成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Mattoidz Gig g诺yl Llandudoch
Adolygiad o gig G诺yl Llandudoch ar Fai 13, 2006 gyda Mattoidz, Pala, Ha Kome a Garej Dolwen.
Gig yn Llandudoch. Tri band o'r ardal ac un o'r gogledd. Doedd dim syniad 'da fi beth i'w ddisgwyl. Dyma'r tro cyntaf i fi fod mewn gig yn y pentref a rhaid fi ddweud ces i sioc ar yr ochr orau wrth weld y neuadd lle roedd y gig yn cael ei chynnal.

Mae'n neuadd wych, fodern a mawr. Digon o le ar gyfer llawer o fyrddau a chadeiriau a gwagle enfawr fel llawr dawnsio. A llwyfan! Go iawn! Dyma ddechrau da i'r noson felly. Gyda'r lle yn weddol llawn o'r dechrau, dyma Garej Dolwen yn dod i'r llwyfan.

Garej Dolwen
Chwaraea Garej Dolwen, sy'n fand lleol, yn rheolaidd yn yr ardal. Mae llais Einir (prif lais) wedi datblygu'n aruthrol o ganlyniad iddi ennill Waw Ffactor - mae'r gystadleuaeth yn amlwg wedi gwneud llawer o les i'w hunanhyder ac i'w pherfformiad. Mae hi'n chwarae git芒r hefyd sy'n ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r band ac yn rhoi mwy o ganolbwynt iddi hi fel prif leisydd. Perfformiad da gan y band cyfan.

Ha Kome
Band lleol arall sydd i ddilyn - gyda dau o'r aelodau hefyd yn Garej Dolwen - ond mae i'r ddau fand s诺n gwahanol. Mae Ha Kome'n fand sydd wedi datblygu llawer ers i mi eu gweld tro diwethaf yng nghlwb rygbi Crymych ryw flwyddyn yn 么l. Maent yn dod yn fwy hyderus ar lwyfan er bod lle i wella gyda'r hyder - ond dyma rywbeth sy'n dod wrth chwarae mwy o gigs - ac yn sicr mae'n gwella wrth i'w set fynd yn ei blaen ac wrth iddynt ymlacio.

Gan fod aelodau'r band ar wasgar mewn amryw golegau mae'n anodd iddynt ymarfer a chwarae'n gyson, ond dyw hyn ddim yn amlwg o'r perfformiad. Rydw i'n hoff iawn o "colli'r tr锚n" ac "aelwyd breuddwydion". Er bod eu cerddoriaeth yn ysgafn ac yn hawdd gwrando arno, dyw e ddim yn syml o gwbl ac mae'n amlwg fod gan Steffan (allweddellau a prif lais) dalent cerddorol aruthrol.

Mae lleisiau Siwan a Steffan yn gweddu'n hyfryd - mae llais cefndir Siwan yn ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r caneuon. Set dda iawn, ac erbyn iddo ddod i ben mae nifer o'r gynulleidfa ar eu traed yn dawnsio.

Pala
PalaPala o Lanuwchllyn sydd i ddilyn, er bod tri allan o bedwar o'r aelodau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma fand arall sydd wedi datblygu llawer yn ddiweddar, ac wedi dod yn llawer mwy poblogaidd, yn enwedig ar 么l i'w Sesiwn C2 gael ei chwarae ar Radio Cymru ychydig o fisoedd yn 么l. Mae harmoneiddio Branwen Mair (prif lais) a Branwen Haf (llais cefndir ac allweddellau) yn berffaith, a drymio Osian yn wych - heb anghofio Aled 'Pen Wy' ar y bas yn cadw popeth gyda'i gilydd!

Mae'r set yn cynnwys nifer o'r ffefrynnau - sawl un yn ymddangos ar eu ep cyntaf sydd allan yn y siopau nawr - prynwch hi! Dwi'n arbennig o hoff o Blodeuwedd, Seren Gynta'r Nos ac Eglura. Mae llais Branwen Mair yn eu fersiwn o G芒n Walter yn rhoi ias lawr fy nghefn a gwneud i bawb sy'n dawnsio sefyll yn llonydd gan fethu tynnu eu llygaid o'r llwyfan!

Mattoidz
Ac yna, at Mattoidz. Yn un o fandiau prysuraf a mwyaf gweithgar Cymru, maen nhw'n hollol wych heno. Ble bynnag mae'r gig, pwy bynnag yw'r gynulleidfa a sut bynnag mae'r band yn teimlo, maen nhw o hyd yn rhoi 100% mewn i bob perfformiad. Er bod y gerddoriaeth yn dda iawn, mae'r perfformiad yn ffantastig. Dyma fand fyddai'n ffitio mewn yn berffaith mewn arena fawr gyda channoedd yn eu gwylio - ond am heno ni yn Llandudoch sy'n cael y fraint - ac maen nhw i'w gweld yn mwynhau'n llwyr.

Mae'r caneuon arferol yn cael eu chwarae - i'r un lefel uchel ag arfer - Trani Drws Nesa', T欧 yn Tidrath, Sos Coch, Angel a llawer mwy. Ond yn ogystal 芒'r hen ffefrynnau, cawn flas o'u caneuon newydd sy'n swnio'n wych! Maen nhw'n cyfathrebu'n dda iawn gyda'r gynulleidfa, sy'n ymateb trwy ddawnsio'n wyllt i bob c芒n a phawb yn diferu chwys wedi iddyn nhw orffen, ar 么l dawnsio cymaint!

Noson lwyddiannus iawn felly. Roedd hi mor braf gweld cymaint o blant ysgol yn y gig yn dawnsio ac yn mwynhau. Dyma beth sy'n gwneud gigs mewn llefydd gwledig mor arbennig ac mor wahanol i gigs yn y brifddinas. Er bod bandiau o hyd eisiau gigs yn y brifddinas, credaf yn gryf mai cynulleidfa fel yr un yn Llandudoch nos Sadwrn sy'n bwysig - y ffans 'go iawn' fydd yn mynd allan ac yn prynu cds.

A dyma sy'n creu ac yn cynnal sin gerddoriaeth. Gobeithio bydd llawer mwy o nosweithiau ar y gweill yn Llandudoch!

Lowri Johnston

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.

  • Lluniau o 诺yl Llandudoch - cliciwch yma.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy