成人快手

Creu gwisg

Fel arfer bydd y dylunwyr gwisgoedd yn cyflwyno darluniau i鈥檙 cyfarwyddwr i ddangos eu syniadau am sut y dylid gwisgo鈥檙 cymeriad. Mae hyn yn golygu bod cyfarwyddwr yn gallu 鈥榞weld鈥 y cymeriad a gallan nhw wneud awgrymiadau pellach. Edrycha ar y braslun hwn gan y dylunydd gwisgoedd, Ray Holman, ar gyfer portread yr actor Matt Smith o Doctor Who. Sylwa ar y dickie bow, elfen unigryw sy鈥檔 perthyn i wisg y fersiwn hwn o鈥檙 Doctor yn unig. Ydy鈥檙 wisg a鈥檙 dewis o ffabrig yn adlewyrchu persona鈥檙 cymeriad yn gywir yn dy farn di? Os felly, pam?

Braslun ar gyfer cynllun gwisg Matt Smith yn Doctor Who
Image caption,
Braslun ar gyfer cynllun gwisg Matt Smith yn Doctor Who LLUN: Ray Holman

Gwisgoedd a symudiadau

Un ystyriaeth bwysig ydy a ydy鈥檙 actor yn symud yn briodol. Dychmyga鈥檙 effaith y byddai esgyrn morfil yn ei gael ar dy allu i ymlacio mewn cadair, neu sut fyddet ti鈥檔 mynd drwy ddrws cul mewn sgert lydan o鈥檙 18fed ganrif. Wrth wylio drama mewn gwisgoedd cyfnod, dylai fod gen ti ddiddordeb gweld pa mor dda mae鈥檙 perfformiwr yn trin y wisg a hefyd ydy鈥檙 cyfyngiadau mae鈥檔 gweithio gyda nhw yn effeithio ar yr hyn sy鈥檔 digwydd yn y ddrama. Enghraifft dda fyddai鈥檙 ffon fyddai fwy neu lai鈥檔 ffurfwisg i ddynion mewn comed茂au cyfnod y yn yr 17eg ganrif.

Cast y Shakespeare Theatre Company yn The Way of the World, a gyfarwyddwyd gan Michael Kahn
Image caption,
Cast y Shakespeare Theatre Company yn The Way of the World, a gyfarwyddwyd gan Michael Kahn LLUN: Carol Rosegg

Roedd dramodwyr megis William Congreve yn rhoi llinellau doniol iawn i鈥檙 cymeriadau gwrywaidd ac mae angen ystum gosgeiddig i sicrhau鈥檙 effaith orau. Yn ei gomedi moesau, The Way of the World, a ysgrifennwyd yn 1700, mae un cymeriad o鈥檙 fath yn ffrwydro mewn modd treisgar. Byddai鈥檙 cymeriad yn tynnu cleddyf o鈥檌 ffon gan bwysleisio鈥檙 trais hwnnw a鈥檙 ffordd roedd ymddygiad cymdeithas w芒r yn ei guddio.

Dillad cyffredin

Wrth ysgrifennu am actorion sy鈥檔 perfformio mewn dillad cyfoes cyffredin galli di ddefnyddio鈥檙 ymadroddion hyn:

  • dillad swyddfa
  • dillad hamdden
  • dillad parti
  • gwisg ffurfiol (i briodas neu angladd)
  • dillad gwaith
  • ffurfwisg

Serch hynny, paid 芒 meddwl nad oes dim byd i鈥檞 ddweud am ddillad cyffredin. Mae angen dewis gwisg fel hyn yn ofalus iawn i greu鈥檙 argraff gywir o鈥檙 cymeriad. Meddylia i ble byddi di鈥檔 mynd i brynu dy ddillad. Ydy dy ffrind di鈥檔 mynd i鈥檙 un lle? Ydy dy rieni? Dy fam-gu a dy dad-cu?

Dylai meddwl am y pethau hyn wneud i ti sylweddoli bod dillad yn dweud pethau penodol iawn am unigolyn a bod rhaid eu dewis yn ofalus ar gyfer y cymeriad a鈥檙 sefyllfa. Fyddai fest ar gyfer y traeth ddim yn wisg addas ar gyfer derbynnydd mewn swyddfa smart. Mae gwisg yn adlewyrchu personoliaeth y cymeriad sy鈥檔 ei gwisgo ond hefyd cyfnod, arddull a 鈥榯heimlad鈥 y cynhyrchiad.

Hetiau, siolau, ffyn ac ymbareli

Ai gwisgoedd neu bropiau ydy鈥檙 rhain? Y ddau mewn gwirionedd. Mae ffon yn gallu bod yn rhan o wisg a chael ei defnyddio fel prop. Felly galli di ddisgrifio rhywbeth fel ymbar茅l neu ffon fel rhan o wisg os bydd hynny鈥檔 addas. Ni fyddai Doctor Who yn Doctor Who heb ei sonic screwdriver.

Related links