成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Iolo Williams a Sh芒n Cothi Crwydro yng nghwmni Sh芒n 'Twrch'!
Mae Sh芒n Cothi yn enw adnabyddus fel un o gantoresau amlycaf Cymru. Enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeng mlynedd yn 么l ac aeth yn ei blaen i ymddangos yn y West End yn Llundain.
Ond gallai Sh芒n fod wedi dewis enw llwyfan arall yn hytrach na Cothi, fel y datgelai wrth Iolo Williams yn rhaglen gynta'r gyfres newydd o Crwydro nos Fercher, 8 Mehefin.

Wrth iddynt gerdded ar lannau Afon Cothi, ger pentref Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin lle'i magwyd, eglura Sh芒n pam oedd yn rhaid iddi fabwysiadu'r enw.

"Si芒n Margareta Morgan yw'r enw bedydd, ond wrth gystadlu mewn eisteddfodau lleol fe ddaeth hi'n amlwg fod angen enw oedd yn dal y sylw. Bryd hynny roedd sawl Si芒n yn cystadlu ac yn Eisteddfod Aberteifi roedd dwy Si芒n Morgan a thipyn o gymysgwch," meddai.

Y Parch WJ Gruffudd, oedd yn weinidog Capel Bethel yng Nghwm Pedol, awgrymodd y dylai fabwysiadu enw eisteddfodol ar gyfer y llwyfan, ac yn lleol y daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei henw.

"Roedd dewis 'da fi - Cothi neu Twrch, enwau'r afonydd lleol," medd Sh芒n. "Fe aethon ni am y Cothi gan fod yna bach fwy o dinc iddo fe!"

Wedi dilyn cwrs ymarfer dysgu yn y Coleg ger y Lli yn Aberystwyth, bu Sh芒n yn athrawes gerdd am saith mlynedd a hanner yn Llanfair Caereinion ac Ystalyfera. Cyfunodd yrfa ym myd addysg gyda'r canu, a hithau'n aelod o'r gr诺p Cwlwm, cyn penderfynu troi'n broffesiynol.

"Roeddwn yn mwynhau'r dysgu, ond roedd yna rywbeth yn corddi y tu mewn i mi," meddai.

"Ar 么l siarad gyda fy rhieni a meddwl lot nes i ymddiswyddo a rhoi cyfle i'm hunan am flwyddyn i drio'r canu. Dwi'n mwynhau pob eiliad ers hynny."

Ar gefn ceffyl y mae Sh芒n a Iolo yn cwblhau'r daith yng Nghraig Twrch - gan weld Sir G芒r ar ei gorau. Mae Sh芒n yn mwynhau marchogaeth, fawr o syndod o gofio ei bod yn ferch i of a'i brawd Eirian wedi dilyn ei dad i'r efail.

Swydd gyntaf y gantores fu carthu yng Nghanolfan Farchogaeth fferm Cae Iago a threuliodd oriau yn crwydro'i milltir sgw芒r ar gefn ei cheffyl, Nelson. Ond oherwydd pwysau gwaith nid yw'n cael gymaint o gyfle i farchogaeth y dyddiau hyn.

"Pan dwi yn gwneud fy ngwaith yn perfformio ac yn arwyddo cytundeb, dwi ddim yn credu y bydde nhw yn falch iawn yn gwybod fy mod yn carlamu ar Graig Twrch!"

Crwydro Nos Fercher, 8 Mehefin, 9.00pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar gael.
Cynhyrchiad Teledu Telesgop ar gyfer S4C


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy