Gwisgoedd o ddiwylliannau eraill
Os oes angen gwisgoedd o ddiwylliant arall ar ddrama, mae鈥檔 hanfodol eu bod yn cael eu gwneud yn iawn. Ym mhob gwlad yn y byd rydyn ni鈥檔 derbyn bod ein dillad ni ein hunain yn naturiol ac rydyn ni鈥檔 edrych yn fwy beirniadol ar ddillad cenhedloedd eraill. Os byddi di am bortreadu geishaMerch o Japan sydd wedi ei hyfforddi i fod yn ddiddanwraig a gwesteiwraig draddodiadol. o Japan er enghraifft, rhaid i ti dalu sylw i鈥檙 manylion, ac os byddi di鈥檔 gwneud sylw ar wisg o鈥檙 fath, dylet ti ystyried a oedd yn argyhoeddi a beth oedd yn ei hychwanegu at y r么l.
Mewn geiriau eraill, dylai fod yn bortread gwir. Cofia hefyd fod colur yn allweddol i鈥檙 modd y mae cynulleidfa鈥檔 鈥榙arllen鈥 ac yn adnabod cymeriad. Enghraifft amlwg fyddai鈥檙 clown yn y cynhyrchiad Pridd gan y Theatr Genedlaethol. Darllena Cyfrwng drama i ddysgu mwy.
Gwisgoedd cyfnod
Mae鈥檙 term gwisgoedd cyfnod yn cyfeirio at wisgoedd mewn cyfnod penodol. Yn gyffredinol mae disgwyliadau llawer mwy penodol gyda chymeriadau cyfoethog o gymharu 芒 rhai tlawd neu鈥檙 werin. Enghreifftiau o hyn ydy dwbled a chylchbais TuduraiddDillad o oes y Tuduriaid (1485-1603). Siaced dynn i ddynion ydy dwbled. Sgert gylchol i fenywod ydy cylchbais. o oes y TuduriaidY cyfnod 1485-1603 pan oedd aelodau o deulu brenhinol y Tuduriaid yn frenin neu'n frenhines Lloegr. 补鈥檙 crinolin o gyfnod FictoriaPais wedi ei hatgyfnerthu, neu gawell dur, sy'n rhoi si芒p fel cloch i sgert.. Byddai dynion yng nghyfnod y RhaglywiaethY cyfnod (1811-1820) pan oedd Tywysog Cymru yn teyrnasu yn lle ei dad, y brenin Si么r y Trydydd, gan nad oedd hwnnw yn gymwys i deyrnasu., fel y鈥檜 portreadwyd yng ngwaith yr awdur Jane Austen, yn gwisgo cotiau cynffon a llodrau. Byddai gan fenywod y cyfnod amryw o wisgoedd ar gyfer gwahanol achlysuron, ee 鈥榞诺n ymweld鈥 a 鈥榝frogiau cerbyd鈥.