Main content

Beirdd Myrddin v Crannog

Rownd 1 Beirdd Myrddin v Crannog

Trydargerdd Neges yn mynegi siom.

Ni chefais alwad ganddi,

Na llith mewn amlen wen,

Dim ond rhyw ddau emoji

I ddweud ein bod ar ben.

Bryan Stephens - 8.5 pwynt

Y to h欧n trwy Brexit aeth

Adref i’w Hymerodraeth.

Endaf Griffiths - 8.5 pwynt

Cwmpled Caeth yn cynnwys y gair 'pert'.

Er mor bert yw'r môr o'r bae,

dienaid yw ei donnau.

Aled Evans - 9 pwynt

Go brin fod lili’r llinach

Yn rhy bert i’r border bach.

Elsie Reynolds- 8.5 pwynt.

Limrig yn cynnwys y llinell 'Fe holais yr adran gynllunio'.

Fe holais yr Adran Gynllunio

Am fur rhwng Gwbert a Charno,

Cyn uched â th诺r,

A'i gylchynu gan dd诺r,

A'r Gogs i dalu amdano.

Ann Lewis - 8 pwynt

Ar ôl i mi godi’r sied gneifio,

a’r parlwr i gant o dda godro,

y garej i’r ceir,

a chwt bach i’r ieir

fe holais yr adran gynllunio.

Endaf Griffiths - 9 pwynt

Cerdd ar fesur yr englyn milwr - Unben.

Wyf geidwad pob diadell,

wyf fintai dan un fantell

yn ffromi: wyf gi o'i gell.

Rhof bader dros ddoleri,

A llais tros eu lluosi

Yna'u dwyn i 'mhoced i.

Wyf wên iach ac yn drachwant,

Yn chwys oer am swache sant,

Yn ffiaidd o ddiffuant.

Rhof garreg ar bob egin

A boddaf lais pob byddin.

Un ffordd fynnaf i: cau'r ffin.

Lowri Lloyd - 9 pwynt

Ceir unben ym mhob pennaeth,

Yn y mêr mae’n blentyn maeth,

Un o wyrion Hitleriaeth.

Ef yw ceg y rhethregu,

Y saethwr sy’n torsythu

Dros hoywon a dynion du.

Fe’i ganed i weithredoedd;

Cofied, fileinied ei floedd,

Yn ei gryman mae’r grymoedd.

Tra bo byddin yn ffiniau,

Ar ei farch mae’n eu cryfhau,

A’i lathen â’n daleithiau.

Yn ei balas, atgas yw,

Un na fedd un hawl i fyw.

Fe’i wadaf, - ond fi ydyw.

Idris Reynolds - 9 pwynt

Pennill Ymson mewn dosbarth ffitrwydd.

Rwyf yma'n pwmpio'r awen

Am fod fy odlau'n llac,

Gan sefyll yn reit betrus

Rhwng Alan a Mei Mac.

Daw Ceri Wyn fel Rocky

I wthio'r pês yn gynt

A'm gadael ar fy ngliniau

Yn hollol mas o bwff.

Garmon Dyfri - 8.5 pwynt

Rwyf yma’n ddyddiol yn ymlâdd

Heb wybod pam na sut,

Ond pan gyrhaeddai’r ochor draw

Fe fyddai’n weddol ffit.

Elsie Reynolds - 8 pwynt

Cân Ysgafn - Y Raffl.

Pan drengodd Pwtyn druan

Y cwrcyn melyn cu

Fe raffles ei weddillion

Fel parch i’r hwn a fu.

Fe werthais y tocynnau

I ffrindiau, un neu ddou,

Gan rannu’r gwobrau wedyn

Sef darnau o’r hen foi.

‘Nillodd Boris y bechingalws

(Ma’ rhai fe ‘di wero mas)

Cafodd Gove a’r ffyddlon Nigel

Bobi ddarn o’r gynffon fras.

Y second preis oedd perfedd

Ca’th Theresa hwnnw i gyd

A gweithodd gawl ohono

Er lles unbeniaid byd.

Fe gadwes y wobr gyntaf

Rwy’n ei wisgo am fy mhen

Sef blewiach yr hen bwsi

Mae’n siwto i’r dim. Amen.

Bryan Stephens - 8.5 pwynt

Mae Radio Cymru, er mwyn gwneud arian,

Yn cynnal raffl o’i rhaglenni ei hunan.

A phenderfynwyd, ar ôl gwerthu’r tocynne,

Dynnu’r enwe o’r het yn Oedfa’r Bore.

Os byddwch yn lwcus cewch gyfle i fynd off-i

Gael paned o de ar raglen Siân Coffi,

Neu ddilyn C2 sydd newydd gael grant

I Emyr y Graig ganu Bach ar gerdd dant.

Cofiwch, wrandawyr, mae’r gwobrau yn hael,

O Dan yr Wyneb mae bargeinion i’w cael

Fel stori’r plant bach a guddir rhag plantos

Rhwng dechrau’r Talwrn a diwedd Dei Tomos.

Pan ddaw’r Post Cyntaf, yn ddifyr a dwys,

Yn ei gadair bydd Dylan fel bardd y mwys

Ac yna, fel Waldo, fe fydd mewn dau barc

Yn chwarae â geiriau ac Ar y Marc,

A thra bo ni’n crybwyll y bardd o Sir Benfro

Ceir un funud fach ‘da John Hardy i Gofio.

Dwy bunt y strip er mwyn cael eich tywys

Drwy weledigaethau Betsan Powys.

Idris Reynolds - 8.5 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Un eiliad oedd, eiliad wan

Ac oes yn cofio'r gusan.

0.5 pwynt

Telyneg mewn mydr ac odl - Tocyn.

Rhyw bori bûm mewn cyfrol fain

O gerddi serch o'r oes o'r blaen;

Wrth eu hymyl ysgrifen flêr,

A llun y lloer mewn clwstwr sêr,

Calon fechan a'i hinc yn drwch,

Dau yn hwylio i ffwrdd mewn cwch,

Ac yno rhwng dwy ddalen frau,

Darn papur wedi'i blygu'n ddau,

Ei eiriau wedi troi yn graith

Ac ôl y glaw yn atgof llaith.

Y lliwiau wedi pylu'n wyn

Gan droi yn un â'r cerddi hyn.

Ond wrth fyseddu'r papur mân

A'i eiriau coll rhwng cân a chân,

Fe drof drachefn i'w disgwyl hi,

I'r un sedd wag wrth f'ymyl i.

Aled Evans - 9 pwynt

Bwriaf fy mara unwaith

i mewn i’r dyfnder maith,

fe’i fwriaf eto’r eilwaith

ac yna’r drydedd waith,

ond ni ddaw hithau’r Forwyn

na’i gyrr o wartheg gwyn

yn ôl o’r d诺r i hudo

y llanc ar fin y llyn.

Dim ond rhyw donnau mân a gwyd

cyn chwalu’n ddim ar wyneb llwyd.

Endaf Griffiths - 9 pwynt

Englyn - Chwiban.

Gwales

Pe medrwn, fe nofiwn i dros y môr

at y ddôr fawr dderi,

a rhoi olew i dewi

ei hen chwib. Ac i'w chau hi.

Aled Evans - 9.5 pwynt

I Nigel Owens

O raid, y rhagfarn a’r rheg – a giliodd

Cans gwelai pob pymtheg

Fod chwiban yn ychwaneg

Ynot ti dros chwarae teg.

Idris Reynolds - 9.5 pwynt

Enillwyr - Beirdd Myrddin.