³ÉÈË¿ìÊÖ

Cynilo a benthyca

Cyfrif cynilo ar gyfer busnes

Mae nifer o wahanol gyfrifon cynilo ar gael i fusnesau os yw dy fusnes yn gwneud elw. Bydd y gyfradd llog ar y cyfrif yn dy helpu i benderfynu pa gyfrif fydd yn ennill y swm mwyaf o arian i ti. Y llog ar gyfrif cynilo yw’r swm mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu’n ei dalu i ti os byddi’n penderfynu cynilo dy arian gyda nhw. Mae’n cael ei gyfrifo fel canran o’r arian sydd yn y cyfrif.

Benthyca

Pe bai dy fusnes angen benthyg arian, mae nifer o opsiynau benthyg ar gael. Dyma rai ohonyn nhw:

  • Benthyciad busnes

Mae’n bosib cael benthyciad busnes gan fanc neu gwmni cyllid, a byddai’n rhaid ei ad-dalu ar ffurf rhan-daliadau misol wedi eu cytuno o flaen llaw. Byddi’n ad-dalu’r swm gwreiddiol rwyt yn ei fenthyg, yn ogystal â’r llog. Y llog yw’r arian mae’r banc yn ei godi am fenthyg yr arian i ti a bydd hwn yn ganran o’r swm rwyt ti’n ei fenthyg. Yn aml, os byddi’n cychwyn busnes sydd heb ddechrau gwneud elw eto, bydd yn rhaid i ti ddangos cynllun busnes manwl i’r banc. Bydd hwn yn cynnwys dy holl ffigurau a rhagamcaniadau ar gyfer dy fusnes newydd. Yna bydd y banc yn penderfynu a yw’n fodlon benthyg yr arian i ti ai peidio, ar sail pa mor llwyddiannus maen nhw’n meddwl y bydd dy fusnes.

  • Benthyciad teulu

Yn aml, mae banciau’n amharod i fenthyg arian i fusnesau newydd cyn iddyn nhw ddechrau gwneud arian. Yn yr achos hwn, bydd llawer o bobl yn gofyn i gael benthyg arian gan aelodau’r teulu er mwyn cychwyn eu busnesau. Gall hwn fod yn opsiwn mwy hyblyg, gan y byddai aelodau’r teulu efallai’n fodlon aros am yr ad-daliadau, nes bod y cwmni’n dechrau gwneud elw.

  • Gorddrafftiau busnes a chardiau credyd

Fel gyda benthyciad, bydd yn rhaid i ti ad-dalu’r swm gwreiddiol a gafodd ei fenthyg, yn ogystal â llog ar y cyfrifon. Mae gorddrafftiau busnes yn estyniad ar dy gyfrif arferol, tra bo cardiau credyd yn gyfrifon ar wahân. Maen nhw’n aml yn cael eu hystyried yn atebion byrdymor gan fod y cyfraddau llog ar rai o’r cyfrifon hyn yn gallu bod yn uchel iawn, yn enwedig ar ôl i unrhyw gynigion cychwynnol ddod i ben.

  • Benthyca yn erbyn dy asedau

Os oes gen ti unrhyw werth yn yr mae’r cwmni’n berchen arnyn nhw, gelli ddefnyddio hyn fel gwarant yn erbyn unrhyw arian rwyt ti’n ei fenthyg. Bydd yn ofalus iawn gyda’r dull hwn – os na fyddi’n gallu talu’r ad-daliadau, mae gan y banc hawl ar dy asedau.

  • Cyllid gan y llywodraeth

Mae nifer o wahanol ffynonellau cyllid ar gael i fusnesau gan y llywodraeth. Bydd yn rhaid i ti wneud cais am yr arian a chwrdd â meini prawf penodol er mwyn gallu cael yr arian hwn. Fodd bynnag, os byddi di’n llwyddiannus, ni fydd yn rhaid i ti ad-dalu’r arian hwn.

  • Cyllid llif arian

Cyllid llif arian yw benthyciad byrdymor y gelli ei fenthyg i dalu biliau pan fyddi’n gwybod y bydd incwm yn dod i mewn yn fuan. Mae’r llog fel arfer yn uchel ar y cyfrifon hyn a dim ond dros gyfnodau byr o amser maen nhw’n cael eu defnyddio fel arfer.