Adolygu drama
Ystyr gwerthuso ydy mesur gwerth rhywbeth. Mae鈥檔 galw am farn a dadansoddiad ystyrlon. Er mwyn gwerthuso drama a theatr rhaid i ti allu gweld beth oedd yn llwyddiannus a beth oedd yn aflwyddiannus ar y llwyfan. Yna bydd angen nodi鈥檙 holl elfennau sy鈥檔 cyfrannu at effaith y cynhyrchiad. Efallai dy fod yn ysgrifennu am theatr er mwyn gwerthuso dy waith dy hun neu waith pobl eraill mewn cynhyrchiad rwyt ti wedi ei weld. Y gair am gofnod ysgrifenedig o gryfderau a gwendidau sioe ydy adolygiad.
Os byddi di鈥檔 ysgrifennu am gynhyrchiad byw yn y theatr neu鈥檔 cyflwyno adolygiad, mae angen i ti ddeall beth mae hyn yn ei olygu. Mynegi barn ydy hyn a鈥檌 swyddogaeth ydy dweud wrth bobl eraill pa mor dda (neu wael) ydy鈥檙 cynhyrchiad.
Mae gan bobl chwaeth wahanol felly rhaid cyfiawnhau dy farn bob amser. Mae hyn yn golygu cefnogi pob pwynt gydag enghraifft glir. Rhaid i ti ddweud pam roeddet ti鈥檔 hoffi neu ddim yn hoffi agwedd benodol ar y gwaith. Os byddi di鈥檔 rhoi dy farn yn unig heb ei chyfiawnhau, fydd pobl eraill ddim yn ymddiried yn dy adolygiad.
Mae hefyd angen gwybodaeth drylwyr o elfennau drama, cyfrwng drama a strategaethau ymchwiliol er mwyn i ti allu nodi sut maen nhw鈥檔 cael eu defnyddio yn y gwaith rwyt ti鈥檔 ysgrifennu amdano. Un o鈥檙 beirniaid theatr enwocaf yn yr 20fed ganrif oedd Kenneth Tynan. Roedd yn adnabyddus am fod yn ddi-flewyn-ar-dafod gydag arddull ysgrifennu gafaelgar iawn.
Dydy hyd yn oed adolygwyr theatr proffesiynol (sy鈥檔 cael eu galw鈥檔 feirniaid theatr) ddim yn ysgrifennu adolygiad sy鈥檔 gwbl negyddol yn aml. Pe bydden nhw鈥檔 lladd ar gynhyrchiad heb dystiolaeth eu bod wedi chwilio am unrhyw beth cadarnhaol, byddai鈥檙 darllenydd yn llai tebygol o鈥檜 credu. Fyddai dim awdurdod gan eu hadolygiad.
Ceisia osgoi ymadroddion fel 鈥楻oeddwn i鈥檔 meddwl ei fod yn ofnadwy鈥 neu 鈥楻oedd e鈥檔 ddiflas鈥. Nid yn unig y byddi di鈥檔 swnio鈥檔 anneallus, ond byddi di hefyd yn swnio鈥檔 drahaus. Cofia dy fod yn ysgrifennu am waith pobl broffesiynol sydd yn 么l pob tebyg 芒 llawer mwy o brofiad a dealltwriaeth o鈥檙 theatr nag sydd gen ti.