˿

Arbrisiant a dibrisiant – haenau ganolradd ac uwch

Arbrisiant yw pan fo gwerth eitem yn cynyddu a dibrisiant yw pan fo gwerth eitem yn gostwng. Mae sawl enghraifft o arbrisiant a dibrisiant mewn bywyd bob dydd. Er enghraifft, mae car newydd sbon yn werth llai o arian cyn gynted ag y bydd yn gadael y garej sy’n ei werthu. Mae’r car yn dibrisio yn ei werth.

Fel arfer, ar ffurf canran y rhoddir cyfradd arbrisio neu ddibrisio unrhyw eitem. Mae’n cael ei rhoi ar ffurf cyfradd flynyddol sy’n golygu ei bod yn cael ei gweithredu ar ddiwedd bob blwyddyn.

Enghraifft

Mae cwmni’n buddsoddi £200 mewn cwmni arall ac mae’r arian yn arbrisio 4% bob blwyddyn.

1. Faint sydd yn y cyfrif ar ôl tair blynedd?

2. Faint mae wedi arbrisio?

Tabl buddsoddiad yn dangos llog dros gyfnod 3 blynedd

Ateb

1. Y swm sydd yn y cyfrif yw £224.9728. Fodd bynnag, pan rydyn ni’n delio ag arian, rydyn ni’n talgrynnu i'r geiniog agosaf. Felly’r ateb yw £224.97.

2. Rydyn ni’n tynnu’r swm cychwynnol o’r swm terfynol i gyfrifo faint mae wedi arbrisio:

£224.97 – £200 = £24.97.

Defnyddio’r fformiwla

Mae ffordd arall o gyfrifo’r uchod trwy ddefnyddio fformiwla.

Y fformiwla yw \({V}~=~{l}(1~+~i){^n}\):

  • V yw gwerth terfynol yr arian
  • l yw gwerth cychwynnol yr arian
  • i yw’r llog fel degolyn
  • n yw nifer y blynyddoedd

1. \({V}~=~{l}(1~+~i){^n}\)

\({V}~=~{200}(1~+~0.04){^2}~=~£224.97\) i ddau le degol.

Yna gelli gyfrifo rhan 2 fel uchod.

Dibrisiant

Pan rydyn ni’n cyfrifo dibrisiant, rwyt yn tynnu o’r swm cychwynnol yn lle adio bob blwyddyn.

Mae’r fformiwla’n newid ychydig ar gyfer dibrisiant, rwyt ti’n tynnu’r tu mewn i’r cromfachau yn lle adio.

\({V}~=~{l}(1~-~i){^n}\)

Question

Gwerth yr asedau mewn cwmni yw £15,000 ond mae’r rhain yn debygol o golli 8% o’u gwerth yn flynyddol am ddwy flynedd. Faint mae’r asedau wedi dibrisio?