成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dai Morgan Twrio yn camu i fyd difyr y clocsiau

Mae g诺r o Ffarmers yn sir Gaerfyrddin yn cofio s诺n y glocsen yn taro yn erbyn y pared wrth i'w perchnogion gerdded i'r gofaint i gael eu pedoli.

Erbyn heddiw ychydig iawn sydd yn gwisgo clocsiau, ond mae Dai Morgan, a gafodd ei gyfweld ar raglen Twrio S4C ar Fehefin 30, 2005, yn llawn atgofion melys am y dyddiau da pan fyddai'r esgidiau pren yn ffasiynol iawn.

Clociau o ganrifoedd cynt

Wnaeth y rhaglen hefyd fwrw golwg ar b芒r o glocsiau plentyn a ddefnyddiwyd dros gan mlynedd yn 么l, bydd yn un o'r creiriau a gynigir yn yr ocsiwn fyw ar ddiwedd y gyfres.

"Er mai ifanc iawn o'n i, wy'n cofio pobl yn ymweld 芒'r gof i gael pedoli'r clocsiau," meddai Dai. "Arferai llawer iawn o bobl wisgo clocsiau, ond y plant a'r menywod oedd yn eu gwisgo fwyaf.

"Byddai pobl yr ardal yn dod yma i'r gof pan fyddai angen pedol newydd ar y glocsen. Roedd yn rhaid eu pedoli yn syth, gan na fyddai'r pren yn para'n hir wedyn, wedi difa'r bedol.

"A byddai'r s诺n yn dra gwahanol wrth i'r perchnogion gerdded o'r gof tua'r pentref gyda phedolau newydd ar y glocsen," meddai.

Atgofion

Er bod pedoli clocsiau wedi bod yn rhan o yrfa Mr Morgan, a'i dad a'i dad-cu, ni fu'n gwisgo'r esgidiau pren arbennig ei hunan.

"Mae'r wraig yn cofio eu gwisgo, ac mae hi'n dweud yn aml eu bod yn gyfforddus dros ben, a bob amser yn gynnes ac yn glyd. Esgidiau lledr, neu esgidiau hoelion y byddwn i'n ei gwisgo bob amser.

"Ychydig iawn o bobl sydd yn gwisgo clocsiau heddiw , ac mae'n biti mawr. Mae'n braf gweld y dawnswyr yma ar y teledu, mae byd y clocsiau yn dal yn fyw iawn iddyn nhw," ychwanega.

Clocsiau caled

Ni fyddai Russell Thomas o'r Efailwen yn gadael ei gartref heb ei glocsiau pren am ei draed. Yn gyrru peiriannau fel gyrfa, mae'n dweud na chafodd erioed esgidiau mor gysurus a chynnes 芒'r hen glocsiau.

"Mae'r clocsiau yn gyfforddus ac yn gallu gwrthsefyll pob math o dywydd, tywydd gwlyb neu sych," meddai. "Arferwn ni fedru eu cael yn y farchnad yng Nghaerfyrddin, ond dwi wedi ffaelu eu cael nhw bellach."

Hen grefft

Mae hiraeth gan Mr Thomas am ei glocsiau, ac mae'n bwriadu mynd i Lerpwl yn fuan i archebu p芒r newydd.

"Wy wedi clywed bod lle yn Hemton Bridge ar bwys Lerpwl sydd yn gallu gwneud y clogs yr un peth 芒'r rhai sydd da fi, felly tro nesaf bydd gen i ddiwrnod bant bydd yn rhaid mynd i brynu clogs newydd, achos mae gen i hiraeth," ychwanega.

"Does neb llawer yn eu gwisgo erbyn heddiw. Pan dw i'n dreifio'r peiriannau maen nhw mor gyfforddus. Yr unig beth sydd yn anodd ei ddioddef ydi'r cloncian, maen nhw'n gwneud s诺n mawr," meddai gan chwerthin.

Roedd Dai Morgan a Russell Thomas yn siarad am eu helyntion ym myd y clocsiau ar raglen Twrio. Gallech ymweld 芒'r wefan s4c.co.uk/twrio

Cynhyrchiad Apollo Pedol ar gyfer S4C. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒: Lowri Rees, 01678 540528


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy