Main content

Rownd 1 Hiraethog v Penllyn.

Hiraethog v Penllyn Rownd 1.

Trydargerdd : Diwrnod y Llyfr.

Hei'r tlawd wyliwr teledu, at dy les

cwyd lyfr, a rhyfeddu.

Ar doiled, ar dy wely,

pori raid. Yn eiriol, Pry'.

Rhys Dafis - 8.5 pwynt.

Yn nyddiau’r diffrwyth-wylio

Awn ati, ‘leni eto,

I agor cil y drysau hud

Ar fyd sy’n llawn o gyffro.

Beryl Griffiths - 9 pwynt.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair “llif”.

Un llif byw'n llifo beunydd

yw'r llun ar declyn ein dydd.

Ffion Gwen - 8.5 pwynt.

Llai o faich i'r llif fechan

yw mynd heibio'r ceinciau mân.

Gruffudd Antur - 8 pwynt.

Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Mi geisiaf fy ngorau’r tro nesaf’.

Mi geisia'i fy ngora'r tro nesa'

i blesio'r hen ddyn acw... weithia'!

Ond diawl, tydi o

mo'r gora'n y fro

am blesio, neu 'swn i'm yn fan'ma.

Gwenan Prysor - 8.5 pwynt.

Ni fues i ‘rioed y cynharaf

A dyma fi eto yn olaf,

A allwch chi faddau,

Plîs Pedr, i minnau,

Mi geisiaf fy ngorau’r tro nesaf.

Beryl Griffiths - 8.5 pwynt.

Cerdd ar fesur Englyn Milwr ‘Rhaeadr’.

Ar grwydyr, un antur oedd

y wefr yn s诺n ei dyfroedd,

â ni blant yn uwch ein bloedd.

I wynfyd, doi ei thynfa’i

ogrwn yn gwymp Niagra

holl wreichion afon ein ha’.

Bu chwilio eildro am hon:

gafael ym map f’atgofion -

a gweld dim, ond treiglad ton.

Llaw wyres yn gynnes gaf

i’n harwain heddiw’n araf,

a'm bryd ar hen fwrlwm braf.

Ffion Gwen - 8.5 pwynt.

I lawr mur castell Caernarfon

Draw ar wal castell y dre

Bu i wawr goch y bore

Rhynllyd ail ddeffro'r hunlle'.

Un haf, aethom yn ifanc,

Yn w欧r triw i herio tranc

Gwewyr rhyfel a'i grafanc.

Yn euogrwydd fy nagrau,

Yno gwelaf ddarluniau

O fyd brwnt a'i fywyd brau.

Erchyllterau'r dyddiau du

A'i holl heth ddaw i'm llethu

Yn nhawelwch fy ngwely.

Dylan Davies - 8.5 pwynt.

Pennill ymson wrth gyfieithu’r Beibl.

Digon hawdd i William Morgan,

pur ei iaith, wneud y translêtio,

Ond i fi, god, mae fo’n ôsym,

so, fi deffo’n rîli stryglo.

Eifion Lloyd Jones - 9 pwynt.

Mae ‘na sôn nad yw ‘mhregethe,

Erbyn hyn, yn fawr o bethe.

Mae fy meddwl i ar grwydr

Hefo Dafydd yn ei frwydr,

Hefo Moses rhwng y tonnau,

Dyn yn ymladd cawr wyf innau.

Y mae’r Ararat papurau

Hyd fy nesg a’r holl gadeiriau,

Ac mae llif yr inc o Lunden

Yn fwy llydan na’r Iorddonen.

Piliwyd mwy o frwyn i’w tanio

Na’r holl wenith oedd gan Pharo

Ac mae gwydde’r plwy yn fferru,

Noeth fel Adda, imi gael ‘sgwennu.

Ond fy nod, trwy’r awr dywylla

Ydi cyrraedd r’Amen ola.

Beryl Griffiths - 9.5 pwynt.

Cân ysgafn: ‘Y Ginio G诺yl Ddewi’.

Un gynnes yw’r gwahoddiad i bawb ddod atom ’leni,

Gymdeithas y Gamdreiglwyr, i’n ginio mawr Gwyl Ddewi.

I’r gwrs gyntaf, gewch gawl gennin, hefo groutons sydd yn grêt,

Neu mae ganapés a gous-gous - i fod yn fwy sidêt.

Geir gyri, gyw iâr gejun a geir gyw iâr goq au vin

Does dim gig moch a dynwyd, gans geir hwnnw ym mhob man.

Geir gyw iar goronedig, mewn saws gyfoethog gnau

Mae gyplau’n hoffi hwnnw, gan fod gormod bron i ddau.

Mae ganmol mawr i’r gig oen: goginir ef i’r dim,

A gig eidion gorau Gymru: goginir hwn yn chwim.

Geir bwdinau gaboledig – gacen gaws blas goffi drud

A grempog geirios gochion, sy’n gorffeniad gwych i’r pryd.

Y grymbl ddaw ’fo gwstard, neu os yw’n well, mae gaws

Genarth a Gaerffili efo gracyrs, sydd lot haws.

Gôr gymysg fydd yn ganu ar ôl y gyrsiau bwyd,

Gyfeilyddes ydi Garys, a’r gonductor ydi Glwyd.

Ac yn goroni’r gyfan, gawn glywed dros awr faith

Gan un gwnaeth guro goron a gadair – hon ddwy gwaith.

Braint mawr yw gael gyhoeddi y byddwn ni ar hyn

Yn gael groesawu’n gyfaill, y Prifardd Geri Wyn.

Gwenan Prysor - 9.5 pwynt.

Trwy hirlwm oer y chweched ganrif, roedd Dewi Glyn Rhosyn a’i fam

Yn enwog eu sgiliau coginio, yn enwedig y grefft o wneud jam.

Roedd Dewi’n ddyfeisgar mewn cegin, yn wir ei gampau oedd fawr..

Fe gododd y ddaear un diwrnod wrth daflu “self-raising” ar lawr.

Jam morgrug oedd ffefryn y teulu, roedd siop gwerthu morgrug yn dre,

A gallai Dewi er pan yn un bychan ddewis y gorau’n y lle.

Rhyw lygaid bach disglair fel dwy “M”, - (am morgrug) i’r sach yr aent fesul cant

A dyna paham fod ei gyfoedion yn ei alw yn Dewis...Ant.

Mewnforwyd un ant o’r Amerig, a foelai ei chlustiau yn gron

Rhyw ant bur enbyd ydoedd hon, ond gwerthwyd hi i Non gan Don.

Arbrofwyd mewn meysydd ehangach – “dechreufwyd”, - nid annhebyg i jam,

Yn anffodus bu hyn yn Non starter, a diffodd fu hanes y fflam!

Courgettes oedd y jam mwya poblogaidd, roedd galw am hwn ar y stryd

A dyna paham mwy na thebyg fod prinder cyflenwad o hyd.

Roedd Dew a’i fêt, Cefin Pedr, am gychwyn ysgol goginio’n y plwy.

Yn anffodus gwnaeth Cef gamgymeriad wrth lenwi ryw ffurflen neu ddwy!

Ond bellach mae Mawrth y cyntaf yn ddydd pigo morgrug i bawb

A’r Cymry yn gwir ymfalchïo mewn un a wnaeth fyw mor dlawd;

Ac os gwelwch chwi nythiaid o forgrug wrth fynd am dro bach efo’r plant

Efallai y bwytewch y “rhai bychain” i ginio, ar 诺yl dewis ant.

Aled Jones - 9.5 pwynt.

Ateb llinell ar y pryd.

Gwelais esgob mewn coban

yn ei llofft ac yn ei llan.

0.5 pwynt.

Telyneg: Rhannu.

Ar ymddeoliad Martin McGuiness

O dwyni gwael Donegal

a mwynder mawndir Derry*,

ffrwynodd gariad ffyrnig

at deulu gwan gan dlodi

ei werin werdd

nes ffrwydro’n goch

ar Sul y Saethu.

Codi llu a chadw llw

yn erbyn grym y gormes

ar strydoedd gwlyb

o waed cyfoedion

am ddegawd digyfaddawd.

Yna, estyn dwrn y dial

i ysgwyd llaw â’r llofrudd,

gan frathu tafod a chau clust

i sen o ensyniadau

cyn cynnau cannwyll

ar elor hen ddoluriau.

Ond creithiau’r caethiwed

fu’n dal i waedu

o dan yr undeb,

gan sugno’r egni

yn stormydd Stormont

a digalondid Donegal.

Eifion Lloyd Jones - 9.5 pwynt.

Taith.

Hen beth digon blêr ydi map

i’w lapio’n daclus,

a’r plygiadau weithiau’n

troi tu chwith.

Hen beth digon blêr ydi map,

a’r rhigolau ynddo’n dwyll,

nad yw’r man gwyn, fan draw

wedi’r cwbl.

Hen beth digon blêr ydi map,

a minnau’n dilyn llwybr

sy’n mynnu diflannu

fel rhith heibio’r tro,

a’m gadael i ar goll

yn chwilio am gamfa

dros weiren bigog.

Hen beth blêr ydi map –

nes i ti gydio yn ei ymylon

a’i blygu’n gymen, gynnes,

yn dy fynwes,

a’i roi i mi

i’w gadw.

Haf Llywelyn - 9.5 pwynt.

Englyn: Sant.

Gwobr oes fu ei cheg brysur – a’i rhegi

a’i rhwygo’n ail natur, -

gwraig o garreg, a segur,

ond i’w g诺r, rhyw siwgwr sur.

(‘rhegi a rhwygo’ yn ymadrodd yn y pentre’ lle roedd hi’n byw)

Berwyn Roberts - 8.5 pwynt.

Rhwygaist fy nghroth dan regi, y bwbach,

heb wybod bod gweddi

yn drech na dy orthrech di,

bod Mab Duw ym mhob Dewi.

Gruffudd Antur - 9.5 pwynt.

Enillwyr - Penllyn.