Beth ydy byd y ddrama?
Mae byd y ddrama鈥檔 golygu amrywiaeth o bethau. Mae鈥檔 cynnwys y berthynas rhwng y gwahanol gymeriadau, eu personoliaethau a鈥檙 sefyllfa maen nhw ynddi, a hefyd cyd-destunGwybodaeth ychwanegol am destun sy鈥檔 ein helpu ni i'w ddeall; y digwyddiadau cefndirol sy'n helpu i egluro rhywbeth. cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y ddrama pan gafodd ei hysgrifennu. Mewn cynhyrchiad theatrig bydd cyd-destun ychwanegol cyfnod y ddrama a phryd y perfformiwyd hi gyntaf. Mae鈥檙 gwahaniaethau hyn yn gallu creu haenau o ddiddordeb i鈥檙 gynulleidfa.
Wrth ystyried y pwnc hwn byddwn yn edrych ar ddwy ddrama sef Macbeth gan William Shakespeare a Mwnci ar D芒n gan Sera Moore Williams. Maen nhw鈥檔 ddram芒u poblogaidd a bydd cyd-destun ysgrifennu鈥檙 ddwy yn dangos beth rydyn ni鈥檔 ei olygu wrth ddweud 鈥榖yd y ddrama鈥 a pham mae hynny鈥檔 bwysig.
Deall y stori
Mae angen i unrhyw un sydd 芒鈥檌 fryd ar gyfarwyddo drama ddeall y stori, y materion mae鈥檙 ddrama鈥檔 eu trafod, y cymeriadau a chyfnod y ddrama. Bydd cyfarwyddwr yn gweithio gydag ymgynghorwyr gwisgoedd, rheolwyr llwyfan, dylunydd golau, sain a set i wireddu ei syniadau鈥檔 llawn.
Fel arfer mae drama wedi ei gosod yn glir ac yn syml mewn cyfnod penodol ond pan nad ydy鈥檙 awdur wedi ei warchod bellach gan hawlfraintYr hawl gyfreithiol i reoli cynhyrchu a gwerthu llyfr, drama, ffilm, ffotograff neu ddarn o gerddoriaeth. Fel arfer mae hawlfraint yn bodoli am gyfnod cyfyngedig o amser., fel yn achos Shakespeare neu鈥檙 Mabinogion, dydy hi ddim yn anarferol gweld cynhyrchiad sy鈥檔 gosod y ddrama mewn sefyllfa newydd.
Mae drama Saunders Lewis, Blodeuwedd, yn seiliedig ar stori o鈥檙 Mabinogi. Gosododd Theatr Genedlaethol Cymru eu cynhyrchiad nhw o鈥檙 ddrama yn y 1940au. Yn lle ceffylau, mae鈥檙 milwyr yn defnyddio cerbydau Land Rover, ac mae Gronw Pebr, cariad Blodeuwedd, yn mynd ar gefn beic modur. Mae鈥檙 鈥榳aywffon鈥 enwog yn cael ei thrawsnewid yn wn. Mae鈥檙 cyswllt mwy modern yn caniat谩u i鈥檙 gynulleidfa weld bod y ddrama鈥檔 berthnasol i gymdeithas gyfoes.