwynt

Parodi ar ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’ (Caryl Parry Jones)

Roedd fy mywyd i yn ddedwydd

Ro’n i’n fodlon ar fy myd

Nes i mi droi yn hanner cant

A daeth y chênj a’i lol i gyd.

Aeth popeth oedd am ‘i fyny

Yn raddol ar i lawr

A dwi ‘di canslo’r central heating

Chos ma’r flushes yn fy nhwymo nawr...

Cytgan 1

Ac mae’r chwant yn troi’n chwyrnu

A銉籸 g诺r yn troi銉籭 drwyn,

Y thong yn troi’n staes ac

Mae’r "Phwoarr" yn troi銉籲 g诺yn,

Ac os wyt ti’n rhywle yn gwrando ar fy nghân

Cofia bod chwant yn troi’n chwyrnu

Mewn flushes o dân.

Ac yna bob yn dipyn

Fe ddaeth pob pwys ynghyd

A’r pen ôl oedd mor fach a thwt

Nawr yn edrych fel y Best of Breed.

Daeth Tim Rhys Evans ata i

A gofyn yn jocôs

I mi ddechrau côr i rai fel fi

O’r enw Only Menopause...

Cytgan 2

Ac mae’r chwant yn troi’n chwyrnu

Y corff ma’n troi’n gur

Y blew’n tyfu’n bobman

Yn wyn ac yn hir

Ac os wyt ti’n rhywle yn gwrando ar fy nghân

Cofio bod chwant yn troi’n chwyrnu

Mewn flushes o dân.

Caryl Parry Jones - 10 pwynt

Rwyt ti’n ddisgibl bach disglair

Rwyt ti'n gneud dy waith heb straen

Ac mae'r A serenog uwch dy ben

Yn goleuo'r lôn o'th flaen.

Ti'n syrthio i Sgwad Sgwennu -

Gen ti ddawn a chlust a chwaeth,

Ond cyn ti droi rownd

Rwyt ti'n hollol sownd

Ac ma'r rhydd 'di mynd yn gaeth…

Ac mae llên yn troi'n llanast

Mae'r ias yn troi'n rwtsh

Mae'r sbri'n troi'n ystrydeb

A'r swyn yn troi'n slwtsh.

Ac os wyt ti'n ysu

I fod y prifardd ‘fenga 'rioed,

Cofia bod llên yn troi'n llanast

Pan ti'n troi'n ddeugain oed.

Ac yna bob yn dipyn

Mae'r gwobrau'n dod yn fflyd;

Ti'n cipio coron Mistar Urdd

A'i gadair yr un pryd.

Mai'n dod yn haws gneud englyn

Sy'n sôn am Dewi Sant

Ac yn sydyn iawn

Ma dy ddyddiadur yn llawn

Achos chdi 'di Bardd y Plant!

Ac mae llên yn troi'n llanast

Mae'r ias yn troi'n rwtsh

Mae'r sbri'n troi'n ystrydeb

A'r swyn yn troi'n slwtsh.

Ac os wyt ti'n ysu

I fod y prifardd ‘fenga 'rioed,

Cofia bod llên yn troi'n llanast

Pan ti'n troi'n ddeugain oed.

Mae'th gywydd yn rhy fyr;

Telyneg di'r peth i neud.

Ti'n ymladd â'th odliadur

Ond does gen ti ddim byd gwerth 'i ddeud.

Ti'n trio troi at ryddiaeth

Gen ti nofel yn dy ben

A chyfrol o lên meicro

fyddai’n deilwng o’r wisg wen.

Ti’n cofrestru yn Nh欧 Newydd

Rwyt ti'n talu'r ffi heb grant.

Ond mae pawb ar y cwrs

O dan ddeunaw wrth gwrs

A ti'n teimlo fel hen gant.

Ac mae llên yn troi'n llanast

Mae'r ias yn troi'n rwtsh

Mae'r sbri'n troi'n ystrydeb

A'r swyn yn troi'n slwtsh.

Ac os wyt ti'n ysu

I fod y prifardd ‘fenga 'rioed,

Cofia bod llên yn troi'n llanast

Pan ti'n troi'n ddeugain oed.

Ac mae llên yn troi'n llanast

Mae'r ias yn troi'n rwtsh

Mae'r sbri'n troi'n ystrydeb

A'r swyn yn troi'n slwtsh.

Ac os wyt ti'n digwydd

bod y prifardd hyna’ 'rioed,

Cofia cei fod yn Archdderwydd

tan ti’n gant a dwy oed.

Cofia cei fod yn Archdderwydd

tan ti’n gant a dwy oed.

Gwyneth Glyn - 10 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Mewn pabell yn Nogellau

Fe garwn pan oeddwn iau

0.5 pwynt

Cerdd (mewn mydr ac odl, rhwng 8 a 18 llinell): Anialwch

Mewn estron far, hen siarad

Am ddiawl o ymddeoliad

Mewn anial em yn y wlad...

T欧 haf a blodau銉籲 tyfu

Yn yr ardd a’r garddwr hy

Yn ei chanol yn chwynnu.

Gwerddon heb hwiangerddi,

Gwerddon llawn d诺r mohoni,

Gwerddon hesb yn ein gardd ni.

Aelwydydd di ffagl ydynt,

Aeth eu heniaith ohonynt

A’r hogiau iau efo’r gwynt.

I wawr o dân hwyr y dydd

Y galwyd hen fugeilydd

Erwau anial Meirionnydd.

Mae’r gaea’n ei chwibaon

Yn alwad taer drwy’r wlad hon

Am aberth gan y meibion.

Arwyn Groe - 9 pwynt

Nid yw anialwch yn dibynnu ar lwch

na glaw, na gwynt, nac eira’n drwch;

Nid yw ôl traed camelod yn y tywod cras

nac esgyrn yr adar yn y crinwellt bras

na milltiroedd maith heb yr undyn byw,

yn gwneud anialwch – hynny yw;

Mae anialwch yn rhywle yn y stafell hon,

yn cuddio ymhob un ohonom, bron;

yn yr hanner cof rhwng hen drawiadau,

neu ddagrau ffrind, neu yn seiadau’r

un-sedd-wag, a hiraeth ddiwedd dydd;

anialwch sydd yn llawn o’r hyn na fydd.

Iestyn Tyne - 9.5 pwynt

Englyn ar y pryd

I'r Sesiwn Fawr yn 25 oed.

Alaw deg ei wiol din sy'n aros

yn arian, gan godi'n

w欧l wyllt pan fydd mandolin

ar y sgwâr yng ngwres gwerin.

Llion Jones - 9.5 pwynt

Y Sesiwn Fawr yn 25 oed

Hafau'n h欧n yw afon Wnion na'r w欧l,

ond mae'r holl alawon

yn dal i roi egnion

i'w thaith hi, drwy ddawns ei thon.

9.5 pwynt

Enillwyr: Cyfartal.