成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tangwystl yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe Adolygiad G诺yl Macs 06
Roedd hi'n hen bryd i gynnal g诺yl fawr yng Nghaerfyrddin, ac felly cafodd G诺yl Macs groeso cynnes iawn yn yr ardal.
  • Gwybodaeth am 糯yl Macs 2007 yma
  • Lluniau o 糯yl Macs 2006

    Dros 20 o fandiau yn chwarae mewn sied ddefaid am dros ddeuddeg awr, gyda sied ddawns a phabell i 'ymlacio' yn rhan o'r fargen...a'r cyfan oll am 拢15 gan gynnwys parcio a gwersylla. Gwych!

    Band lleol o Gaerfyrddin agorodd yr 诺yl, ac yn amlwg mae gan Tangwystl llawer o ddilynwyr selog! Chwareuon nhw set dda iawn, gan gynnwys un o fy hoff ganeuon i; Saith Pechod Marwol, a'r g芒n hynod 'catchy' Mabli i orffen y set. Trueni eu bod nhw ond yn cael chwarae am chwarter awr ac eu bod nhw ymlaen mor gynnar yn y dydd!

    Clywais i rai pobl yn cwyno am cyn lleied o amser oedd y bandiau yn cael ar y llwyfan, ond dwi'n meddwl fod y trefnwyr wedi gwneud y peth cywir yn cael lot fawr o fandiau gwahanol i chwarae er gwaetha'r ffaith bod hyn yn golygu nad oeddent yn cael cymaint o amser i chwarae. Gan fod cynifer o fandiau yn chwarae yn ystod y dydd, roedd amrywiaeth eang o gerddoriaeth a siawns i blesio pawb!

    Roedd pobl yn y gynulleidfa o bob man - a dau wedi dod yr holl ffordd o Norwy! Er bod yr 诺yl yn dechrau am 12, roedd digon o bobl yno o'r cychwyn ac roedd y lleoliad yn wych; er eu bod hi 'di bwrw glaw trwy'r dydd, doedd dim ots gan fod y cyfan dan do.

    Euros Childs. Llun gan Mary WycherleyYr uchafbwyntiau i mi yn bersonol yn ystod y dydd oedd setiau Supergene, Mattoidz, Texas Radio Band, Radio Luxembourg (oedd yn hollol wych), Hot Puppies ac Euros Childs. Roedd set Euros Childs yn fythgofiadwy, a'r gynulleidfa yn mynd yn nyts. Fe fwynheuais set The Crimea yn fawr hefyd, yn enwedig pan ddaeth y prif leisydd mewn i'r gynulleidfa i ganu un o'r caneuon!

    Ond dwi'n meddwl mai uchafbwynt y dydd i mi oedd set Killa Kela. Doeddwn i heb weld yr 'human beatbox' yma o'r blaen, ac on i'n meddwl bod e'n hollol wych. Aeth y gynulleidfa yn wyllt, a dyma pryd oedd y sied yn fwyaf llawn. Ewch i weld Killa Kela yn fyw; mae'n brofiad!

    Ffans Nicky Wire yn y blaen. Llun gan Mary WycherleyRoedd set Nicky Wire yn siomedig - er doeddwn i ddim yn disgwyl llawer i fod yn onest. Roeddwn i'n teimlo ei fod ymlaen mor hwyr yn y nos oherwydd pwy yw e yn hytrach na safon ei gerddoriaeth. Ond chware teg i'r rhai oedd wedi aros ar flaen y gynulleidfa o flaen y llwyfan ers i'r gatiau agor yn y bore i weld Nicky Wire; parch yn wir!

    The Automatic oedd yn gorffen y noson, ac er nad ydw i'n ffan mawr ohonyn nhw, naethon nhw fy siomi ar yr ochr orau a nes i wir fwynhau eu set. Band da iawn, a ffordd dda o orffen y noson er doedd hi ddim yn llawn iawn yno erbyn hynny.

    Felly llwyddiant mawr oedd G诺yl Macs; pawb i'w gweld wedi mwynhau. Efallai mod i'n mynd i swnio fel hen fenyw nawr, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ystyried cael rhyw fan lle all pobl eistedd lawr y flwyddyn nesa; ar bwys y bar er enghraifft. Roedd hi'n ddiwrnod hir, a llawr y sied yn oer!

    Hefyd, roedd angen posteri o gwmpas y lle gyda amserau'r bandiau arnynt, doedd gan y rhan fwyaf o bobl ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen. Ond pethau bach yw rhain; a pethau y gellir eu gwella erbyn y flwyddyn nesa. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld yr 诺yl yma yn datblygu yn ddigwyddiad pwysig iawn i'r calendr gerddorol flynyddol - a llongyfarchiadau i'r trefnwyr.

    Gan: Lowri Johnston

  • Gwybodaeth am 糯yl Macs 2007 yma
  • Lluniau o 糯yl Macs 2006

    Anfonwyd yr erthygl hon atom fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy