Elw a cholled – haenau ganolradd ac uwch
Pan fydd cwmni’n gwneud arian ar ôl talu ei holl gostau, dywedwn ei fod wedi gwneud elw. Os nad yw cwmni’n gwneud digon o arian i dalu ei holl gostau, dywedwn ei fod wedi gwneud colled.
Question
Mae cwmni’n prynu stoc am £3,250 ac yn ei werthu am £4,150. Faint o elw mae’n ei wneud ar y stoc hon?
£4,150 – £3,250 = £900 o elw.
Question
Y llynedd, derbyniodd siop £120,000 o arian. Mae’r tabl hwn yn dangos gwariant y siop.
Manylion | Swm |
Rhent yr adeilad | £12,000 |
Cyflogau | £48,000 |
Cost y stoc | £55,000 |
Arall | £16,000 |
Manylion | Rhent yr adeilad |
---|---|
Swm | £12,000 |
Manylion | Cyflogau |
---|---|
Swm | £48,000 |
Manylion | Cost y stoc |
---|---|
Swm | £55,000 |
Manylion | Arall |
---|---|
Swm | £16,000 |
A yw’r siop yn gwneud elw neu golled ar hyn o bryd?
Cyfanswm y gwariant
£12,000 + £48,000 + £55,000 + £16,000 = £131,000.
Derbyn £120,000 – £131,000 gwariant = -£11,000.
Mae hyn yn golygu eu bod yn gwneud colled o £11,000.
Enghraifft
Mae cwmni’n talu £100 am ffôn symudol. Yn ystod sêl yn yr haf, mae’r cwmni’n cynnig disgownt o 20% ar bris dangosol arferol y ffôn. Mae’r cwmni’n parhau i wneud 10% o elw yn ystod y sêl. Beth yw’r pris dangosol cyn rhoi’r disgownt arno?
Canfydda beth yw pris gwerthu’r ffôn sy’n gwneud 10% o elw i’r cwmni:
10% o elw = 10% o 100 = £10.
Y pris gwerthu yw £100 + £10 = £110.
Pris gwerthu’r ffôn oedd y swm gwreiddiol sydd wedi ei ostwng 20%.
Felly mae’r pris yn y sêl yn 80% o’r swm gwreiddiol (100% - 20% = 80%).
Os byddwn ni’n canfod gwerth 1%, gallen ni wedyn ei luosi â 100 i ganfod y swm gwreiddiol.
80% = 110
1% = 110 ÷ 80 = 1.375.
Felly, mae 100% = 1.375 × 100 = £137.50.
Elw neu golled ganrannol
Mewn mathemateg, gofynnir i ti’n aml i roi elw neu golled ganrannol. Y fformiwla i gyfrifo elw canrannol yw:
\({Elw~canrannol} = \frac {Elw} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
Yn yr un modd, gallwn gyfrifo colled ganrannol trwy ddefnyddio’r fformiwla hon:
\({Colled~ganrannol} = \frac {Colled} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
Enghraifft
Mae rheolwr siop esgidiau’n prynu 20 pâr o esgidiau ymarfer am £40 yr un.
1. Canfydda’r elw canrannol os yw’r esgidiau ymarfer yn cael eu gwerthu am £50 yr un.
2. Canfydda’r golled ganrannol os yw’r esgidiau ymarfer yn cael eu gwerthu am £35 yr un.
1. Cyfanswm cost yr esgidiau ymarfer: 20 × £40 = £800.
Cyfanswm y pris gwerthu: 20 × £50 = £1,000.
Elw: £1,000 – £800 = £200.
\({Elw~canrannol} = \frac {Elw} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
\({Elw~canrannol} = \frac {200} {800}~\times~{100}~=~25\percent\)
Byddet ti wedi cael yr un ateb pe baet ti wedi cyfrifo’r fformiwla trwy ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer un pâr yn unig:
Elw: £50 – £40 = £10.
\({Elw~canrannol} = \frac {Elw} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
\({Elw~canrannol} = \frac {10} {40}~\times~{100}~=~25\percent\)
2. Fe ddefnyddiwn ni’r wybodaeth ar gyfer un pâr yn unig y tro hwn.
Colled: £40 – £35 = £5.
\({Colled~ganrannol} = \frac {Colled} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
\({Colled~ganrannol} = \frac {5} {40}~\times~{100}~=~12.5\percent\)
Question
Cyfrifa’r golled ganrannol os yw cwmni’n prynu stoc am £1,000 ond yn llwyddo i’w gwerthu am £900 yn unig.
Colled: 1,000 – 900 = £100.
\({Colled~ganrannol} = \frac {Colled} {Swm~Gwreiddiol}~\times~{100}\)
\({Colled~ganrannol} = \frac {100} {1000}~\times~{100}~=~10\percent\)
Maen nhw’n gwneud 10% o golled.