Lliw a ffabrig
Roedd y deddfau cyfyngu, a oedd mewn grym yng Nghymru a Lloegr tan yr 17eg ganrif, yn dweud beth roedd pobl o wahanol statws cymdeithasol yn cael ei wisgo. Roedd hyn yn cynnwys y lliw. Pasiwyd deddf yn 1571 a oedd yn dweud bod rhaid i bawb dros chwech oed, ar wah芒n i uchelwyr, wisgo capan gwl芒n ar ddydd Sul a gwyliau. Diben y gyfraith oedd cefnogi鈥檙 fasnach wl芒n ond hefyd gwnaeth gapiau, ac yn y pen draw y cap stabl cyfarwydd, yn rhan o wisg bob dydd y dosbarth gweithiol.
Yn y 19eg ganrif roedd yna ddisgwyl i ferched y werin wisgo ffedogau wedi eu gwneud allan o frethyn fetal, sef cymysgedd o sidan, gwl芒n a chotwm. Ffedogau gorau ar gyfer dydd Sul oedd y rhain. Edrycha ar y gwisgoedd o鈥檙 ddrama Te yn y Grug gan gwmni theatr Bara Caws. Dylai fod yn amlwg mai gwisgoedd y werin ydy鈥檙 rhain o鈥檙 19eg ganrif.
Felly un o鈥檙 pethau a allai fod o ddiddordeb wrth siarad am ddrama gan Shakespeare, er enghraifft, ydy pa mor gywir ydy鈥檙 wisg hanesyddol.
Mae鈥檔 bosib defnyddio lliwiau i awgrymu emosiynau neu them芒u i鈥檙 gynulleidfa. Mae coch yn gallu cynrychioli perygl neu waed, felly byddai鈥檔 lliw da ar gyfer gwisg yr Arglwyddes Macbeth. Os ydy鈥檙 dylunydd golau鈥檔 defnyddio gels lliw, dylet ti dalu sylw i sut mae hyn yn effeithio ar y gwisgoedd. Er enghraifft mae coch dan oleuadau coch yn edrych yn ddi-liw ond dan oleuadau glas mae鈥檔 gallu edrych bron yn ddu.
Mae ansawdd neu olwg defnyddiau鈥檔 gallu dweud wrth y gynulleidfa a ydy鈥檙 cymeriad yn gyfoethog neu鈥檔 dlawd. Byddai disgwyl i uchelwr cyfoethog wisgo sidanau drud gydag addurniadau fel gemwaith tra bod cymeriad tlawd yn fwy tebygol o wisgo deunydd mwy cwrs a rhad.
Byddai cymeriadau鈥檙 鈥楳echanicals鈥 yn y ddrama Breuddwyd Noswyl Ifan (A Midsummer Night鈥檚 Dream) gan Shakespeare, sy鈥檔 cael eu disgrifio fel 鈥榗riw o glytiau鈥 (鈥a crew of patches鈥), yn gwisgo鈥檔 syml fel llafurwyr. Ond byddai cymeriadau mwy bonheddig megis Hermia a Lysander yn gwisgo dillad mwy coeth.