Main content

Rownd Gyn-Derfynol 2 Y Gl锚r vs Tir Iarll.

Rownd Gyn-Derfynol 2 Y Gl锚r vs Tir Iarll.

Trydargerdd: Newyddion o unrhyw 诺yl gerddorol

(https://twitter.com/elinceredigion/status/883982336169316352)

os ath jez i’r meysydd j1 a seidr n ynys wydr1 â 鉂わ笍 i’r bobol ifanc n nhir y llaid n rêl llanc,drachto to o nant hawN n ôl da’i bobol nath bN

Eurig Salisbury - 9 pwynt.

Ni chafodd Coralski, Na'r bangra bassists,
Kurdistaccatto na'r corale di Pisa
Ganu yn Llangollen
Am na chawson nhw Visa.

Aneirin Karadog - 8 pwynt.

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw dalfyriad

LOLit Lywelyn,
LSHICit, fe lenwit lyn.

Eurig Salisbury - 8.5 pwynt.

Yn y galon fe goelir
CNN… os yw yn wir.

Tudur Dylan Jones - 8 pwynt.

Limrig: ‘Mor bwysig yw cadw cofnodion’

‘Mor bwysig yw cadw cofnodion
O bob galwad ffôn a’u manylion,’
Medd g诺r o’r T欧 Gwyn,
‘Ac yna, ar hyn,
I’r Cremlyn ar unwaith eu hanfon.’

Eurig Salisbury - 8 pwynt.

Esgeulus fu gwaith yr angylion
Wrth gyfri pechodau’r holl ddynion;
I’r nef yr aeth wedyn
Farage, Trwmp a’r Meuryn…
Mor bwysig yw cadw cofnodion.

Emyr Davies - 8.5 pwynt.

Cywydd yn dechrau â’r geiriau ‘Er gwaethaf …’

Er gwaethaf ein pregethu
Y daw weithiau’r dyddiau du
A dwyn i ’sgwyddau dynion
Holl feichiau’r wybrennau, bron,
Cytuno, nodio wnawn ni,
Troi’r wên yn wên trueni;
Rhannwn holl gysuron iaith,
Daw’n hanwybod yn obaith.

Am oedfa ddiymadferth
Yw hon na 诺yr rannu’i nerth!
Ond o leiaf cawn drafod
Y nen a’i baich dua’n bod.

Osian Rhys Jones - 9 pwynt.

Y Deifiwr

Er gwaethaf gwên yr afon
A’i llyn hardd, mae twyll yn hon.
Llygadu, denu mae’r d诺r
Yn gynnes, a digynnwr
Ar yr wyneb; er hynny,
Is y d诺r mae malais du.
Herio, rhegi mae’r hogie
 hyder rhwydd bois y dre,
Neidio o’r wal, pawb yn ei dro,
Nes i un gael ei swyno,
A Theifi brydferth, ifanc
Â’i llaw oer am wddw’r llanc.

Emyr Davies - 9.5 pwynt.

Triban beddargraff garddwr neu arddwraig

Er hau dy hadau gleision
O dan dy rododendron,
Fe wledda’n ysgafala sgwod
O wlithod ar d’olwythion.

Eurig Salisbury - 9 pwynt.


I nodi lle gorweddo

Syr Idwal Wyn ap Flymo,

sef garddwr llysiau gorau'r plwy,

'does mwy ond rhych o dato.

Tudur Dylan Jones - 9 pwynt.

Cân ysgafn: Rhwydweithio

Rhowch imi araith ddiflas, rhowch banel gwaetha’r byd,
A rhowch gyflwyniad PowerPoint sy’n ddau gan sleid o hyd,

Rhowch air gan y Cadeirydd, a hwnnw’n feddw gaib,
Jyst peidiwch â gofyn imi rwydweithio’n lle cael saib.

Mae rhai sy wir yn hoffi’r holl shmwzo a minglo am awr,
Ond llawer gwell fyddai gen-i gael fy llyncu gan y llawr.

Pan fydd yn amser paned fe af i’r t欧 bach bedwar tro
I samplu’r papur toiled – wel, pawb at y peth y bo.

Rwy’n cario dwy ffôn symudol, a deialaf fy hun o ’mhoced,
‘Rhaid cymryd yr alwad,’ dywedaf, cyn diflannu o’r stafell fel roced.

Ac wedyn amser byffe, celfyddyd yw osgoi
Pob un sy’n dal fy llygad, a chydio mewn brechdan yn gloi.

O ’mhrofiad i, mae rissoles yn handi ar y naw
I’w stwffio i’ch ceg yn sydyn pan fydd rhywun yn dod draw.

Ond ers sawl blwyddyn bellach, rwy’n hunangyflogedig,
Ac mae rhwydweithio erbyn hyn yn fflipin fendigedig,

Rhwydweithiaf mewn pyjamas, sdim ishe gwisgo, glei,
Rhwydweithiaf yn y gawod ’da’r botel Timotei,

Rhwydweithiaf wedyn yn yr ardd wrth roi dillad ar y lein,
Ac rwy’n dal i fwyta rissoles, ond ’mond am eu bod nhw’n ffein.

Iwan Rhys - 9 pwynt.

Dwi ddim yn iswsho Facebook, dwi ddim ar Trydar chwaith,
mae gen i fath o ebost, ond dim ond o achos gwaith.

Mi ges i ffôn symudol y llynedd, Nokia gwyn,
mae’n ffonio ac yn tesctio, ond ddim byd mwy na hyn.

Un tro, yr wythnos dwethaf, mi es i ar y we,
dim ond i drio ffeindio a o’n i’n dod o’r de.

Mi ffoniodd Ceri unwaith o’i wyliau yn Hong Kong
ond wedi ateb, meddai, ‘Sori, y nymbyr rong.’

Sut i siarad efo pobol, does gennyf fi ddim clem,
dwi’n mynd i siopa’n Tesco rhwng 2 a 3 a.m.

Dwi’n llunio negeseuon efo cwil a golau lamp,
ac wedyn yn eu hanfon mewn amlen wen a stamp.

Mae’n debyg wir fy mod i, yn ddyn hen ffasiwn braidd
ac wedi cael fy ngadael yn oes yr arth a’r blaidd.

Mae Whattsap, instagram, trydar a snapchat ar ffonau rhai
ac maen nhw’n sgwrsio â phobl heb fynd i mewn i’w tai.

O’r rhain dwi’n genfigennus, ’di bywyd ddim yn ffêr,
ond mi faswn i’n gartrefol yn un o dîm y Glêr.

Emyr Davies - 8.5 pwynt.

Ateb llinell ar y pryd.


Y nôd i bobl fel ni

yw cyrraedd safon Ceri.

Y Glêr 0.5 pwynt.


Y nôd i bobl fel ni

yw cyrraedd safon Ceri.

Tir Iarll - 0.5 pwynt.


Yr oedd flynyddoedd yn ôl

Ie un llinell wahanol.

Y Glêr 0 pwynt.

Yr oedd flynyddoedd yn ôl

Finne'n y rownd derfynol.

Tir Iarll - 0.5 pwynt.

Telyneg neu soned: Offer

Mor daclus oedd hi pan gyrhaeddon ni
ym moelni canol gaeaf, brigau’r coed
afalau fel rhwydweithiau’n arwain lli’r
cymylau tua’r llawr, yn bell o oed
blodeuo. Crogai ambell raw a fforch
yn llonydd fel cofebau ar hyd wal
y sied, a weiar torrwr porfa’n dorch
ar fachyn, gwaddol gan y ddau fu’n dal
i dwtio y borderi’n ara’ bach.

Ym mlerwch hyfryd haf mae’r lawnt yn las,
mae cadw’r gwyddfid rhag y borfa’n strach
a blodau gwyllt a chwyn yn llwyni bras.

Ond rhag i’r ddau synhwyro, mas yr af,
a chael bod coes y rhaw yn gynnes braf.

Hywel Griffiths - 10 pwynt.

Arferai yr arad siarad â'r tir
A'r tir a ddychwelai'r ateb bob tro,
A'r chwys ar ruddiau lle bu'r dyddiau'n hir
Fu'n aredig ei fin crinedig o -
Y ffarmwr a ryfeddai ar wyrth y pridd
Bob cynhaeaf wrth iddo raffu'n dynn
Eiriau y ddaear o'r rhychau'n y ffridd
Cyn rhannu gair â'i wraig am drechu'r chwyn.
Ond un gwanwyn du ni chododd ei wawr,
Ni hidiodd am heuliau hwyr yr haf
A mudan fu'r arad yn rhydu ar lawr,
Ni roddai’r machlud ei sgwrs wresog, braf.
Diffrwyth yw’r caeau heb ei chwerthin mawr
Ers iddi hi beidio â chodi â'r wawr.

Aneirin Karadog - 8.5 pwynt.

Englyn: Cytundeb

‘We’re working on a [post-Brexit] trade deal … we’ll get that done very, very quickly’ – addewid Donald Trump i’r DU yn Hambwrg

Rhown lwydd pob swydd, rhown ein siâr – i grogi
Ar ego’r hunangar,
A’u rhoi er dim ar air da’r
Celwyddgi cywilyddgar.

Eurig Salisbury - 9.5 pwynt.

(Proses Heddwch Gogledd Iwerddon)

Er i'r heddwch wireddu - hen ddyheu
am weld ddoe’n dyd-dynnu,
fe fydd yr holl wyrdd a fu
yn fwy oren yfory.

Emyr Davies - 9.5 pwynt.

Enillwyr: Y Glêr.