Ysgrifennu am ddrama a theatr
Disgrifio iaith y corff
Mae iaith y corff yn datgelu llawer am beth mae person yn ei feddwl mewn gwirionedd. Felly mae cyfathrebu dieiriau megis mynegiant yr wyneb, ystumiau a symudiad yn arfau pwerus i'r actor eu defnyddio.
Disgrifio gwisg
Mae dewis y gwisgoedd cywir ar gyfer cymeriadau yn hollbwysig mewn dram芒u cyfnod a rhai modern. Dylen nhw fod yn addas i gyfnod a diwylliant y ddrama ac i statws y cymeriadau.
Disgrifio mynegiant yr wyneb
Mae mynegiant yr wyneb yn gallu dweud llawer wrthon ni am gymeriadau, sefyllfaoedd ac is-destun. Mae'n bwysig dy fod yn dysgu beth maen nhw'n ei ddatgelu am emosiynau a hwyliau, a sut i'w defnyddio.
Disgrifio llais
Mae'r llais yn arf pwerus mewn drama. Wrth ddisgrifio gwaith llais, ystyria elfennau megis traw, cyflymder a thonyddiaeth. Dylai cymeriadau ddefnyddio cywair iaith sy'n addas iddyn nhw bob tro.
Byd y ddrama
Byd y ddrama ydy'r cyd-destun diwyllianol a hanesyddol, yn ogystal 芒 sefyllfa a pherthnasoedd y cymeriadau. Gallwn ni ailddehongli hen ddram芒u gan newid eu cyfnod a'u lleoliad.
Ysgrifennu a gwerthuso theatr
Os byddi di鈥檔 ysgrifennu adolygiad neu werthusiad dydy ystyried yr actio a鈥檙 perfformio yn unig ddim yn ddigon. Rhaid talu sylw i鈥檙 set, gwisgoedd, golau a sain, gan gyfiawnhau dy farn bob tro.