Gorymdaith gwisg ffansi o gwmpas tref Caerfyrddin, Jambori, Sali Mali, Superted a Sam T芒n, Stondinau o bob math, Gweithdy Roc, Perfformiadau byw gan rai o artistiaid enwocaf Cymru, a llawer iawn mwy........Ydy, mae Miri Myrddin yn 么l unwaith eto eleni!Yn wahanol i'r arfer, mae Miri Myrddin eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Hydref, yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, lle bydd yna rhywbeth at ddant pawb drwy gydol y dydd.
Gorymdaith gan blant y Mudiad Ysgolion Meithrin, a phlant Cynradd y Sir fydd yn lansio gweithgareddau dydd Sadwrn yr 22ain am 10 o'r gloch. Byddant yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin, ac yn eu harwain bydd Sali Mali a Superted. Unwaith i'r orymdaith gyrraedd Neuadd San Pedr erbyn 10:30, bydd y plant yn rhoi eitemau byr o bob math ar y llwyfan, a bydd cyflwynwyr 成人快手 Radio Cymru yno yn darlledu yn fyw!
Am 12:00pm bydd Gwenda Owen yn diddanu'r plant mewn Jambori gyda Sali Mali a Superted, a bydd cyfle i bawb i ymuno yn y canu a'r hwyl! Ynghanol yr holl weithgareddau yma bydd cyfle i baentio wynebau a gwario eich arian ar stondinau o bob math!
"Rydym ni'n gobeithio y bydd Neuadd San Pedr dan ei sang ddydd Sadwrn, a bydd digon o hwyl a sbort yno i gadw pawb yn hapus!" meddai Gruff Ifan, Rheolwr Prosiect Diwylliant Byw, sy'n cydweithio i drefnu Miri Myrddin ar ran Mentrau Iaith Myrddin.
Drwy'r prynhawn, tra bydd gweithdy roc ar gyfer ieuenctid yn cael ei gynnal yn y Neuadd gan diwtoriaid profiadol, bydd yna berfformiadau byw gan artistiaid enwocaf Cymru ar lwyfan acwstig y tu allan i'r llys ar Sgw芒r y Guildhall, yn cynnwys setiau acwstig gan Mattoidz, Fflur Dafydd, Alun Tan Lan, Tecwyn Ifan, Baldande, C么r Seingar, a dawnsio gwerin gyda Dawnswyr Talog.
Mae holl weithgareddau'r dydd yn rhad ac am ddim i bawb. Er bod gweithgareddau'r dydd yn dod i ben ar y llwyfan yn Sgw芒r y Guildhall gyda Ch么r Seingar am 5 o'r gloch, nid dyna ddiwedd Miri Myrddin!
Am 7.30pm. bydd Gig Miri Myrddin yng Nghlwb y Dairies, Caerfyrddin yn dechrau. Yr artistiaid a fydd yn perfformio bydd Alun Tan Lan, a Fflur Dafydd a'r Barf.
Dywedodd Gruff Ifan, "Ry' ni'n falch iawn o allu cyflwyno'r ddau artist arbennig yma sydd yn adnabyddus iawn yng Nghymru am eu cerddoriaeth unigryw. Mae'n sicr yn mynd i fod yn noson a hanner yng Nghlwb y Dairies nos Sadwrn!"
Bydd y gig yma yn mynd allan yn fyw ar 成人快手 Radio Cymru. Bydd pris mynediad yn 拢5, a'r elw'n mynd i Bwyllgor Ap锚l Eisteddfod Yr Urdd 2007, Tref Caerfyrddin.
Mae rhywbeth at ddant pawb ym Miri Myrddin eleni, felly dewch yn llu i ymuno ym mwrlwm yr hwyl ar yr 22ain o Hydref yng Nghaerfyrddin.
Am fwy o fanylion cysylltwch 芒 un o swyddogion Prosiect Diwylliant Byw yn Swyddfa Mentrau Iaith Myrddin ar 01267 676 808.