Ac mae ar flaen y gad i ddarparu tipyn o hwyl ac adloniant yn ystod cyfnod dathlu pen-blwydd yr opera sebon yn 30 oed wrth iddo drefnu penwythnos o ddigwyddiadau "Dewch i Boblo" rhwng 8-10 Hydref fel y gall pobol yr ardal uno yn yr hwyl. "Mae'n gyfle i' ni gwrdd 芒'r gynulleidfa ac i'r gynulleidfa gwrdd 芒 ni, yn enwedig yn yr ardal lle mae Pobol y Cwm, wedi ei gwreiddio," meddai Emyr, a ymunodd 芒'r cast am y tro cyntaf yn 1978 cyn gadael am fwlch o ddeunaw mlynedd a dychwelyd yn 2001. Bydd y penwythnos o weithgareddau yn cynnwys cyngerdd yn y Gerddi Botaneg yn Llanarthe yng nghwmni aelodau o'r cast a'r gr诺p Mynediad am Ddim. Cynhelir gweithdai drama gan gast a chriw cynhyrchu y sebon ar y prynhawn Sadwrn, ynghyd 芒 nifer o weithgareddau yn ystod y g锚m rhwng y Scarlets a Conacht a fydd i'w darlledu'n fyw ar S4C. "Mae yna gysylltiadau cryf wedi bod rhwng Pobol y Cwm a th卯m Scarlets Llanelli dros y blynyddoedd," eglura. "Mae rhai o feibion enwocaf y clwb, Ray Gravell, Jonathan Davies, Ieuan Evans a Delme Thomas wedi ymddangos ar y gyfres. Rwy' inne'n aelod o Fwrdd Rheoli y Sgarlets ac mae Gwyn Elfyn (Denzil) hefyd 芒 chysylltiadau cryf a'i ddau fab yn chwarae i'r t卯m ieuenctid. Mae Andrew Teilo (Hywel) yn frawd i un o gyn-chwaraewyr y t卯m, Simon Davies, Debbie Moon (Rhian Haf) wedi priodi Rupert wrth gwrs, a Sarra Elgan, un o gyn-aelodau Pobol y Cwm wedi dywedd茂o 芒 Simon Easterby." Daeth cymeriad Dai i'r cwm gyntaf yn 1978 fel rhyw fath o adeiladwr neu Si么n bob-swydd cyn sefydlu busnes gyda'i frawd Dic Deryn. Tyfodd y ddau yn eu tro i fod yn gymeriadau mor lliwgar 芒'i gilydd gyda'r ddau yn rai am y merched. Ond erbyn hyn mae Dai yn briod 芒 Sabrina, ac wedi dechrau sigledig, maent erbyn hyn yn hapus eu byd. "Dwi wrth fy modd hefo'r cymeriad ac mor gyfforddus yn ei chwarae. Ry'n ni i gyd yn adnabod pobol fel fe - mae'n colli ei dymer ac yn angerddol am ei rygbi. A phan mae e a Denzil a Derek mewn golygfa, ry'n ni'n cael dipyn o hwyl!" chwardda.
 |