Gwisg fel symbolaeth
Gall gwisg fod yn ddi-liw a diflas mewn drama gyfnod oherwydd cyfyngiadau鈥檙 deddfau cyfyngu, neu ar y llaw arall gall fod yn llachar iawn. Gallai hyn fod oherwydd awydd i ddangos cymeriad sy鈥檔 amlwg yn uchelwr cyfoethog. Mewn sefyllfa gyfoes gall gwisg fod yn llachar oherwydd bod y cymeriad yn hapus, yn wahanol i gymeriadau eraill yn y ddrama.
Gall cymeriad fod yn gwisgo dillad gwyn er mwyn ymddangos yn ddiniwed neu rinweddol neu i wneud i鈥檙 cymeriad sefyll allan yn erbyn y cynllun cyffredinol. Yn nodweddiadol gallai hyn ddigwydd mewn melodrama o oes FictoriaArddull theatrig o'r 19eg ganrif sy'n orddramatig ac sy'n defnyddio cymeriadau stoc (arwyr a dihirod), caneuon a cherddoriaeth, a lle mae da yn trechu drwg..
Gallai fod cyfres gymhleth o gysylltiadau trosiadol ar gyfer y gwahanol ddillad mewn cynhyrchiad. Mae鈥檔 deg dweud os byddi di鈥檔 sylwi ar y ffordd mae lliw yn cael ei ddefnyddio mewn gwisg y bydd rhywbeth gwerth ei ddweud amdano. Mae gwisg y clown yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Pridd, yn rhy liwgar a llachar ac o ganlyniad mae鈥檔 anesmwytho鈥檙 llygad. Mae hyn yn awgrymu ei fod yn gymeriad annymunol y dylid ei osgoi, a dyna ydy gwirionedd y sefyllfa.