G诺yl ddysgu Aberteifi
Caiff oedolion yn Aberteifi eu hannog i gymryd y camau cyntaf mewn taith hollbwysig nol i ddysgu fel rhan o'r Wythnos Addysg Oedolion (20-26 Mai 2006). Sesiynau 'blasu' fydd sylfaen yr 诺yl Ddysgu yn Aberteifi, yn cynnig cyfle i oedolion ddysgu rhywbeth newydd drwy roi cynnig ar weithgaredd di-d芒l.
Bwriad yr 诺yl yw dangos i bobl sut gall dysgu sgil newydd fod yn hwyl, a chyfoethogi eu bywydau, gyda'r gobaith y bydd hyn yn eu hannog i barhau i ddysgu. Bydd hefyd yn gyfle i ddarparwyr hyfforddiant yr ardal ddod at ei gilydd i ddangos pa gyrsiau sydd ar gael ac i roi cyngor ac arweiniad i bobl sydd 芒 diddordeb dechrau dysgu eto.
Bydd gweithgareddau'r wythnos yn cael eu lansio ar Ddydd Sadwrn, Mai 20fed, yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, gyda diwrnod bywiog wedi'i drefnu rhwng 11 a 5 y prynhawn. Amrywiaeth diwylliannol yw thema'r diwrnod hwn, ac fe fydd nifer o grwpiau dawnsio, canu ac actio yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan gyda gweithdy roc a gweithdy corawl hefyd yn rhan o'r gweithgareddau.
"Gall digwyddiadau lleol ddangos i bobl bod dysgu'n hwyl, yn hyblyg a'i fod yn gallu agor y drws i nifer o bosibiliadau newydd'' meddai Si芒n Johnston, rheolwr Adran Adfywio Antur Teifi, sy'n cydlynu'r digwyddiadau. "Yr unig ffordd y mae pobl yn mynd i ganfod yr hyn y gall dysgu ei wneud iddynt yw drwy roi cynnig arni ac mae'r Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi'r cyfle perffaith i oedolion wneud yn union hynny.''
Yn ystod yr wythnos bydd teithiau cerdded, trafodaeth am hanes yr ardal, sesiynau byr ar drefnu a marchnata digwyddiadau cymunedol, blas ar sut i roi cynllun busnes at ei gilydd, yn ogystal 芒 nifer o gyfleoedd i weld sut gallwch wella'ch sgiliau cyfrifiadurol, er enghraifft dylunio cylchlythyron a defnyddio sganiwr i roi lluniau gwerthfawr ar gyfrifiadur. Bydd Mwldan Creadigol hefyd yn agor eu drysau gan roi cyfle i bobl flasu sesiynau ffilm a fideo.
Dydd Iau, Mai 25ain, fydd penllanw'r wythnos, gyda'r gweithgareddau'n symud i'r Mwldan, ac fe fydd darparwyr hyfforddiant a chyrsiau cymunedol ar gael trwy'r dydd i roi gwybodaeth a chyngor i rai sydd am fynd ymlaen i ddysgu'n bellach.
Antur Teifi sydd yn cydlynu'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos hon ar ran y darparwyr hyfforddiant lleol, ac fe allwch gael rhagor o wybodaeth a rhaglen lawn trwy gysylltu gyda Catrin Miles yn swyddfa Cynnal Ceredigion, 01239 621 828.
Trefnir yr 诺yl ar y cyd rhwng: Coleg Ceredigion, Dysgu Bro, Antur Teifi, Jig-So, Canolfan Natur Gwyllt, a Menter Aberteifi ac fe gefnogir yr 诺yl gan NIACE Dysgu Cymru sydd yn annog pobl i ddychwelyd i ddysgu. Ariennir yr 诺yl trwy raglen Cynnal Ceredigion, gyda chyfraniadau oddi wrth Awards for All a NIACE Dysgu Cymru.